Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant o Gronfa Gymunedol y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i bum sefydliad o gronfa 2019/20 sydd yn gyfanswm o £112,122.22 a dau sefydliad o gronfa 2018/19 sydd yn gyfanswm o £45,958.82.

Reference Number: PCCG-2019-073

Date Added: Dydd Mercher, 1 Ebrill 2020

Details:

Dyfarnwyd cyllid blwyddyn dau mewn egwyddor i’r prosiectau canlynol a gafodd eu cyllido yn 2018/19 yn amodol ar adrodd boddhaol: Duffryn Community Link - £25,058.82 Creazione in Community - £20,900 2019/20 Dyfarniadau Grant (Hydref – Mawrth 2020): County in the Community - £11,807.50 tuag at y prosiect Premier League Kicks yn Ringland, yn rhedeg o 1 Tachwedd 2019 hyd at 31 Hydref 2020. Darperir sesiynau wythnosol ar ddydd Iau y tu allan i oriau ysgol. Hefyd darperir cyfleoedd dysgu i wella datblygiad a lles pobl ifanc. Cymru Creations - £25,000 i gyflawni prosiect Academi Ffilm Blaenau Gwent o 1 Ionawr 2020 hyd at 31 Rhagfyr 2020, a fydd yn cynnwys cyfle i bobl ifanc greu cyfres o ffilmiau byrion yn canolbwyntio ar faterion a phryderon cyfoes. Canolfan Cwmbrân ar gyfer Pobl Ifanc (CCYP) - £40,314.72 tuag at gyflawni’r Prosiect Galw Heibio Mynediad Agored o 1 Ionawr 2020 hyd at 31 Rhagfyr 2020. Bydd hyn yn cynnwys darparu cyfleuster galw heibio ar bum noson yr wythnos mewn amgylchedd diogel, sy’n cynnig gwasanaethau wedi eu teilwra, gweithgareddau a chymorth, gyda chwnselwyr a mentoriaid ar gael i’r bobl ifanc sydd yn bresennol. Clwb Bocsio Amatur Alway - £20,000 i gyflawni’r prosiect Stop Stabbing Start Jabbing ar ddydd Mawrth a dydd Iau 5pm – 7pm a dydd Sadwrn 10am – 2pm, o 1 Ionawr 2020 hyd at 31 Rhagfyr 2020. Bydd y prosiect hwn yn cynnig rhaglenni bocsio / mentora i’r bobl hynny y mae perygl iddynt ddod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol sydd wedi dioddef trosedd tra eu bod yn ifanc. The Gap Wales - £15,000 i gyflawni’r prosiect Sanctuary o 1 Ionawr 2020 hyd at 31 Rhagfyr 2020, i weithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc, gan gynnig cymorth perthynol a chyfannol, cyngor a gweithgareddau cymdeithasol iddynt.

Attachments: