Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent

Mae Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol) yn dod â phrif bartneriaid ac uwch-gynrychiolwyr yr asiantaethau cyfiawnder troseddol sy’n gweithredu yng Ngwent at ei gilydd, er mwyn hwyluso cydweithredu a gwaith partner. Y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol (‘y Bwrdd’) sy'n gyfrifol ac yn atebol am y gwasanaeth a ddarperir i ddioddefwyr a thystion, gwella'r ffordd y mae cyfiawnder yn cael ei weinyddu, a chodi hyder y cyhoedd yn y broses cyfiawnder troseddol.

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd sy'n cadeirio'r Bwrdd, sy'n cyfarfod bob tri mis. Yn dilyn Diwrnod Datblygu ym mis Mai 2025, cytunodd y Bwrdd ar y canlynol fel ei flaenoriaethau strategol:

  • Cefnogi Dioddefwyr a Thystion: Sicrhau bod cymorth o ansawdd yn cael ei ddarparu i ddioddefwyr a thystion, sy'n diwallu eu hanghenion ac yn gwella eu profiadau o'r system cyfiawnder troseddol; a
  • Lleihau Aildroseddu: Sicrhau dulliau effeithiol sy'n lleihau aildroseddu ac yn hybu a chryfhau ailsefydlu.
    Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), a phlant a phobl ifanc yn themâu cyson yn y blaenoriaethau hyn.

Caiff y blaenoriaethau hyn eu cyflawni trwy ddau is-grŵp dan arweiniad cyd-gadeiryddion a benodir o asiantaethau cyfiawnder troseddol perthnasol.

Caiff partneriaid a darparwyr gwasanaeth eraill perthnasol eu cyfethol i'r Bwrdd a/neu is-grwpiau fel y bo'n briodol.

Mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi ei Strategaeth Cyfiawnder ar gyfer Gwent hefyd, sy'n amlinellu ei rôl, swyddogaethau ac uchelgeisiau ar gyfer y cyfnod pedair blynedd.

Strategaeth Cyfiawnder 2025 - 2029

Mae'r Bwrdd a'i is-grwpiau yn cysylltu gyda phartneriaethau lleol eraill er mwyn bod mor effeithlon â phosibl ac i osgoi dyblygu gweithgareddau. Mae gwaith ymgysylltu'n cael ei wneud ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig hefyd i lywio trafodaeth ac i ddylanwadu ar benderfyniadau.

Mae'r Bwrdd mewn safle unigryw i nodi a rhannu arfer gorau a gwybodaeth sy'n ymwneud â gweithredu'r system cyfiawnder troseddol yn effeithlon ac yn effeithiol. Yn ogystal ag i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, gallai materion o bwysigrwydd cyffredinol i'w huwch gyfeirio gynnwys byrddau cyfiawnder troseddol lleol eraill, trwy gyfrwng Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, a thrwy gyfrwng Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol cenedlaethol, yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Bydd y Bwrdd yn gwneud y defnydd gorau o rwydweithiau a chyfarfodydd partner eraill y tu allan i'r maes cyfiawnder troseddol hefyd i dynnu sylw at faterion priodol neu i’w hatgyfeirio i gael eu hystyried.

Adroddiad Blynyddol

Mae'r Bwrdd wedi ymroi i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol sy'n crynhoi gwaith y Bwrdd a'i is-grwpiau.

Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru

Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn dod â sefydliadau cyfiawnder troseddol a phartneriaid eraill at ei gilydd i oruchwylio'r prif faterion sy'n effeithio ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae'r Bwrdd wedi cytuno i ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Dioddefwyr
  • Diwygio Cyfiawnder Troseddol
  • Data a Phrofiadau Bywyd.
  • Plant, Pobl Ifanc a Chyfiawnder Ieuenctid.
  • Gwrth-hiliaeth.
  • Llywodraethu a Chyfathrebu.

Mae Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn amlinellu penderfyniad y partneriaid i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol a gyda'i gilydd, i ddileu unrhyw fath o hiliaeth yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.