Adroddiad cenedlaethol yn cydnabod y galw cynyddol ar blismona rheng flaen
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi ei hasesiad blynyddol o blismona yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r adroddiad Cyflwr Plismona yn cydnabod y galw cynyddol ar wasanaethau plismona rheng flaen a’r heriau y mae hyn yn eu creu i blismona lleol.
Mae ei awdur, Prif Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi Syr Thomas Winsor, yn amlygu materion fel darpariaeth gyhoeddus wael ar gyfer iechyd meddwl, mathau o droseddau yn esblygu, a diffyg cyllid ymhlith yr heriau sy’n wynebu heddluoedd ledled y wlad.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Adroddiad cenedlaethol yw hwn, sy’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU ar y lefelau uchaf i lywio’r broses o wneud penderfyniadau, ac rwy’n falch o’i weld yn cydnabod materion y mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi bod yn eu codi ers cryn dipyn o amser.
"Yn benodol, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr her y mae darpariaeth wael mewn cymunedau ar gyfer iechyd meddwl yn ei chyflwyno i’n swyddogion heddlu. Yng Ngwent rydym ni wedi gosod ymarferwyr iechyd meddwl wedi’u neilltuo yn ystafelloedd rheoli ein heddluoedd. Er bod hyn yn caniatáu i’r heddlu ymdrin yn fwy sensitif a phriodol â dioddefwyr sy’n agored i niwed, nid yw’n helpu i leihau’r galw ar y rheng flaen.
"Rwyf hefyd yn falch ac wedi cael sicrwydd o weld bod Syr Thomas wedi cydnabod yr anawsterau gwirioneddol sy’n ein hwynebu wrth gydbwyso galw’r gan y cyhoedd heb gyllid digonol.
"Mae Heddlu Gwent yn unig wedi gorfod gwneud bron i £53 miliwn o arbedion ers 2010 oherwydd toriadau llywodraeth. Fel Comisiynwyr, mae gennym ni’r grym i godi arian ychwanegol drwy braesept y dreth gyngor leol, ond nid yw’n iawn bod trethdalwyr lleol yn parhau i ysgwyddo baich tanariannu hirdymor Lywodraeth y DU.
"Yn y pen draw bydd rhywbeth yn siŵr o fynd o’i le, ac rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn ysgytwad i Lywodraeth y DU ystyried o ddifrif adolygu cyllid yr heddlu ar gyfer y dyfodol."
Caiff yr adroddiad Ar Gyflwr Plismona ei gynhyrchu ar ôl misoedd o arolygiadau a gwaith gyda heddluoedd ledled y DU, ac mae’n tynnu sylw at yr hyn sy’n gweithio’n dda, a lle mae angen gwneud gwelliannau.
Darllenwch yr adroddiad llawn ar wefan HMICFRS.