Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn canmol lluoedd heddlu Cymru
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi canmol pedwar heddlu Cymru yn ei hadroddiad diweddaraf.
Mae Adroddiad Sbotolau Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu 'The Hard Yards', sy'n edrych ar gydweithrediad rhwng lluoedd heddlu'r DU, yn cydnabod bod cysylltiadau cryf rhwng lluoedd yng Nghymru, gyda chymorth trefniant y Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, yn galluogi lluoedd i wneud penderfyniadau effeithlon ac effeithiol ledled y wlad.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y gwaith da rydym yn ei wneud yma yng Nghymru.
"Mae'r pedwar Comisiynydd a’r pedwar Prif Gwnstabl wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y prosesau a gweithdrefnau cywir ar waith i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru ac rwyf wrth fy modd bod y gwaith da hwn wedi cael ei gydnabod ar y lefel uchaf."
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes: ‘Rwy'n croesawu adroddiad yr HMICFRS heddiw ar gydweithio rhwng heddluoedd.
“Er ei fod yn nodi sawl maes lle gall yr heddlu wella effeithiolrwydd o ran gweithio mewn partneriaeth, rwyf wedi fy nghalonogi bod grŵp Cymru gyfan wedi cael canmoliaeth arbennig am nodi diben clir ar gyfer cydweithio, ein gwaith tuag at leihau biwrocratiaeth, a gwella effeithlonrwydd.”
Ychwanegodd: “Wrth galon pob un o'n cydweithrediadau y mae'r awydd i wella plismona ar gyfer Cymru gyfan, a braf oedd gweld hyn yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad.
“Drwy weithio'n agos rhwng y prif swyddogion a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd, rydym wedi galluogi newid cadarnhaol mewn tri maes allweddol: symleiddio gwasanaethau TG, recriwtio ac adnoddau dynol, yn ogystal â chysoni polisïau a gweithdrefnau.
“Bydd y gwelliannau hyn yn ein galluogi i gyflawni ein prif amcan, sef darparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru, a byddwn yn ceisio gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau ein llwyddiant yn hyn o beth.”
Dywedodd y Gwir Anrh Alun Michael, Cadeirydd Grŵp Plismona Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru: “Mae'r adroddiad yn gymeradwyaeth i'r ffordd rydym wedi gweithio yn y blynyddoedd diwethaf.
“Mae'n cydnabod bod cydweithio, neu gydweithredu, yn gofyn am gynllunio da, amcanion clir a chyfres o amcanion a rennir ac nid yw’n hud a lledrith. Felly mae'n foddhaol iawn bod yr adroddiad yn datgan bod y ffordd rydym wedi gweithio gyda'n gilydd fel pedwar Comisiynydd a phedwar Prif Gwnstabl yng Nghymru wedi bod yn effeithiol iawn.
“Mae'n nodi'n glir ein bod "yn cydnabod bod cael diben clir ar gyfer cydweithredu yn bwysig ac yn buddsoddi amser ac ymdrech i gael hyn yn iawn. Mae'n amlwg bod hyn wedi cyfrannu at greu momentwm.
“Mae hefyd yn cydnabod manteision y ffordd rydym wedi rheoli ein cyfarfodydd fel bod arweinyddiaeth gan Brif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yn ategu ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd. Nid ar hap a damwain y digwyddodd hyn, ac er bod yr adroddiad hwn yn ymwneud yn benodol â chydweithredu rhwng yr heddlu a'r heddlu, mae'n gysylltiedig â'r ffordd yr ydym wedi ceisio gweithio gyda chyrff ac asiantaethau datganoledig ac annatganoledig sy'n gweithio ledled Cymru er mwyn datblygu cyflwyno'r system cyfiawnder troseddol orau bosibl i'r cyhoedd yr ydym yn ei gwasanaethu.”