Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cytuno i ddyfarnu cyllid hwb gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder i sefydliadau cam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n gweithio yng Ngwent.

Reference Number: PCCG-2021-002

Date Added: Dydd Iau, 20 Mai 2021

Details:

Yn dilyn proses gynnig, mae £783,483 wedi cael ei ddyfarnu i bump o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Ngwent:

  • BAWSO, £32,631 ar gyfer 2021-22, Cyllid Hwb Y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig i gyflogi 1 gweithiwr cymorth BAME arbenigol
  • Cymorth i Fenywod Cyfannol, £27,452 ar gyfer 2021-22, Cyllid Hwb y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig i gyflogi 1 Swyddog Rhwydweitho Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol sy’n gweithio gyda phobl hŷn
  • Cymdeithas Tai Sir Fynwy, £15,686 ar gyfer 2021-22, Cyllid Hwb y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig i gyflogi Gweithiwr Datblygu Cymorth Cymheiriaid Gwrywaidd rhan amser ar gyfer y prosiect Dad’s Can
  • Llwybrau Newydd £63,268 ar gyfer 2021-22, Cyllid Hwb y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer Trais Rhywiol i gyflogi 1 Gweithiwr Cymorth Trais Rhywiol (Plant a Phobl Ifanc) ac 1 cwnselydd Therapi Cyn Achos Llys
  • Llwybrau Newydd £159,710 ar gyfer 2021-22 a £154,940 wedi'i glustnodi ar gyfer 2022-23, Cyllid ISVA Ychwanegol y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer 4 ISVA - 1 ISVA Plant a Phobl Ifanc, 1 ISVA Cymunedol, 1 ISVA Iechyd Meddwl ac 1 ISVA Gwrywaidd
  • Cyngor Dinas Casnewydd £151,036 ar gyfer 2021-22 a £178,760 wedi'i glustnodi ar gyfer 2022-23, Cyllid IDVA Ychwanegol y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer 4 IDVA.

 

Attachments: