Arolwg y Comisiynydd Dioddefwyr

22ain Ebrill 2020

Mae'r Comisiynydd Dioddefwyr, Y Fonesig Vera Baird CF, wedi lansio arolwg i helpu i lywio ei hymateb i'r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr diwygiedig (sy'n cael ei adnabod fel y Cod Dioddefwyr). Hoffai Dame Baird glywed am brofiadau dioddefwyr ar bob cam o'r broses cyfiawnder troseddol, o'r digwyddiad dechreuol, trwy ymchwiliad yr heddlu, i unrhyw achos llys dilynol. Gallwch rannu eich profiadau yma https://www.smartsurvey.co.uk/s/victimscodesurvey/ 

Mae'r arolwg yn cau ddydd Mawrth 5 Mai.

Am ragor o wybodaeth am rôl y Comisiynydd Dioddefwyr a'r Cod Dioddefwyr, ewch i https://victimscommissioner.org.uk/victims-commissioner/