Ymwelydd  Dalfeydd Yn Derbyn Gwobr Gwirfoddolwr Y Flwyddyn Gyntaf Erioed Comisiynydd Heddlu A Throseddu Gwent

18fed Mehefin 2019

Mae Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd wedi ennill 'Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent’.

Derbyniodd Justin Johnstone, sy'n Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd, y wobr gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, o flaen miloedd o bobl yn nigwyddiad Heddlu Gwent 'Tu Ôl i'r Bathodyn' y penwythnos diwethaf.

Dywedodd Justin, sy'n gadael y cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd y mis hwn ar ôl gwasanaethu am naw mlynedd, ei fod wrth ei fodd gyda'r wobr.

"Rwyf wrth fy modd i dderbyn y wobr hon. Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda phawb dros y naw mlynedd diwethaf.

Hoffwn ddymuno'r gorau i'r holl Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd eraill ar gyfer y dyfodol."

Nid yn unig mae Justin yn Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd, mae hefyd yn rhoi o'i amser i Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent a Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Phwyllgor Moeseg Heddlu Gwent.

Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd y Comisiynydd Jeff Cuthbert, "Rwyf ar ben fy nigon i gael cyflwyno'r wobr hon i Justin.

“Mae wedi bod yn ased gwerthfawr i fy swyddfa i a Heddlu Gwent trwy gydol y naw mlynedd mae wedi bod yn gwasanaethu ac rwy'n siŵr nad fi yw’r unig un a fydd yn drist i'w weld yn gadael yr haf hwn.

“Trwy gydol ei amser ar y cynllun, mae Justin wedi chwarae rhan yn cefnogi ei gyd-wirfoddolwyr i fonitro safonau dalfeydd a thriniaeth y bobl sy'n cael eu cadw ynddynt.

“Hoffwn ddiolch i Justin am ei flynyddoedd o wasanaeth a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn wirfoddolwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ac sy'n ymweld â dalfeydd yr heddlu i wirio lles y bobl sy'n cael eu cadw ac i wirio dan ba amodau maen nhw'n cael eu cadw.

Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ewch i www.bit.ly/YADGwent