Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cyllido prosiect ieuenctid newydd Blaenafon

5ed Chwefror 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn rhoi cyllid i glwb ieuenctid newydd ym Mlaenafon.

Mae'r sefydliad ieuenctid HIT Community CIC yn darparu sesiynau bob nos Lun yn yr Hwb ar Broadstreet. 

Gall plant a phobl ifanc alw heibio rhwng 5pm a 8pm i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gemau a gweithgareddau, gan gynnwys crefftau, sesiynau DJ, pŵl, a ping pong. Mae gweithgarwch coginio ar gael bob wythnos hefyd, sy'n cael ei ddewis gan bobl ifanc, gyda'r nod o ddatblygu sgiliau byw yn annibynnol.

Mae'r clwb yn canolbwyntio ar hybu gwerthoedd cadarnhaol, gwaith tîm, cyfathrebu, a chyfrifoldeb cymunedol. Cafodd ei lansio ym mis Ionawr ac mae'n boblogaidd iawn yn barod, gyda rhyw 30 o blant a phobl ifanc yn mynychu'n rheolaidd.

Meddai Hannah Lewis o HIT Community CIC: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd am gefnogi'r prosiect yma.

"Rydyn ni'n ceisio difyrru pobl ifanc gyda phrosiectau gweithredu cymunedol sy'n gadarnhaol, ystyrlon ac sydd o ddiddordeb go iawn iddyn nhw. Rhywbeth maen nhw'n gallu edrych ymlaen ato bob wythnos a'i berchnogi.

"Mae'r sesiynau yma'n rhoi lle diogel iddyn nhw fynd, lle gallan nhw dreulio amser gyda ffrindiau, cymryd rhan mewn gweithgareddau, a gweithio gyda ni i ddatblygu eu hymwybyddiaeth gymdeithasol, empathi, a hyder i wneud penderfyniadau da."

Derbyniodd HIT Community CIC arian o Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, sy'n rhoi cymorth i sefydliadau ddarparu prosiectau sy'n ymdrin â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Rydyn ni wedi siarad â llawer o bobl ym Mlaenafon, ac rydyn ni'n gwybod bod diffyg llefydd i blant a phobl ifanc fynd gyda'r nosau, sy'n golygu eu bod nhw'n hel at ei gilydd ac, mewn rhai achosion, mae hynny'n gallu arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

“Mae'r clwb ieuenctid newydd yn golygu bod ganddyn nhw rywle diogel i fynd ar noson arall yn yr wythnos, i dreulio amser gyda'u ffrindiau. Maen nhw'n gallu cael cymorth a chefnogaeth staff HIT Community CIC ar yr un pryd.

"Os oes gennych chi brosiect sy'n ymdrin â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned, byddwn yn falch iawn i glywed gennych chi."
www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu