Plant ym Mhilgwenlli'n elwa ar gyllid Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd

30ain Tachwedd 2023

Yn ddiweddar, gwnaethom ymweld â KidCare4u sydd wedi derbyn cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gynnal clwb dydd Sadwrn wythnosol i blant 5-16 oed.

 Mae'r clwb dydd Sadwrn yn cael ei redeg o Ganolfan Mileniwm Pilgwenlli, gyda staff a gwirfoddolwyr o'r ardal leol, ac mae'r plant yn gallu mwynhau gweithgareddau fel crefftau, chwaraeon a drama. Yn ogystal â chynnal gweithgareddau sy'n annog pobl ifanc i gadw'n iach, gwella eu hyder a gwneud ffrindiau, mae'r elusen yn darparu cymorth addysg ychwanegol i'r rhai sydd ei angen hefyd.

Nid yn unig mae'r prosiect hwn yn cadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd ac yn rhoi rhywbeth cadarnhaol iddyn nhw ei wneud, bydd y cymorth ehangach a gynigir i'r bobl ifanc a'u teuluoedd o fudd hirdymor iddyn nhw yn y dyfodol.