Miloedd o blant ysgol Caerffili yn mynd i ddrama gwrth-gyffuriau

18fed Mawrth 2019

Aeth disgyblion Blwyddyn Chwech ledled Caerffili i Sefydliad y Glowyr Coed Duon i ddysgu am beryglon cyffuriau, drwy'r ddrama 'Wings to Fly'.

Mae'r ddrama, a berfformiwyd gan Theatr Ieuenctid Caerffili, wedi'i chyflwyno i ddisgyblion blwyddyn chwech ers 23 mlynedd.

Mae'n adrodd hanes merch ifanc y mae ei ffrindiau'n ei chyflwyno i gyffuriau ac alcohol, ac mae'n archwilio materion sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau.

Cafodd ei chomisiynu gan Banel Atal Troseddu Coed Duon a Rhisga a'i hariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.

Dywedodd Brian Wilkins, cadeirydd y panel: Cafodd y ddrama ei chomisiynu gyntaf 25 mlynedd yn ôl gan Tony Curtis MBE, sef y cadeirydd ar y pryd, pan ddaeth ei ferch 11 oed adref o'r ysgol gyfun leol yn siarad am gyfarpar cyffuriau. Mae'r ddrama wedi cael ei pherfformio i ddisgyblion blwyddyn chwech, byth ers hynny.

“Mae hon yn flwyddyn hollbwysig iddyn nhw, gan y byddant yn symud ymlaen i'r ysgol gyfun ac yn dod i gysylltiad â llawer o bethau newydd. Gobeithio y bydd y ddrama hon yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o beryglon camddefnyddio sylweddau, a hefyd ble y gallant fynd am gymorth, os bydd ei angen arnynt.”

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: “Mae hon yn ddrama wych a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran am eu gwaith rhagorol.

“Mae'n rhoi neges bwerus i blant am beryglon camddefnyddio sylweddau ac rwy'n gobeithio y byddant yn cofio'r neges hon wrth iddynt ddechrau pennod newydd yn eu bywydau yn yr ysgol uwchradd.”