Adolygiad plismona ffyrdd

4ydd Mawrth 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, wedi croesawu ymrwymiad Heddlu Gwent i roi canfyddiadau ei adolygiad o blismona ffyrdd yng Ngwent ar waith.

Cynhaliodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent adolygiad o ddarpariaeth plismona ffyrdd cyfredol Heddlu Gwent yn 2019-20.

Yn ogystal â chydnabod y gwaith da mae Heddlu Gwent yn ei wneud, gwnaeth yr adolygiad nifer o argymhellion, gan gynnwys argymhelliad y dylai'r llu fuddsoddi rhagor o adnoddau mewn plismona ffyrdd ledled y rhanbarth.

Dywedodd Jeff Cuthbert, sy'n arwain ar ddiogelwch ar y ffyrdd i Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu: “Mae cyllid Heddlu Gwent gan y llywodraeth wedi gostwng yn sylweddol ers 2010 ac mae wedi gorfod gwneud bron i £50 miliwn o arbedion. Mae hyn wedi golygu bod blaenoriaethu adnoddau mewn rhai meysydd wedi bod yn her.

Fodd bynnag, mae'r buddsoddiad sylweddol rydym wedi ei wneud mewn rhyw 170 swyddog heddlu newydd ers 2016, a'r buddsoddiad ychwanegol diweddar gan lywodraeth y DU trwy ymgyrch Uplift, wedi galluogi Heddlu Gwent i adolygu ei fodel gweithredu.

"Rwyf yn falch bod hyn yn mynd i gynnwys Uned Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol newydd a fydd yn corffori'r argymhellion a wnaed gan fy swyddfa."

Mae argymhellion yn yr adroddiad yn cynnwys ymrwymo i fuddsoddi mewn gwaith casglu data ac ymchwil mwy arbenigol er mwyn deall achosion sylfaenol gwrthdrawiadau traffig yng Ngwent yn well, llenwi swyddi gwag yn Uned Cymorth Ardal y llu, a rhoi mesurau perfformiad newydd ar waith er mwyn cael gwell dealltwriaeth o berfformiad yr heddlu.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Ian Roberts: "Rydym yn gweithio i fynd i'r afael â'r ddwy elfen o blismona ffyrdd sy'n cael effaith sylweddol ar ein cymunedau. Rydym yn cynyddu buddsoddiad ac yn canolbwyntio ar wneud ein ffyrdd yn fwy diogel a lleihau damweiniau. Gan fod rhai rhwydweithiau ffyrdd allweddol yn cysylltu Cymru a Lloegr yng Ngwent, mae buddsoddi mewn cymorth plismona ar gyfer ymgyrchoedd i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig i wrthsefyll y bygythiad gan derfysgaeth ac eithafiaeth yn hollbwysig hefyd. Rydym yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ddatblygu cynllun llwyddiannus ar gyfer plismona ffyrdd yng Ngwent."