Ydych chi’n adnabod arwyddion cam-drin pobl hŷn?

15fed Mehefin 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yn annog trigolion i ddysgu sut i adnabod yr arwyddion o gam-drin pobl hŷn yn gorfforol, yn emosiynol ac yn ariannol.

Dydd Llun 15 Mehefin yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn y Byd, sydd â’r nod o dynnu sylw’r byd at gam-drin pobl hŷn, sy’n broblem gynyddol.

Mae trechu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn flaenoriaethau allweddol i’r Comisiynydd, Jeff Cuthbert. Mae e’n gweithio gyda Thîm Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Heddlu Gwent i annog pobl sy’n dioddef cam-drin o’r fath i ofyn am gymorth, ac i drigolion roi gwybod i weithwyr proffesiynol am unrhyw bryderon o ran diogelu.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae cefnogi pobl sy’n agored i niwed yn un o’m blaenoriaethau allweddol ac mae wrth wraidd fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent. Rydym ni’n gwybod bod pobl hŷn yn arbennig o agored i niwed yn sgil cam-drin a cham-fanteisio, ac rydym ni’n pryderu bod cyfleoedd i hyn ddigwydd wedi cynyddu oherwydd bod mwy o ynysu yn digwydd yn sgil Covid-19. Bydd bob amser bobl sy’n ceisio cam-fanteisio ar bobl agored i niwed, felly mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen i bobl gadw llygad am unrhyw arwyddion o gam-drin.

“Mae angen i ni sicrhau bod ein holl drigolion hŷn yn gwybod beth yw cam-drin, ac os ydyn nhw’n ei ddioddef, bod angen iddyn nhw ddweud wrth rywun am hynny. Mae angen i ni hefyd annog ffrindiau, teulu, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a chymdogion i ddatgan eu pryderon os ydyn nhw’n credu bod rhywun yn cael ei gam-drin.

“Cofiwch beidio â’u gadael i ddioddef yn dawel. Mae Heddlu Gwent yma i chi a byddan nhw’n gwrando ar eich pryderon.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: “Os ydych chi’n helpu aelod hŷn o’r teulu, ffrind hŷn neu gymydog hŷn, cadwch lygad am unrhyw arwyddion o gam-drin. Mae Heddlu Gwent yma i helpu felly cofiwch, os oes gennych chi unrhyw bryderon, peidiwch ag ofni cysylltu â ni.”

Os oes rhywun yn cael ei gam-drin, ydych chi’n gwybod beth yw’r arwyddion?

Gall arwyddion corfforol gynnwys toriadau ar y croen, cleisiau, doluriau, llosgiadau, esgyrn wedi’u torri, anafiadau heb eu trin, cyflwr gwael ar y croen neu o ran hylendid y croen, ddim yn cael digon o hylifau/bwyd, colli pwysau, a dillad neu eitemau yn y cartref wedi’u difrodi.

Gall arwyddion seicolegol gynnwys straeon annhebygol, amharodrwydd i siarad yn agored, yr unigolyn yn ddryslyd neu’n flin heb reswm amlwg, newidiadau sydyn mewn ymddygiad, yn ofidus neu’n gythryblus yn emosiynol, yn ofnus heb esboniad neu’n dawedog, yn amharod i siarad neu ddim yn ymateb.

Gall arwyddion ariannol gynnwys newidiadau i drefniadau bancio, ewyllys neu asedau yr unigolyn, biliau heb eu talu pan fo rhywun arall i fod i’w talu, costau gofal rhy uchel, eitemau gwerthfawr yn diflannu, a diffyg amwynderau syml fforddiadwy.

Dywedodd Cynghorydd Arweiniol Tîm Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent, Janie Dent: “Mae cam-drin yn effeithio ar un o bob pedair menyw ac un o bob chwe dyn ar ryw adeg yn eu bywydau. Maen nhw yn aml yn rhy ofnus i ddweud wrth rywun neu efallai nad ydyn nhw’n gwybod sut i gael cymorth. Mae gan bob un ohonom ni ran i’w chwarae wrth drechu pob math o gam-drin, gan gynnwys cam-drin pobl hŷn.

“Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig, neu’n gwybod am rywun sy’n ei ddioddef, cymerwch funud i adrodd amdano. Mae amrywiaeth eang o wasanaethau arbenigol ar gael yng Ngwent a all eich helpu chi.”

Mae hyfforddiant ar-lein ar gael am ddim i drigolion i’w helpu i drechu pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i unrhyw un sy’n dal i fod mewn sefyllfa i adnabod arwyddion cam-drin posibl, fel gwirfoddolwyr, gweithwyr allweddol, gweithwyr post a staff siopau, i allu adnabod arwyddion cam-drin a gwybod sut y gallan nhw helpu yn ddiogel. Mae hyfforddiant ar-lein ar gael yn https://learning2.wales.nhs.uk/login/index.php

I gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am rywun yr ydych yn credu ei fod yn agored i niwed, ewch i www.gwentsafeguarding.org.uk