Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi £25,000 i Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer 2019/20, gydag opsiwn o gyllid cyfatebol o hyd at £25,000 arall. Bydd £5,000 ychwanegol yn cael ei ddarparu er mwyn cefnogi blwyddyn gyntaf yr 'uwch-gynnig' ('superbid') hefyd.

Reference Number: PCCG-2019-022

Date Added: Dydd Mawrth, 7 Mai 2019

Details:

Yn 2019/20 mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent wedi lansio elfen ychwanegol i'r digwyddiad blynyddol. Bydd un grant bob blwyddyn yn cael ei ddewis fel 'uwch-gynnig' a bydd yn derbyn cyllid o £5,000 y flwyddyn am dair blynedd. Ni fydd y grant hwn yn cael ei ddyfarnu o'r gronfa gyllid gyfredol ac yn ystod y flwyddyn gyntaf (19/20) bydd angen £5,000 ychwanegol o gyllid, yn ystod yr ail flwyddyn bydd angen £10,000 ychwanegol, a £15,000 yn ystod y drydedd flwyddyn, gan erbyn y pwynt hwn bydd tri uwch-gynnig, pob un ohonynt mewn gwahanol flwyddyn o'r grant tair blynedd a phob un yn derbyn £5,000 y flwyddyn.

Attachments: