Lansio Heddlu Bach yng Ngwent

26ain Hydref 2017

Heddiw, dydd Iau 26 Hydref, rydym yn lansio ein cynllun Swyddog Heddlu Bach yng Ngwent. Dyma'r cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae'n dilyn rhaglen ymgysylltu a gafodd ei chreu a'i datblygu gan PC Craig Johnson o Heddlu Durham ar gyfer plant rhwng 9 ac 11 oed. Lansiwyd y cynllun eisoes yn Durham, Glannau Mersi, Northumbria, Dyffryn Tafwys a Swydd Lincoln.

Lansiwyd cynllun Heddlu Gwent y prynhawn yma mewn seremoni arbennig ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd.

Dewiswyd tair ysgol o Gasnewydd i fabwysiadu'r cynllun yn gyntaf, a bydd 58 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Millbrook, Ysgol Gynradd Ringland ac Ysgol Gynradd Pillgwenlli ymhlith y rhai cyntaf i ddod yn Swyddogion Bach.

Mae gan y disgyblion wisg â brand Heddlu Bach eu hunain. Gwnaeth y disgyblion enwebu eu hunain am y rolau, wynebu proses ymgeisio ac, mewn rhai achosion, cyfweliad. Bydd y swyddogion bach yn mynd i weld hyfforddiant ar bethau megis driliau, hyfforddiant trefn gyhoeddus, Ystafell Reoli'r Heddlu a hyfforddiant Taser (o bell, wrth gwrs!)


Bydd ein swyddogion Cyswllt Ysgolion yn rhoi 6 gwers awr o hyd iddynt drwy gydol y flwyddyn a byddant yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol megis digwyddiadau casglu sbwriel cymunedol ac ystyried y materion a godir gan broses 'Eich Llais' y gymuned. Byddant hefyd yn mynd ati i addysgu eu cyfoedion am faterion megis ymddygiad gwrthgymdeithasol adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.

Heddiw, cyflwynwyd tystysgrif i'r holl ddisgyblion a rhoddwyd 'cerdyn gwarant' Heddlu Bach iddynt yn y seremoni arbennig gan Brif Gwnstabl Julian Williams, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Jeff Cuthbert, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Julian Williams: "Mae'n bleser mawr gennym lansio'r cynllun gwerth chweil hwn yng Ngwent. Mae'n gyfle gwych i'r swyddogion bach helpu i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned ac i addysgu ei chyd-ddisgyblion yn eu hysgolion. Bydd y cynllun yn rhoi llais iddynt roi adborth ar yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw a gallant helpu i ddylanwadu ar y rheini o'u cwmpas mewn ffordd gadarnhaol. Mae'n wych bod y disgyblion hyn wedi enwebu eu hunain ac yn awyddus i gymryd rhan a hoffwn longyfarch pob un ohonynt. Gobeithio y byddant yn hoffi eu cyfnod fel Swyddog Heddlu Bach Gwent."

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: "Roedd fy swyddfa wrth ei bodd i weithio gyda chydweithwyr yn Durham a Heddlu Gwent er mwyn cyflwyno'r fenter gyffrous hon yng Ngwent. Mae potensial y rhaglen hon yn gyffrous iawn ac rydym yn ei hystyried yn ffordd wych o feithrin ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu o oedran ifanc drwy gynnwys ac ymgysylltu â phlant yn uniongyrchol yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd menter yr Heddlu Bach yn rhoi gwir flas ar blismona i'r plant o oedran cynnar a bydd yn ychwanegu gwerth at raglen sefydledig Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Gwent."


Ychwanegodd Mr Cuthbert: "Rydym wedi gweld effaith gadarnhaol y rhaglen hon mewn rhannau eraill o'r wlad o ran meithrin cydberthnasau cadarnhaol rhwng plant a swyddogion yr heddlu. Mae gennym gyfle euraid i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o swyddogion yr heddlu ar gyfer Gwent."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams: "Rwy'n falch iawn y bydd ysgolion yng Nghasnewydd yn cymryd rhan yn y Cynllun Heddlu Bach. Mae'r cynllun yn galluogi plant i ymgysylltu â'r heddlu lleol a chymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol. Rwy'n siŵr y bydd y plant sy'n cymryd rhan yn magu mwy o hyder ac yn dod yn genhadon gwych dros Gwnstabliaeth Gwent a'u hysgolion lleol."