Astudiaeth achos: Barnardo’s Cymru – Divert

16eg Gorffennaf 2020

Mae Barnardo's Cymru wedi'i gomisiynu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i weithio mewn ysgolion uwchradd penodol yng Ngwent a nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn gysylltiedig â throseddu difrifol a threfnedig.

Mae'r prosiect Divert yn adnabod pobl ifanc sy'n agored i niwed trwy ddefnyddio cyfres o ddangosyddion sy'n cynnwys:

  • Cyfnodau o fod ar goll o'r cartref / gofal / ysgol
  • Presenoldeb gwael yn yr ysgol
  • Pryderon iechyd meddwl / iechyd corfforol
  • Defnydd o sylweddau gan ofalwyr / teulu
  • Ymwneud negyddol â chyfoedion
  • Person ifanc yn defnyddio cyffuriau neu alcohol
  • Troseddoldeb gan ofalwr / teulu

Mae gweithwyr cymorth yn gweithio gyda'r bobl ifanc a'u teuluoedd i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr ymddygiad.

Mae'r gwaith yn rhan o'r Prosiect Troseddau Trefnedig a Thrais Difrifol ehangach, sy'n cael ei ariannu gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r Swyddfa Gartref, i fynd i'r afael â thrais a throseddau difrifol a threfnedig ledled Gwent.


Astudiaeth achos

Cyflwynwyd atgyfeiriad ar gyfer cleient yn dilyn digwyddiad lle honnir bod grŵp o ferched ifanc yn ysmygu sbeis yn yr ysgol. Cytunodd y teulu cyfan i gael cymorth a threfnwyd ymweliad â’r cartref gyda gweithiwr allweddol a gweithiwr cymorth i deuluoedd.

Mae cymorth gyda'r cleient wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar gamddefnyddio sylweddau ac ymddygiad peryglus. I ddechrau roedden nhw’n defnyddio canabis yn aml ac yn cymryd risgiau diangen yn y gymuned. Erbyn hyn, maen nhw’n deall y peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau yn ogystal â'r canlyniadau ac, o ganlyniad, mae wedi lleihau ei defnydd yn sylweddol.

Trwy ragor o sesiynau daeth i’r amlwg fod y cleient yn dioddef o orbryder. Felly fe wnaeth y gweithiwr allweddol Divert gynnwys dulliau ymdopi a thechnegau tawelu a fyddai'n cefnogi'r cleient pan fydd hi'n orbryderus. Mae'r cleient wedi dweud ei bod yn defnyddio'r rhain yn yr ysgol ac yn y cartref os yw'n teimlo bod ei gorbryder yn cynyddu. Yn ogystal â hyn, mae'r gweithiwr allweddol yn defnyddio cardiau teimladau ymhob sesiwn i archwilio sut y mae'r cleient yn teimlo a sut y gall y teimladau hyn effeithio arni hi ac ar eraill. O ganlyniad, mae ymddygiad y cleient yn yr ysgol wedi gwella ac mae ei pherthynas â'i chyfoedion a'i theulu yn llawer gwell.

Drwy gydol yr amser hwn, mae mam y cleient wedi bod yn cael cymorth hefyd trwy weithiwr cymorth i deuluoedd Divert. Wrth drafod bywyd teuluol daeth yn amlwg fod y teulu wedi dioddef trawma enfawr. Ceir hanes o drais domestig, iechyd meddwl gwael, anableddau dysgu, camddefnyddio sylweddau a brodyr a chwiorydd yn y carchar, yn ogystal â rhieni yn gwahanu. Mae cyfran helaeth o'r sesiynau wedi canolbwyntio ar sgiliau cyfathrebu a meithrin y berthynas rhwng y cleient a'i mam.

Yn ogystal â hyn, mae cynllun diogelwch wedi'i greu ac mae’r fam wedi bod yn rhagweithiol o ran sicrhau bod y cleient yn cadw’n ddiogel a bod risgiau'n lleihau. O ganlyniad i'r cymorth mae'r fam a'r cleient yn dweud bod eu perthynas wedi gwella'n sylweddol, ac mae’r ddwy yn mwynhau amser da gyda'i gilydd.

Mae cymorth yn cael ei gynnig i’r cleient a'i mam yn rhithwir erbyn hyn o ganlyniad i COVID-19. Mae'r ddau yn parhau i adrodd gwelliannau cadarnhaol.