Ymrwymiad i Lesiant Iechyd Meddwl

10fed Hydref 2017

Fel arwydd o'i gefnogaeth i Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2017, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn tynnu sylw at ymrwymiad parhaus Heddlu Gwent a'i swyddfa i ddatblygu darpariaeth a gwasanaethau iechyd meddwl priodol.

Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw llesiant yn y gweithle. Heddiw, tynnodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, sylw at y gwaith sy'n mynd rhagddo gan Heddlu Gwent a'i swyddfa i ddatblygu darpariaeth iechyd meddwl briodol sy'n cefnogi llesiant eu swyddogion a'u staff a phobl yn y gymuned a all fod yn wynebu argyfwng iechyd meddwl.

Mae Heddlu Gwent wedi sefydlu Rhwydwaith Cymorth Iechyd Meddwl penodedig, sef grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid y gall unrhyw swyddog neu aelod o staff ymuno ag ef yn fewnol. Mae rhaglen Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl ar waith hefyd sy'n hyfforddi gwirfoddolwyr i roi cymorth ac arweiniad i gydweithwyr a all fod yn byw â chyflwr iechyd meddwl.

Mae gwasanaeth yr Heddlu yng Ngwent hefyd wedi buddsoddi mewn meysydd megis hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl a gwrthsefyll trawma a hyfforddiant rheoli i gwnstabliaid a rhingylliaid yr heddlu yn y rheng flaen a allai wynebu digwyddiadau a allai achosi trawma. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaeth Dibynyddion yr Heddlu i gyflwyno dull gweithredu cwbl arloesol er mwyn helpu swyddogion i allu gwrthsefyll trawma cyn iddynt ei wynebu. Drwy ddarparu'r buddsoddiad hwn, disgwylir y bydd lefelau absenoldeb yn lleihau; y ceir gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith y gweithlu; ac y ceir gwell sensitifrwydd wrth ddarparu gwasanaethau allanol.

Yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus, caiff prosiect Cynghorwyr Clinigol Ystafell Reoli'r Heddlu hefyd ei ehangu yng Ngwent.

Fel rhan o'r prosiect, a ariennir ar y cyd gan Swyddfa Mr Cuthbert a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, bydd arbenigwyr iechyd meddwl penodedig yn cydweithio â Heddlu Gwent yn yr ystafell reoli er mwyn sicrhau, pan ddaw pobl agored i niwed sydd â salwch iechyd meddwl neu sy'n wynebu argyfwng i gysylltiad â nhw, y cânt ofal priodol. Y nod yw lleihau'r galw ar swyddogion yr heddlu pan fydd iechyd meddwl yn ffactor sylfaenol, rheoli risg a niwed mewn perthynas ag argyfwng iechyd meddwl a sicrhau y rhoddir gofal a chymorth priodol mewn modd amserol. Cymeradwywyd y cais i ehangu'r prosiect o un swydd i chwe swydd, gan gynnwys swydd Goruchwylydd.

Mae'r ymarferydd iechyd meddwl yng nghanolfan dioddefwyr Connect Gwent yng Nghoed-duon hefyd yn parhau i gynnig cymorth arbenigol i ddioddefwyr troseddau â gofynion iechyd meddwl er mwyn eu helpu i ymdopi a gwella ar ôl cael eu fictimeiddio. Ers mis Ebrill 2015, atgyfeiriwyd bron i 250 o ddioddefwyr at Ymarferydd Llesiant Connect Gwent i gael help seiciatrig.

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi mewn darpariaeth llesiant iechyd meddwl, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae pob un o'r prosiectau a'r mentrau hyn yn rhan o ymrwymiad fy swyddfa a Heddlu Gwent i gefnogi'r egwyddorion allweddol a amlinellwyd yng Nghoncordat Gofal Argyfwng Iechyd Meddwl Cymru. Rwy'n ymrwymedig i fuddsoddi mewn cymorth ardderchog i bob unigolyn sy'n byw â gofynion iechyd meddwl ac i ddarparu'r cymorth hwnnw, boed yn swyddogion yr heddlu ac aelodau o staff mewnol neu'n bobl y byddwn yn dod i gysylltiad â nhw yn y gymuned. Bydd un o bob pedwar unigolyn yn y DU yn cael problem iechyd meddwl bob blwyddyn ac mae diwrnodau ymwybyddiaeth fel heddiw yn chwarae rhan bwysig wrth wella dealltwriaeth pobl o iechyd meddwl."