Disgybl o Blaenau'n dylunio sticer gwrth-drais

29ain Mehefin 2023

Mae disgybl o Ysgol Gynradd Coed-y-Garn ym Mlaenau, Blaenau Gwent, wedi dylunio sticer gwrth-drais a fydd yn cael ei roi i blant a phobl ifanc ledled Gwent.

Dyluniodd Ellie Mae Edwards, disgybl ym mlwyddyn chwech, y sticer yn rhan o gystadleuaeth gwrth-drais a gynhaliwyd i gyd-fynd ag ymweliad yr Angel Cyllyll â Chasnewydd ym mis Tachwedd 2022.

Cymerodd rhyw 200 o blant o ysgolion ledled Gwent ran yn y gystadleuaeth a gafodd ei chynnal er mwyn cael plant i drafod pwnc anodd troseddau treisgar mewn ffordd hwylus.

Bydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, a noddodd y gystadleuaeth, yn defnyddio'r sticeri yn nigwyddiadau'r haf ledled pum sir Gwent.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rhaid i mi longyfarch Ellie ar gynhyrchu dyluniad mor wych, a diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.

"Mae trais yn effeithio ar bob un o'n cymunedau, a rhaid i ni ddechrau siarad am y problemau yma o oedran cynnar.

"Bydd y sticeri'n cael eu rhoi i blant a phobl ifanc ledled Gwent dros yr haf i'w hatgoffa nhw bod rhaid i ni ddweud na wrth drais yn ein cymunedau."