ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU’R GYMRAEG 2024/25


Cyflwyniad
Strategaeth y Gymraeg ar y Cyd 2021-25
Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
Cydymffurfio â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau
Cydymffurfio â Safonau Llunio Polisi
Cydymffurfio â Safonau Gweithredu
Atodiad: Diffiniadau Heddluoedd Cymru o Lefelau Sgiliau Cymraeg y Cytunwyd Arnynt


CYFLWYNIAD

Mae’r Adroddiad Cydymffurfiaeth Blynyddol hwn yn canolbwyntio ar y gofynion adrodd sydd wedi’u cynnwys yn safonau’r Gymraeg sy’n berthnasol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar sut rydym wedi gweithio tuag at yr addewidion allweddol sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth y Gymraeg ar y cyd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent 2021-2025.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (y Comisiynydd) wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau rydym yn eu darparu o ddydd i ddydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel gwasanaeth plismona, rydym yn parhau i weithio i ymgorffori’r defnydd o’r Gymraeg yn ein busnes beunyddiol yn y gweithle a chyda’n cymunedau.

Mae cynyddu ein gallu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i ddinasyddion Gwent yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid eraill i nodi arferion gwell ac arloesol i’n cynorthwyo ni i gyflawni’r nodau a amlinellir yn y Strategaeth a chydymffurfio â’n safonau priodol.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch sut y gallwn barhau i wella’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau yn ddwyieithog.


STRATEGAETH Y GYMRAEG AR Y CYD

Mae Strategaeth y Gymraeg 2021-25 yn cynnwys tri addewid allweddol:

  1. Ymgysylltu’n effeithiol â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i lunio’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

    Trwy gydol 2024/25, parhaodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa’r Comisiynydd) i ganolbwyntio ar ymgysylltu â’n cymunedau Cymraeg eu hiaith. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gynnal prosesau arolygu ac ymgynghori cyhoeddus ynghylch y cynigion ar gyfer praesept y dreth gyngor ar gyfer plismona a’r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd ar gyfer Gwent.

    Gwnaethom ymgysylltu â phobl drwy gyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ar draws holl ardaloedd y cyngor, a chynhaliwyd arolwg ar-lein dwyieithog hefyd. Cafodd dolen i’r fersiwn Gymraeg ei hyrwyddo’n rhagweithiol drwy’r rhwydweithiau Cymraeg yng Ngwent ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

    Cawsom gyfanswm o 1,043 o ymatebion i’r arolwg ar y Praesept, gydag wyth unigolyn yn dewis rhoi eu hadborth yn Gymraeg – sy’n gyson ag ymgysylltiad y flwyddyn flaenorol.

    Cawsom gyfanswm o 1,616 o ymatebion i arolwg Cynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, gyda thri unigolyn yn dewis rhoi eu hadborth yn Gymraeg.

    Rydym hefyd wedi parhau i ddarparu’r fersiwn Gymraeg o’n e-fwletin i’n tanysgrifwyr ac rydym wedi cynnal ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg (gweler adran 4 am fwy o wybodaeth).

  2. Cynyddu nifer y siaradwyr a dysgwyr Cymraeg rydym yn eu cyflogi ar draws y ddau sefydliad (gweler adran 3.4).

  3. Casglu data y gallwn ei ddefnyddio i wella ansawdd ein gwasanaethau Cymraeg.
    Mae enghreifftiau o’r data rydym yn ei gasglu yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag ymgysylltu â’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, cwynion yn ymwneud â sut rydym yn darparu ein gwasanaethau Cymraeg (cyhoeddus a mewnol), ceisiadau gan staff am ddogfennau Cymraeg sy’n ymwneud â’u cyflogaeth, a sgiliau Cymraeg yn y sefydliad. Ceir gwybodaeth am y rhain yn yr adroddiad hwn.

Er mwyn hwyluso cydberthnasau gwaith agosach a sicrhau’r arbedion effeithlonrwydd mwyaf posibl, mae Heddlu Gwent a Swyddfa’r Comisiynydd wedi parhau i gael budd Cyfieithydd Cymraeg a Rheolwr Polisi Iaith Gymraeg Strategol a rennir, y mae’r ddau wedi’u lleoli o fewn Heddlu Gwent. Er mai adnoddau’r heddlu yw’r rhain yn bennaf, caiff cymorth ychwanegol ei ddarparu i Swyddfa’r Comisiynydd i gynnal a gwella’r gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gennym.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2025, cyhoeddodd y Comisiynydd Strategaeth Gymraeg newydd ar gyfer 2025-28, gan nodi ein hymrwymiad o’r newydd i ddarparu gwasanaeth dwyieithog a’r ffordd y byddwn yn mynd ati i gyflawni ein huchelgeisiau dros gyfnod y Strategaeth.

CYDYMFFURFIO Â SAFONAU’R GYMRAEG

Mae’r adrannau canlynol yn rhoi gwybodaeth am safonau Cymraeg penodol y mae’n ofynnol i’r Comisiynydd adrodd yn eu herbyn. Wrth wneud hynny, rydym yn dangos sut mae Swyddfa’r Comisiynydd yn cydymffurfio â’r safonau hynny ar ran y Comisiynydd.

  1. Cwynion yn ymwneud â Gwasanaethau Cymraeg
    Yn ystod y cyfnod adrodd, ni dderbyniodd Swyddfa’r Comisiynydd unrhyw gwynion am ein darpariaeth gwasanaethau Cymraeg, fel y nodir yn safonau’r Gymraeg. Mae hyn yn gyson â’r cyfnod adrodd blaenorol.

    Fel rhan o’n gwaith ymgysylltu parhaus â’n cymunedau, rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i roi gwybod i ni os ydynt o’r farn nad ydym yn bodloni ein rhwymedigaethau o ran safonau’r Gymraeg. Mae hyn yn ein helpu i barhau i wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu ac i gyfathrebu’n effeithiol â’n cymunedau. Gellir cysylltu dros y ffôn neu drwy e-bost, wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau cyhoeddus neu gyfarfodydd, trwy ein gwefan, neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Rhoddir rhagor o fanylion ar ddiwedd y ddogfen hon.

    Mae ein gweithdrefn ar gyfer cwynion sy’n ymwneud â’n cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan yn Gweithdrefn ar Gyfer Cwynion yn Ymwneud â Chydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg | Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk), ynghyd â’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cysylltiedig, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg.

  2. Swyddi a Hysbysebwyd yn 2024/25
    Ni wnaeth Swyddfa’r Comisiynydd hysbysebu unrhyw swyddi gwag yn ystod y cyfnod adrodd. Mae pob un o swyddi Swyddfa’r Comisiynydd yn gofyn am o leiaf Cymraeg lefel 1, gyda hyfforddiant gorfodol yn cael ei ddarparu yn ystod cyfnod cynefino staff. Mae hwn hefyd yn ofyniad ar gyfer proses recriwtio’r Prif Gwnstabl, yr ydym yn gyfrifoldeb amdani.

    Mae prosesau recriwtio yn ystyried y defnydd o gamau cadarnhaol a hysbysebu wedi’i dargedu i ddenu ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg. Mae ein Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn gweithio gyda’r Rheolwr Polisi Iaith Gymraeg Strategol ar y cyd i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i dargedu ein cymunedau Cymraeg a chodi ymwybyddiaeth o swyddi gwag wrth iddynt godi.

  3. Hyfforddiant
    Hyfforddiant yn y Gymraeg
    Mae Heddlu Gwent a Swyddfa’r Comisiynydd yn darparu hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a Sgiliau Cymraeg Lefel 1 i bob gweithiwr fel cwrs gorfodol.

    Mae pob aelod presennol o staff wedi ymgymryd â’r sesiwn hyfforddi orfodol. Caiff hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a Sgiliau Cymraeg Lefel 1 eu cynnwys yn y rhaglen hyfforddiant cynefino ar gyfer pob aelod newydd o staff. Mae hyfforddiant diweddaru ar gyfer pob swyddog ac aelod o staff ar gael erbyn hyn, a bydd yn cael ei gyflwyno i’r holl staff yn ystod hanner cyntaf 2025/26.

    Mae cyfleoedd ar gael i weithwyr ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau Cymraeg presennol. Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion a ddarperir gan Goleg Gwent wedi parhau i gael eu cynnig yn ystod y flwyddyn, a gall gweithwyr fynychu’r cyrsiau hyn yn ystod amser gwaith. Yn ystod y cyfnod adrodd, nid oedd unrhyw ddysgwyr ymhlith staff Swyddfa’r Comisiynydd.

    Mae gwybodaeth am adnoddau dysgu Cymraeg eraill ar gael i staff ar fewnrwyd Heddlu Gwent, Y Bît / The Beat.

    Yn ystod y flwyddyn, mae Heddlu Gwent wedi bod wrthi’n recriwtio Tiwtor Dysgu Cymraeg llawn amser, a’r disgwyl yw y bydd y rôl yn dechrau yn ystod haf 2025. Bydd staff Swyddfa’r Comisiynydd yn cael cyfle i fanteisio ar y sesiynau a gynigir, a fydd yn anelu at gefnogi unigolion i weithio’n ddwyieithog.

    Byddwn yn parhau i gefnogi ac annog staff sy’n dymuno dysgu neu wella eu defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys drwy Rwydwaith Siaradwyr a Dysgwyr Cymraeg Heddlu Gwent.

  4. Sgiliau Cymraeg Gweithwyr
    Mae’r siart ganlynol yn dangos lefel y sgiliau Cymraeg yn Swyddfa’r Comisiynydd fel y’u cofnodwyd ar gyfer y flwyddyn adrodd:
    mae gan 22 o aelodau o staff sgiliau Cymraeg Lefel 1;
    mae gan 1 aelod o staff sgiliau Cymraeg Lefel 2;
    mae gan 1 aelod o staff sgiliau Cymraeg Lefel 4.

    Rydym yn falch o fod wedi cynnal y lefel sylfaenol o sgiliau Cymraeg sydd ar gael ar draws y sefydliad a byddwn yn parhau i annog a chefnogi staff i ddatblygu eu galluoedd a’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

    Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r Rheolwr Cymraeg Strategol i nodi cyfleoedd ychwanegol i staff ddatblygu eu Cymraeg y tu allan i’r amgylchedd dysgu ffurfiol.

  5. Monitro a Goruchwylio Cydymffurfiaeth â’r Safonau
    Mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am fonitro a goruchwylio cydymffurfiaeth â safonau Cymraeg Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Cynhelir craffu mewnol ym Mwrdd Rheoli Strategol Swyddfa’r Comisiynydd i alluogi’r Comisiynydd i barhau i oruchwylio cydymffurfiaeth ac ymdrin ag unrhyw faterion.

    Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn cynnal Asesiad o Gydymffurfiaeth â’r Gymraeg yn seiliedig ar risg ac yn cynnal archwiliadau blynyddol i adolygu cydymffurfiaeth â’r safonau perthnasol. Rydym yn parhau i gydnabod heriau o ran ein gallu i ddarparu gwasanaeth ffôn gwirioneddol ddwyieithog. Mae Heddlu Gwent yn rhoi cefnogaeth i’n galluogi ni i ymateb i unrhyw alwadau a wneir yn Gymraeg. Byddwn yn parhau i weithio i nodi datrysiadau addas a chynaliadwy ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir gennym yn hyn o beth.

    Mae gan y Comisiynydd ddyletswydd hefyd i fonitro a chraffu ar gydymffurfiaeth Heddlu Gwent â safonau’r Gymraeg y disgwylir i’r Prif Gwnstabl gydymffurfio â nhw. Mae staff Swyddfa’r Comisiynydd yn cymryd rhan yng Nghyfarfodydd Cymraeg Heddlu Gwent a’r Bwrdd Strategaeth Pobl i gefnogi’r Comisiynydd i ymgymryd â’r ddyletswydd hon.

    Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad y Comisiynydd i’r cyhoedd yn cael Adroddiadau Blynyddol Heddlu Gwent ar Gydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg. Mae’r rhain yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan fel rhan o’n trefniadau llywodraethu. Mae Panel Heddlu a Throsedd Gwent yn cael adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd i roi sicrwydd ein bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Mae’r adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd. O fis Ebrill 2025 ymlaen, bydd y Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd yn cymryd lle’r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, gyda phroses lywodraethu wedi’i diweddaru i gefnogi craffu gwell ar berfformiad. Bydd newidiadau dilynol i brosesau adrodd yn cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau yn y dyfodol.

    Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag unrhyw arfer da a nodwyd neu heriau sy’n dod i’r amlwg wrth i ni barhau i wella a mireinio’r gwasanaeth dwyieithog a ddarperir gennym i ddinasyddion Gwent.

CYDYMFFURFIO Â SAFONAU CYFLENWI GWASANAETHAU

Mae’r adran ganlynol yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’n cydymffurfiaeth â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau y mae’n ofynnol i’r Comisiynydd adrodd yn eu herbyn. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cydymffurfio â phob un o’r gofynion a nodir yn yr adran hon.

  1. Cyfathrebu â’r cyhoedd
    Mae canllawiau ar gyfer pob aelod o staff wedi’u cyhoeddi ar fewnrwyd Heddlu Gwent, Y Bît / The Beat, y mae gan staff Swyddfa’r Comisiynydd fynediad atynt hefyd. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’n glir ac yn syml ofynion y Safonau Cyflenwi Gwasanaethau ar gyfer y ddau sefydliad.

  2. Y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol
    Mae ein gwefan yn cynnwys rhagdudalen i annog a galluogi siaradwyr Cymraeg i ddewis iaith cyn mynd at dudalennau eraill y wefan. Rydym hefyd wedi gwella ein presenoldeb Cymraeg ar draws ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn ymgysylltu’n well â’n cymunedau.

    Ers mis Mehefin 2020, mae Swyddfa’r Comisiynydd wedi cynnal cyfrif Facebook Cymraeg ar wahân Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent | Facebook i sicrhau bod dilynwyr yn gallu gweld cynnwys cyhoeddedig yn eu dewis iaith. Rydym wedi parhau i hyrwyddo ein presenoldeb Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi gweld nifer cyson o ddilynwyr o gymharu â’r llynedd.

    Mae ein e-fwletin wythnosol ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn dibynnu ar ddewis iaith y tanysgrifiwr. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cynnal nifer y tanysgrifwyr yma hefyd.

    Rydym yn parhau i hyrwyddo’r e-fwletin i’n holl gymunedau fel ffordd hawdd o rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith – mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yn E-fwletin | Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk)/.

    Er bod hyn yn gadarnhaol, mae nifer y dilynwyr a’r tanysgrifwyr yn parhau i fod yn isel, a byddwn yn archwilio ymhellach ffyrdd o gynyddu ein cyrhaeddiad yn ystod 2025/26.

  3. Grantiau
    Darperir yr holl wybodaeth a gyhoeddir am gyfleoedd cyllido yn Gymraeg a Saesneg. Pan fyddwn yn cael cais yn Gymraeg, byddwn yn gohebu â’r ymgeisydd yn Gymraeg ac yn darparu gwasanaeth cyfieithu mewn unrhyw gyfarfodydd ategol.

    Yn ystod y flwyddyn adrodd, ni chawsom unrhyw geisiadau cyllido yn Gymraeg. Yn unol â Strategaeth y Gymraeg, byddwn yn parhau i adolygu’r ffordd rydym yn hyrwyddo cyfleoedd cyllido i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith ein bod yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg.

  4. Caffael
    Ni chyhoeddwyd unrhyw geisiadau am dendrau na chontractau yn Gymraeg, ac ni chafwyd unrhyw rai yn Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

    Ar gyfer contractau perthnasol (lle mae pwnc y contract yn awgrymu y dylai fod yn Gymraeg), bydd dogfennau tendro yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg. Mae’r ddogfen dendro yn nodi bod “y Comisiynydd yn croesawu ymatebion tendro yn Gymraeg” ac mae Rhestr Wirio’r Gymraeg wedi’i hymgorffori yn y broses dendro i sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i’r Gymraeg ar bob cam.

    Mae mynediad at wasanaethau cyfieithu proffesiynol yn sicrhau bod cynnwys cyflwyniadau Cymraeg yn cael ei adlewyrchu’n gywir, a bydd y broses werthuso yn cael ei chynnal ochr yn ochr â gwerthuso cyflwyniadau yn Saesneg (os yw’n berthnasol). Bydd yr un dyddiad cau yn berthnasol ar gyfer cyflwyniadau yn Gymraeg a Saesneg a bydd gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn cael eu cynnig a’u trefnu ar gyfer contractau perthnasol os bydd sefydliad yn dymuno cael cyfweliad yn Gymraeg.

    Caiff pob tendr ei hysbysebu yn Gymraeg a Saesneg.


CYDYMFFURFIO Â SAFONAU LLUNIO POLISI

Rydym wedi bodloni ein Safonau Llunio Polisi drwy ddefnyddio’r broses Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb gyfredol i nodi unrhyw effeithiau ar y Gymraeg a rhoi sylw iddynt. Mae Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn rhan orfodol o’n gweithdrefn llunio polisi, ac maent yn arwain llunwyr polisi a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau wrth ystyried effaith niweidiol neu gadarnhaol ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Er nad yw’r Gymraeg yn nodwedd warchodedig o dan Adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae ein templed Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb presennol yn cynnwys sawl cwestiwn penodol sy’n golygu y bydd unrhyw effaith ar y ffordd rydym yn trin y Gymraeg mewn perthynas â’r Saesneg, neu gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, yn cael eu nodi. Mae pob polisi newydd, ac adolygiadau o bolisïau presennol yn destun Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac mae cymorth ar gael gan arweinydd polisi’r Gymraeg a’r Rheolwr Polisi Iaith Gymraeg Strategol i unrhyw gydweithiwr sy’n cwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Er nad yw’r safonau yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynnal asesiad yn y modd hwn yn benodol, mae defnyddio ein proses Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn darparu dull effeithlon a chynhwysfawr i ni asesu effaith ein gweithgareddau o ran y Gymraeg.

Rydym wedi cyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau sy’n nodi sut y byddwn yn ystyried y Gymraeg yn ein penderfyniadau cyllido. Mae’r polisi hwn ar gael ar ein gwefan yn Polisi a Gweithdrefn Arian Grant | Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk).


CYDYMFFURFIO Â SAFONAU GWEITHREDU

Mae’r adran ganlynol yn cynnwys gwybodaeth am ein cydymffurfiaeth â’r Safonau Gweithredu y mae’n ofynnol i’r Comisiynydd adrodd yn eu herbyn. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cydymffurfio â phob un o’r gofynion fel yr amlygir yn yr adran hon.

  1. Cymorth i staff
    Mae canllawiau cynhwysfawr i staff ar Safonau’r Gymraeg yn cael eu cyhoeddi ar fewnrwyd Heddlu Gwent Y Bît’ / The Beat ar y dudalen ‘Y Gymraeg’, y mae gan ein staff fynediad iddi hefyd. Mae’r dudalen hefyd yn cynnwys cymorth ac adnoddau i staff sy’n dymuno ymarfer eu sgiliau Cymraeg neu sy’n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant.

    Darperir templedi Cymraeg ar gyfer ymatebion allan o’r swyddfa a llofnodion personol, ynghyd â bathodynnau rhithwir y gall cydweithwyr eu hychwanegu at eu negeseuon e-bost sy’n nodi eu bod naill ai’n dysgu Cymraeg, neu’n siarad Cymraeg. Mae pob siaradwr a dysgwyr Cymraeg sy’n hysbys yn y sefydliad wedi cael bathodyn neu linyn gwddf priodol i’w wisgo.

