Swyddogion newydd yn ymuno â’r rhengoedd

16eg Rhagfyr 2022

Yr wythnos hon roeddwn yn falch o gael fy ngwahodd i groesawu 51 o swyddogion heddlu newydd i Heddlu Gwent.

Mae'r swyddogion wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant yn cael eu hanfon allan gyda thimau plismona ar draws pum sir Gwent yn awr.  

Rwyf wedi ymrwymo i gynyddu nifer y swyddogion heddlu yng Ngwent ac rwy'n falch ein bod heddiw mewn sefyllfa llawer gwell na phan gefais fy ethol am y tro cyntaf yn 2016, gyda mwy na 200 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gwasanaethu ein cymunedau.

Mae'r recriwtiaid newydd wedi gweithio'n galed yn ystod eu hyfforddiant, o dan amgylchiadau arbennig o anodd, ac mae'r gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad maen nhw wedi'i ddangos i'w gymeradwyo. Dymunaf bob hwyl iddynt yn eu rolau newydd.