Trigolion Gwent yn cerdded milltir i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod

29ain Tachwedd 2019

Dydd Llun 25 Tachwedd, daeth rhyw 150 o bobl ynghyd yng Nghastell Cil-y-coed i gerdded milltir a chodi ymwybyddiaeth o drais gan ddynion yn erbyn menywod.

Roedd y daith gerdded yn un o sawl gweithgaredd ledled y sir a gynhaliwyd i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn, digwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig dros Ddileu Trais yn erbyn Menywod, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth a gweithio i ddileu trais gan ddynion yn erbyn menywod.

Cafodd ei drefnu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol VAWDASV Gwent, sy'n gydweithrediad amlasiantaeth yn gweithio ar draws Gwent i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Dywedodd Janice Dent, cynghorydd arwain rhanbarthol VAWDASV Gwent: "Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn troi allan ar gyfer y digwyddiad hwn i ddangos eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i greu byd heb drais yn erbyn menywod a merched.

"Yn drist, mae gormod o bobl yn byw mewn ofn ac yn dioddef yn dawel. Rydym yn gwybod bod dioddefwyr yn ei chael yn anodd cyflwyno eu hunain ond mae'n hollbwysig eu bod yn gwneud hynny a hoffwn annog unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth, neu sy'n adnabod rhywun sy'n dioddef camdriniaeth, i chwilio am gymorth.”

Derbyniodd y digwyddiad gymorth gan Gastell Cil-y-coed, Cyngor Sir Fynwy, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Heddlu Gwent, Heddlu Bach Ysgol Gynradd Dewstow, Uned Atgyfeirio Disgyblion Sir Fynwy, Llamau, Hafan Cymru, Llwybrau Newydd, Cymorth i Fenywod Cyfannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a The Brothers, prosiect Charter Housing a Bron Afon.

Gall unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig, neu sy'n pryderu am ffrind neu aelod o'r teulu, gysylltu â llinellau cymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.

Mae cymorth ar gael gan ganolfan ddioddefwyr Connect Gwent ar 0300 123 2133 hefyd.

I hysbysu am drosedd ffoniwch 101. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.