  2. Swyddi Cymraeg
    Mae pob hysbyseb swydd yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol fel mater o drefn, oni bai bod swydd yn cael ei hasesu fel un lle mae’r Gymraeg yn hanfodol neu’n gofyn bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn mynd ati i ennill y sgiliau perthnasol. Bydd y broses i asesu newidiadau i ofynion iaith yn cael ei chefnogi gan y Tîm Recriwtio yn Adran Gwasanaethau Pobl Heddlu Gwent.

    Yn allanol, caiff swyddi eu hysbysebu yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, a chyhoeddir fersiynau Cymraeg o wybodaeth sy’n ymwneud â’r swydd honno, yn ogystal â ffurflenni cais. Mae pob cais am swyddi newydd yn gofyn i ymgeiswyr nodi lefel eu gallu yn y Gymraeg, ac a hoffent gwblhau’r broses recriwtio yn Gymraeg.

  3. Arwyddion
    Mae pob arwydd newydd neu arwydd sy’n cael ei ailosod yn cael eu harddangos yn ddwyieithog ledled ystad yr heddlu, gyda’r Gymraeg wedi’i lleoli fel ei bod yn debygol o gael ei darllen yn gyntaf.

  4. Cyrsiau hyfforddi a ddarperir yn Gymraeg
    Nid yw staff Swyddfa’r Comisiynydd wedi gwneud unrhyw geisiadau i gael hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.


ATODIAD: DIFFINIADAU O SGILIAU CYMRAEG

Diffiniadau heddluoedd Cymru o lefelau sgiliau Cymraeg y cytunwyd arnynt (sgiliau llafar yn unig):

Lefel 1
Yn gallu dweud enwau lleoedd, enwau personol, yn gallu cyfarch yn briodol wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, yn gallu dechrau a therfynu cyfarfodydd yn ddwyieithog.

Lefel 2
Yn gallu deall hanfod sgwrs a chyfleu gwybodaeth syml, yn gallu ymateb i geisiadau syml, yn gallu deall ceisiadau am gymorth, yn gallu defnyddio’r Gymraeg i drosglwyddo galwadau ffôn, yn gallu cyflwyno ei hun ac eraill.

Lefel 3
Yn gallu derbyn a throsglwyddo negeseuon sy’n debygol o fod angen sylw yn ystod y diwrnod gwaith, yn gallu sgwrsio’n rhannol yn Gymraeg ond yn troi at Saesneg mewn trafodaethau ac i roi gwybodaeth fanwl, yn gallu disgrifio pobl a lleoliadau, yn gallu ymateb i ymholiadau cyffredinol dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, yn gallu cymryd manylion neu wneud nodyn o sgwrs Gymraeg.

Lefel 4
Yn gallu cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd yn ei faes gwaith ei hun, yn gallu dadlau o blaid neu yn erbyn syniad, yn gallu sgwrsio yn Gymraeg yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi at Saesneg wrth ddefnyddio terminoleg plismona neu dechnegol, yn gallu ymdrin ag ymholiadau’n effeithiol, yn gallu deall gwahanol dafodieithoedd, yn gallu cadeirio cyfarfod ac ymateb i gwestiynau yn Gymraeg, yn gallu disgrifio sefyllfa neu ddigwyddiad yn Gymraeg.

Lefel 5
Yn gallu cyfweld ag ymgeiswyr ar gyfer swyddi lle mae angen gallu siarad Cymraeg ac asesu eu haddasrwydd, yn gallu ymdrin yn effeithiol ag ymholiadau cymhleth neu achosion o wrthdaro yn Gymraeg, yn gallu cyfweld a holi cwestiynau yn Gymraeg yn ystod ymchwiliad, yn gallu ymdrin ag ymholiadau cymhleth neu sensitif, cwynion a chwestiynau ymosodol yn ei faes arbenigol ei hun, yn gallu gwneud cyflwyniadau yn Gymraeg.