Lleisiwch eich barn am gyllid ar gyfer yr heddlu yng Ngwent

29ain Hydref 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn i breswylwyr a fyddent yn cefnogi codiad posibl yn nhreth y cyngor i gefnogi plismona.

Mae cyllid Heddlu Gwent gan y llywodraeth wedi gostwng 40 y cant mewn termau real ers 2010 ac mae'r llu wedi gorfod arbed bron i £50 miliwn ers 2008.

Byddai cynnydd o tua £2 y mis (yn seiliedig ar eiddo band D) yn galluogi Heddlu Gwent i gadw'r nifer presennol o 1,325 o swyddogion heddlu, a chynnal yr arian a fuddsoddir i fynd i'r afael â meysydd sy'n cael blaenoriaeth gan gynnwys plismona cymdogaeth, amddiffyn plant, cam-drin domestig, treisio, ymosodiadau rhywiol, troseddau casineb a throseddau difrifol a chyfundrefnol.

Byddai hefyd yn gymorth i Ymgyrch Uplift, y buddsoddiad diweddaraf mewn plismona gan Lywodraeth y DU, sy'n golygu y bydd rhyw 160 o swyddogion newydd yn ymuno â Heddlu Gwent dros y tair blynedd nesaf. Mae'r swyddogion hyn yn ychwanegol at y recriwtio mae Heddlu Gwent eisoes wedi ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn.

Cyfrifoldeb y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yw pennu'r praesept treth y cyngor bob blwyddyn a, heb y cynnydd arfaethedig, bydd rhaid i Heddlu Gwent wneud arbedion arian parod o bron i £5m erbyn 2023/24, er mwyn mantoli'r gyllideb.

Dywedodd Mr Cuthbert: "Er gwaethaf buddsoddiad diweddar gan Lywodraeth y DU, mae'r sefyllfa ariannol o ran plismona yn y dyfodol yn dal i edrych yn llwm. Rydym yn wynebu heriau sylweddol yng Ngwent ac mae galw mawr arnom o hyd.

"Rwy'n credu mai cynnydd yn nhreth y cyngor yw'r unig ffordd mae Heddlu Gwent yn mynd i allu parhau i ddarparu lefel uchel o wasanaeth i drigolion.

"Er bod Gwent i fod i dderbyn tua 160 o swyddogion heddlu newydd fel rhan o Ymgyrch Uplift, nid yw'n eglur o ble bydd y cyllid yn dod i dalu am y swyddogion hyn yn y tymor hir.

"Rwy'n sicr y byddai codiad o £2 y mis i'r cartref cyffredin yn golygu y byddai Heddlu Gwent yn gallu cynnal y ddarpariaeth bresennol. Rwyf am glywed barn y cyhoedd ar y mater hwn a hoffwn annog pobl i lenwi'r arolwg a dweud eu dweud.

"Rydym eisoes wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn plismona yn y tair blynedd diwethaf, gyda mwy na 400 o swyddogion newydd a 160 o swyddi newydd. Mae hyn wedi dod â ni'n agosach at y nifer o swyddogion a oedd gennym ni cyn y mesurau cyni ac mae wedi galluogi Heddlu Gwent i flaenoriaethu gwaith er mwyn amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Rwyf yn eithriadol o falch o hyn."

I leisio barn cyn i'r arolwg gau dydd Sul 12 Ionawr 2020, ewch i www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=157106284977 

Mae'r arolwg ar gael mewn fformatau eraill ar gais gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy anfon e-bost at commissioner@gwent.pnn.police.uk neu ffonio 01633 642200.