Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

8fed Mawrth 2026

Rwy'n falch a breintiedig bod ein cymunedau wedi fy ethol i fod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd fenywaidd gyntaf yng Nghymru.

Rwy'n credu'n gryf mewn cydraddoldeb a chefnogi pobl i gyflawni eu potensial, ac rwy'n credu ei bod yn hollbwysig bod merched ifanc yn ein cymunedau'n gweld menywod yn llwyddo mewn bywyd cyhoeddus.

Mae'n bwysig i mi bod fy wyresau yn tyfu i fyny mewn cymdeithas lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal a lle nad yw rhywedd yn rhwystr i'w haddysg, eu gyrfa, na’u bywyd teuluol.

Mae llawer iawn o gynnydd wedi'i wneud, ond wrth i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod dros y penwythnos, mae'n rhaid i ni gofio bod rhagfarn, stereoteipiau, a gwahaniaethu tuag at fenywod a merched yn anffodus yn dal i fodoli yn ein cymdeithas.

Yn syfrdanol, bydd tua 25,000 o fenywod a merched yng nghymunedau Gwent yn destun ymddygiad treisgar a cham-drin bob blwyddyn.

Ar ben hyn, rydym yn gweld casineb at fenywod yn cael ei normaleiddio, sy’n achos pryder, ymhlith bechgyn a dynion ifanc, yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein. Mae'n ein hatgoffa, er bod rhai brwydrau wedi'u hennill, bod gennym ffordd bell i fynd cyn sicrhau cymdeithas wirioneddol deg.

Mae agweddau ac ymddygiad rhywiaethol a misogynistaidd wedi bod yn broblem proffil uchel i blismona yn y DU, ac mae graddfa lawn y broblem wedi dod hyd yn oed yn fwy amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae sawl achos yn ymwneud â Heddlu Gwent wedi cael sylw yn ddiweddar yn y cyfryngau, ac ni ddylem osgoi ymdrin â nhw.

Rwyf am eich sicrhau bod yr union ffaith eich bod chi'n gweld y straeon hyn oherwydd y camau rhagweithiol sy'n cael eu cymryd bellach i ymdrin â'r ymddygiad hwn. Nid oes lle iddo mewn plismona ac nid yw’n cynrychioli'r mwyafrif o swyddogion heddlu gweithgar, ymroddedig sy'n peryglu eu diogelwch eu hunain bob dydd i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Mae'r Prif Gwnstabl wedi bod yn glir iawn yn ei ymrwymiad i ysgogi newid diwylliannol o fewn y gweithlu. Mae wedi anfon neges gref nad oes croeso i agweddau ac ymddygiad misogynistaidd yn Heddlu Gwent.

Rwy'n ei gefnogi'n llawn yn hyn, ac rydym yn rhannu ymrwymiad cadarn i feithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng ein cymunedau a'u heddlu.

Fel Comisiynydd, rwy'n falch o fod yn cynyddu buddsoddiad mewn prosiectau sy'n cefnogi menywod a merched. Roedd gwneud yr hyn y gallaf i wella bywydau menywod a merched yn ein cymunedau yn ymrwymiad maniffesto allweddol i mi, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn parhau i’w flaenoriaethu trwy gydol fy amser yn y swydd.

Mae'r agweddau a'r ymddygiad hyn yn dal i fodoli yn ein cymdeithas, ac mae gan bob un ohonom ddyletswydd i'w herio pan fyddwn yn eu gweld, i fod yn gynghreiriaid i'r menywod a'r merched yn ein cymunedau.

Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn greu byd cyfartal rhwng y rhywiau. Pan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn ni i gyd yn elwa o gymdeithas fwy diogel a thecach.