Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn canmol Heddlu Gwent am welliannau i wasanaethau amddiffyn plant

10fed Gorffennaf 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol Heddlu Gwent am y gwelliannau mae wedi'u gwneud i'w wasanaethau amddiffyn plant.

Mae adroddiad diweddaraf Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi canfod bod Heddlu Gwent wedi gwella ei arfer yn y maes amddiffyn plant yn dilyn argymhellion blaenorol gan arolygwyr.

Daw hyn yn sgil adroddiad yn 2019 ar ba mor dda oedd Heddlu Gwent yn cadw plant dan 18 oed yn ddiogel ac a gymeradwyodd y gwasanaeth am ymrwymiad clir i welliant parhaus.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf yn hynod o falch o'r gwaith mae Heddlu Gwent yn ei wneud bob dydd i ddiogelu plant rhag camdriniaeth, cam-fanteisio a niwed.

"Rydym yn cydweithio'n barhaus i sicrhau ein bod yn gwella'r gwasanaethau mae Heddlu Gwent yn eu darparu ac rwyf yn dawel fy meddwl bod argymhellion adroddiad 2019 wedi cael eu cymryd o ddifrif.

"Mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn cadarnhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud yn y meysydd iawn ac yn ailddatgan ymrwymiad clir gen i a Heddlu Gwent i amddiffyn pobl fregus.

"Rwyf yn falch i ddweud ei fod yn rhoi sylw i'r defnydd o weithwyr cymdeithasol yn ystafell gyfathrebu'r llu a'r rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd, yr oedd y ddau ohonynt wedi cael eu sbarduno gan fy swyddfa i er mwyn gwella'r ffordd mae Heddlu Gwent yn diogelu plant.

"Mae'r adroddiad yn nodi'r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud yn deall perfformiad yr heddlu hefyd. Eto, sbardunwyd hyn gan fy swyddfa i ac, yn y pen draw, bydd yn ein galluogi ni i ddarparu gwasanaeth gwell ar gyfer ein trigolion.

"Wrth gwrs, rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon. Mae cyfleoedd bob amser i gaboli a gwella gwasanaethau a byddaf yn parhau i fonitro Heddlu Gwent i sicrhau bod cynnydd pellach yn digwydd.”

Roedd yr adroddiad gwreiddiol yn 2019 yn canmol Heddlu Gwent am ei waith partner cadarn ac am ddiogelu iechyd a lles staff, ond tynnodd sylw at nifer o feysydd yr oedd arolygwyr yn teimlo y gellid eu gwella.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: Mae ein hymroddiad i amddiffyn rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau wrth galon ein gwaith o hyd ac rydym yn gwerthfawrogi bod y sicrwydd hwn, a'r camau gweithredu rydym wedi eu cymryd i wella ein gwaith, yn cael ei gydnabod gan yr arolygwyr. Rydym yn gweithio'n gyson i wella'r ffordd rydym yn diogelu pobl ac i wella canlyniadau ar gyfer unigolion.

"Er ein bod wedi gwneud cynnydd yn ystod y flwyddyn rhwng yr adroddiad gwreiddiol a'r adolygiad, rydym yn deall bod mwy i'w wneud o hyd ac rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i wella cysondeb ein gwaith wrth ddiogelu plant a phobl ifanc.

Gellir gweld yr adroddiad llawn ar wefan Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi