Peidiwch â chadw'n dawel am gam-drin rhywiol

1af Chwefror 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn yn daer ar ddioddefwyr cam-drin rhywiol a thrais rhywiol i beidio â chadw'n dawel am eu profiadau.

Wrth siarad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol, tynnodd y Comisiynydd sylw at bryderon gan asiantaethau cymorth nad yw rhai achosion o drais rhywiol yn cael eu riportio yn ystod y pandemig.

Mae cefnogi dioddefwyr trosedd yn un o brif flaenoriaethau'r Comisiynydd yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent, ac mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n buddsoddi bron i £300,000 y flwyddyn mewn dau wasanaeth arbenigol i ddioddefwyr cam-drin a thrais rhywiol.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef cam-drin rhywiol a thrais rhywiol. Yn anffodus, mae achosion yn digwydd nad ydynt yn cael eu riportio yn ystod y pandemig hwn.

"Rydym yn gwybod bod achosion yn digwydd mewn partïon mewn tai a digwyddiadau pan fydd pobl yn ymgasglu gyda'i gilydd. Efallai bod dioddefwyr yn ofni cael dirwy am dorri rheolau Covid-19 os byddant yn cyflwyno eu hunain i ni.

"Hoffwn sicrhau pobl os ydych chi wedi dioddef y troseddau erchyll hyn bod cymorth ar gael. Nid oes rhaid i chi bryderu am fod mewn trwbl. Peidiwch â dioddef yn dawel. Codwch eich llais a riportiwch y mater.”

Gall dioddefwyr riportio digwyddiadau i Heddlu Gwent trwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.

Mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth sy'n ymdrin yn benodol â cham-drin a thrais rhywiol hefyd.

Mae Llwybrau Newydd yn darparu gwasanaethau cymorth i bobl sydd wedi dioddef treisio a cham-drin rhywiol, a gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol.

Gwefan: www.newpathways.org.uk
E-bost: enquiries@newpathways.org.uk
Ffôn: 01685 379 310

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn darparu gwasanaethau cymorth ledled Gwent i bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Gwefan: https://cyfannol.org.uk/contact
Ffôn: 01495 742052

Mae Canolfan Dioddefwyr Connect Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth ac nid oes rhaid i chi fod wedi riportio trosedd i'r heddlu i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.
Gwefan: www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent
E-bost: connectgwent@gwent.pnn.police.uk
Ffôn: 0300 123 2133