Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn lansio tudalen Facebook Gymraeg

10fed Mehefin 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi lansio tudalen Facebook Gymraeg er mwyn ymgysylltu'n well gyda siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rwyf wedi ymroi i sicrhau bod trigolion Cymraeg eu hiaith yng Ngwent yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl. Bydd tudalen Facebook bwrpasol yn Gymraeg yn ein galluogi ni i ymgysylltu â nhw'n fwy effeithiol yn eu hiaith o ddewis.”

Dilynwch y dudalen ar www.facebook.com/SwyddfaComisiynyddyrHeddluaThrosedduGwent