Ymateb yr heddlu a throsedd y comisiynydd i'r ffigyrau troseddau diweddaraf

26ain Ebrill 2018

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw wedi rhyddhau’r ffigyrau trosedd diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r ffigyrau, sy’n edrych ar y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2017 o’i chymharu â’r flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2016 yn dangos bod cyfanswm o 46,903 o droseddau wedi cael eu cofnodi yng Ngwent yn ystod y cyfnod diweddaraf sy’n golygu cynnydd o 19% (cynnydd 15% i Gymru a Lloegr).

Wrth gyfeirio at y ffigyrau diweddaraf, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Yn drist, mae’r galw ar ein gwasanaethau heddlu’n cynyddu bob dydd ac mae hyn yn anochel yn mynd i effeithio ar ein cymunedau. Byddaf yn trafod y data hwn yn fanwl gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent yn awr i edrych ar y ffactorau sy’n gyrru’r newidiadau hyn a sut y gallwn weithio gyda’n partneriaid yng Ngwent i fynd i’r afael â nhw.

Mae troseddau cofnodedig wedi cynyddu’n genedlaethol yng Nghymru a Lloegr ar adeg o doriadau pellach gan Lywodraeth y DU. Fel yr wyf wedi dadlau’n flaenorol, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn darparu lefelau cyllid mwy priodol i’n gwasanaethau plismona lleol er mwyn i ni allu mynd i’r afael â’r troseddau hyn, yn arbennig y troseddau sy’n effeithio ar ein pobl fwyaf bregus. Nid yw’r setliad presennol gan Lywodraeth y DU yn ddigonol i ymateb i’r galw presennol, heb son am gynnydd pellach. Dyma pam rwyf i a’m cyd Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi gorfod troi at y boblogaeth leol eto i fynd i’r afael â diffygion cyllid trwy’r Praesept.