Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu'r contract ar gyfer asesu, atgyfeirio a rhoi cymorth anarbenigol i ddioddefwyr i Cymorth i Ddioddefwyr trwy gyfrwng Cytundeb Fframwaith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae hyn yn unol â pharagraff 20-24 o'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol, Rhan 3e Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chontractau.

Reference Number: PCCG-2019-045

Date Added: Dydd Mercher, 21 Awst 2019

Details:

Cynhaliodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru dendr agored sy'n cydymffurfio â Chyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, gan enwi Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent fel parti sydd â chaniatâd i ddefnyddio'r contract. Dyfarnwyd y contract hwn i'r darparwr Cymorth i Ddioddefwyr. Dechreuodd y contract ar 01/04/2019 am gyfnod dechreuol o dair blynedd tan 31/03/2021, gydag opsiwn i ymestyn am dair (3) blynedd arall ar sail flynyddol.

Attachments: