Cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Cyntaf

15fed Tachwedd 2017

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf sy'n tynnu sylw at gyflawniadau allweddol ei swyddfa dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r adroddiad yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017. Mae'n nodi cyflawniadau allweddol swyddfa Mr Cuthbert; yr heriau y maent wedi eu hwynebu a sut y mae'r heddlu a'i swyddfa wedi cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu Gwent (2013-17)

Mae'r adroddiad yn cynnwys rhywfaint o'r cyflawniadau allweddol sy'n gysylltiedig â rhagflaenydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, sef Ian Johnston, yn ystod ei wythnosau olaf yn y swydd. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n ymwneud â sefydlu hwb amlasiantaethol i ddioddefwyr, Connect Gwent; sicrhau bod swyddogion yr heddlu yn ganolog o hyd i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac ymgyrch Mr Johnston i sicrhau y caiff data troseddau eu cofnodi'n gywir.

Mae rhai o'r cyflawniadau allweddol a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf, fel y tynnwyd sylw atynt gan Mr Cuthbert yn yr adroddiad, yn cynnwys y canlynol:

  1. Datblygu ei flaenoriaethau plismona a throseddu ar gyfer Gwent a lansio ei Gynllun Heddlu a Throseddu sy'n rhoi'r cyfeiriad strategol ar gyfer sut y dylid darparu gwasanaethau plismona a throseddu yng Ngwent dros y pedair blynedd nesaf;
  2. Cynnal adnoddau'r Heddlu drwy sicrhau cyllid er mwyn galluogi Heddlu Gwent i gyflogi 180 o swyddogion yr heddlu newydd yn ystod 2017/2018 i gryfhau'r rheng flaen, mynd i'r afael â mathau o droseddau sy'n dod i'r amlwg megis seiberdroseddu ac amddiffyn yr aelodau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas;
  3. Gwella ymrwymiad Heddlu Gwent a'i swyddfa i les iechyd meddwl gan weithio gyda phartneriaid er mwyn cyd-ariannu cyflogaeth Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy o fewn Ystafell Reoli Heddlu Gwent a chefnogi nifer o fentrau lles yn Heddlu Gwent;
  4. Lansio Uned Ymateb i'r Cyhoedd er mwyn darparu gwell lefel o wasanaeth i'r cyhoedd drwy sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw anfodlonrwydd â Heddlu Gwent mor gyflym ac effeithiol â phosibl cyn iddo ddatblygu i fod yn gŵyn fwy difrifol;
  5. Cytuno ar ddatblygu strategaeth ystad newydd a lansio Gorsaf Gwasanaethau Brys newydd ar y Cyd yn Abertyleri gyda'r gwasanaethau Tân ac Ambiwlans. Gwnaeth hefyd gyhoeddi ei benderfyniad i agor gorsaf yr heddlu barhaol newydd yng nghanol Caerffili;
  6. Trefnu cynadleddau mawr i fynd i'r afael â materion megis caethwasiaeth fodern, troseddau casineb a chydlyniant cymunedol, a datblygu ffocws er mwyn mynd i'r afael â seiberdroseddau drwy weithgarwch cyllido a chodi ymwybyddiaeth;
  7. Denu cyllid gwerth mwy na £1.26 miliwn i ardal Gwent er mwyn cyflawni prosiectau a chynlluniau megis Hwb Plant Coll Gwent, cynllun dargyfeiriol i fenywod a chyllid ar gyfer prosiect ymyrryd yn gynnar mewn perthynas â thrais domestig;
  8. Cefnogi'r gwaith o gomisiynu prosiectau gwerth mwy na hanner miliwn o bunnoedd drwy'r grŵp Gwent Mwy Diogel a oedd yn cynnwys swydd Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau a Dioddefwyr ar gyfer y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc;
  9. Dyfarnu mwy na hanner miliwn o bunnoedd mewn arian parod, a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr yn bennaf, i ariannu bron 180 o brosiectau a mentrau cymunedol yng Ngwent; a
  10. Parhau i sicrhau y darperir gwasanaethau i ddioddefwyr yng Ngwent a chyflwyno Model Plismona sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn yn benodol i ardal Gwent.


Gan fyfyrio ar y flwyddyn ariannol ddiwethaf, dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: "Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy Adroddiad Blynyddol cyntaf a hoffwn ddiolch i'm rhagflaenydd, Ian Johnston, a ddarparodd sail gadarn i mi allu adeiladu arni. Bu fy mlwyddyn gyntaf fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn un foddhaus iawn ac fel y gwelwch o'r adroddiad hwn, rydym wedi cyflawni cryn dipyn yn ystod y cyfnod hwn. Mae perfformiad Heddlu Gwent ers dechrau yn fy swydd wedi creu argraff gadarnhaol arnaf. Cafwyd trawsnewidiad gwirioneddol ym mherfformiad Heddlu Gwent dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym mewn sefyllfa dda i ateb y galwadau ar y gwasanaeth nawr ac yn y dyfodol. Mae Heddlu Gwent wedi mynd o fod angen gwelliant ym mhob maes yn ôl asesiadau arolygwyr i fod yn un o'r gwasanaethau heddlu sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru a Lloegr."


Gan edrych i'r dyfodol ac amlinellu rhai o'r heriau o'i flaen, ychwanegodd Mr Cuthbert: "Rwyf bellach yn edrych ymlaen at ddarparu yn unol â'm Cynllun yr Heddlu a Throseddu a sicrhau bod pobl Gwent, yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed, yn cael y gwasanaeth plismona gorau posibl. Nid oes amheuaeth mai mantoli cyllidebau yw un o'r heriau mwyaf y mae pob gwasanaeth yng Nghymru a Lloegr yn ei wynebu, boed yn wasanaeth plismona neu'n wasanaeth arall. Nid yw'r setliad ariannu presennol ar gyfer plismona gan Lywodraeth y DU yn sicrhau mwyach bod Heddlu Gwent mewn sefyllfa i ateb y galw cynyddol mwyach. Os yw'r diffyg buddsoddiad hwn yn parhau yna, heb os, bydd yn effeithio ar y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Byddaf yn parhau i weithio gyda Heddlu Gwent a'm cyd-Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â materion ariannu'r heddlu â Llywodraeth y DU. Rwyf bellach yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a byddaf yn canolbwyntio ar wella plismona a rhoi partneriaethau hanfodol ar waith er mwyn cadw ein cymunedau yn ddiogel."

Gallwch bellach weld fersiwn lawn yr adroddiad blynyddol ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Cliciwch yma