Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau sy'n cydweithio gyda Heddlu Gwent i ddarparu Ymyriadau Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn ystod 2019/20.

Reference Number: PCCG-2019-042

Date Added: Dydd Llun, 12 Awst 2019

Details:

Mae Cofnod Penderfyniad PCCG-2019-031 yn cofnodi fy mhenderfyniad i roi cyllid i Ymddiriedolaeth Crimestoppers ac Ymddiriedolaeth St Giles i barhau i ddarparu ymyriadau yn ystod 2019/20. Yn ogystal, rwyf wedi penderfynu rhoi un taliad i: Barnardos - £147,356 * I ddarparu cymorth un-i-un i bobl ifanc 11-15 oed a'u teuluoedd er mwyn eu hatal rhag bod yn rhan o droseddau difrifol a chyfundrefnol. Casnewydd Fyw - £21,090 * I ddarparu gweithgareddau chwaraeon i ddargyfeirio pobl ifanc er mwyn eu hatal rhag bod yn rhan o droseddau difrifol a chyfundrefnol.

Attachments: