Ymgysylltu gyda'n cymunedau gwledig

23ain Awst 2022

Dydd Sadwrn, cefais y pleser o fynd i Sioe Bedwellte. Roedd yn ddiwrnod sych a heulog diolch i'r drefn felly roedd ymwelwyr yn hapus i aros am sgwrs gyda mi a'r tîm.

Diolch i dimau Troseddau Gwledig a Seiberdroseddu Heddlu Gwent am gefnogi fy swyddfa. 

Roeddwn wrth fy modd i weld ein cymunedau gwledig yn derbyn cyngor diogelwch cymunedol gwerthfawr gan y tîm Troseddau Gwledig ac yn cael pecynnau ac arwyddion SmartWater ganddyn nhw am ddim i helpu i gadw eu ffermydd a'u cartrefi'n rhydd rhag niwed.

Derbyniodd plant, pobl ifanc a theuluoedd gyngor pwysig ynghylch cadw'n ddiogel ar-lein gan swyddog Seiberdroseddu Heddlu Gwent.

Hoffwn ddiolch i bawb a arhosodd i rannu eu barn gyda'r tîm am Strategaeth Ystâd Heddlu Gwent.