Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i roi cyllid i Llwybrau Newydd i sicrhau bod eu gwasanaethau i gefnogi dioddefwyr troseddau rhyw yng Ngwent yn parhau.

Reference Number: PCCG-2018-027

Date Added: Dydd Iau, 21 Mehefin 2018

Details:

Corff sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl sydd wedi cael eu treisio a dioddefwyr cam-drin rhywiol trwy gyfrwng cynghorwyr trais rhywiol annibynnol yw Llwybrau Newydd. Mae'n cynnig cwnsela, cymorth i dystion ac mae’n rheoli Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Gwent. Mae darpariaeth arbenigol ar gael i blant sy'n dioddef cam-drin rhywiol hefyd. Mae'r cyllid fel a ganlyn ar gyfer 2018-19: * Cynghorydd trais rhywiol annibynnol/Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Gwent: £94,760 * Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Gwent: £46,381.89 (oddi wrth Heddlu Gwent) * Gwasanaeth cynghorydd trais rhywiol annibynnol: £20,600 a diffyg cyllid: £10,300 * Cwnsela i blant ac oedolion, asesiad clinigol: £58,464

Attachments: