Arian ar gael i helpu i fynd i’r afael a cham-drin domestig a thrais rhywiol

21ain Mai 2020

Mae cyllid sy’n dod i gyfanswm o £200,000 ar gael i sefydliadau yng Ngwent sy’n cynorthwyo’r rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol i helpu gyda chostau ychwanegol a ysgwyddwyd o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu cyhoeddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder o becyn gwerth £76 miliwn i gynorthwyo dioddefwyr, ac mae’n annog gwasanaethau cymorth lleol sy’n darparu cymorth penodol ar gyfer cam-drin domestig a thrais rhywiol i wneud cais am grantiau i gynorthwyo eu gwaith.

5pm 5 Mehefin yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Mae’n rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 31 Hydref.

 

Meini prawf a chanllawiau ymgeisio.

Meddai Jeff Cuthbert: “Bydd y cyllid hwn yn helpu i gynorthwyo goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn ystod COVID-19. Fodd bynnag, mae’r amserlenni ar gyfer gwneud cais am gyllid yn dynn iawn.

“Mae Heddlu Gwent a’n partneriaid allweddol wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers dechrau’r cyfyngiadau symud yn helpu rhai o’n trigolion mwyaf agored i niwed. I lawer o’r rhain, nid yw eu cartrefi y lloches y dylen nhw ei fod oherwydd cam-drin domestig a thrais rhywiol.

“Mae’r cyfyngiadau symud cenedlaethol yn golygu ei bod yn anochel y bydd y digwyddiadau hyn yn cynyddu ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael a hyn.

“Bydd cyllid fel y £200,000 hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ein helpu i weithio gydag elusennau rheng flaen i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i bobl agored i niwed.

“Rwy’n annog unrhyw sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r problemau hyn yng Ngwent i gysylltu â’m swyddfa cyn gynted â phosibl i weld a ydyn nhw’n gymwys i dderbyn rhywfaint o’r cyllid hwn.

“Ac os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig, peidiwch â dioddef yn dawel. Dywedwch wrth rywun. Mae gwasanaethau cymorth yno i chi.”

Os hoffech ragor o wybodaeth am wneud cais am gyllid, anfonwch e-bost at emma.lionel@gwent.pnn.police.uk

Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae cyngor ar gael yn www.gwentsafeguarding.org.uk. Gallwch hefyd ffonio Byw Heb Ofn, llinell gymorth Llywodraeth Cymru, am ddim ar 0808 8010 800. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.