Teuluoedd yn Caru Casnewydd

23ain Awst 2022

Roeddwn yn falch iawn i fod yn y digwyddiad Teuluoedd yn Caru Casnewydd yn Sgwâr John Frost.
 
Roedd y diwrnod, a gafodd ei gynnal gan Rwydwaith Rhieni Casnewydd, yn darparu diwrnod o greadigrwydd a hwyl ar gyfer plant, pobl ifanc a rhieni a gofalwyr yng nghanol y ddinas.
 
Darparwyd gweithgareddau i blant a phobl ifanc a gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr gan amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys Casnewydd Fyw, Heddlu Gwent, Tîm Seicoleg Cymunedol Plant a Theuluoedd Gwent, Home-Start, Pobl a'r elusen gwrth-fwlio Kids Scape.