Diwrnod Cofio'r Holocost

27ain Ionawr 2022

Heddiw, bydd pobl ar draws y byd yn cofio'r chwe miliwn o Iddewon a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost, a'r rhai a laddwyd mewn hil-laddiad yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. 

I'r rhan fwyaf ohonom ni, mae'r digwyddiadau erchyll hyn mor bell o'n bywydau bob dydd maent fel pe baent yn perthyn i oes arall.

Ond mae'r erchyllterau hyn yn dal i gael effaith ar ddynoliaeth, ynghyd â'r hiliaeth, gwrth-semitiaeth, senoffobia, gwahaniaethu ar sail anabledd a'r anoddefgarwch sydd, yn anffodus, i'w weld o hyd yn ein cymunedau.

Dyma pam mae mor bwysig ein bod yn cadw'r digwyddiadau hyn yn y cof, i sicrhau na fydd cenedlaethau'r dyfodol yn eu hanghofio, ac na fyddwn ni byth yn ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol. 

Yn ystod Diwrnod Cofio'r Holocost rydym yn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau, y rhai a gollodd eu hanwyliaid, a'r rhai a oroesodd, diolch i'r drefn, i allu adrodd eu hanes.

Ond mae hefyd yn gyfle i ystyried sut rydym yn dysgu yn sgil y digwyddiadau hyn er mwyn rhoi sylw i'r problemau sy'n ein hwynebu ni heddiw.

Mae gwahaniaethu'n dal i ddigwydd ac felly mae'n rhaid i ni barhau i hyrwyddo a diogelu ein hegwyddorion o oddefgarwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.

Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn adeiladu cymuned fwy cydlynus, sy’n rhydd rhag ofn a chasineb.

Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw 'Un Diwrnod'.

Yr Un Diwrnod, i'r miliynau sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan hil-laddiad, pan newidiodd eu bywydau am byth.

Yr Un Diwrnod yn y dyfodol pan na fydd dim hil-laddiad.

Rwyf am i Went fod yn lle y gall pobl fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef, heb ofni profi casineb o unrhyw fath.  

Gyda'n gilydd rydym wedi cymryd camau breision tuag at gydraddoldeb a mynd i'r afael â chasineb yn ein cymunedau ac, er nad ydym wedi dileu casineb yn llwyr efallai, rwy'n hyderus y byddwn yn gwneud hynny Un Diwrnod.


Gwybodaeth am gymorth

Gallwch riportio trosedd casineb wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101, ar wefan Heddlu Gwent, neu drwy gyfrwng Facebook a Twitter.

Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle'r heddlu hefyd. Maen nhw'n rhoi cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol i bobl sydd wedi dioddef ac wedi bod yn dyst i drosedd casineb yng Nghymru. Ffoniwch Cymorth i Ddioddefwyr am ddim, unrhyw bryd, ar 0300 3031 982.


Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.