Blwyddyn Gyntaf y Comisiynydd

27ain Mehefin 2017

Mae heddiw (dydd Gwener 12 Mai) yn nodi blwyddyn union ers i Jeff Cuthbert ddechrau ei rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.Mae'r garreg filltir hon wedi rhoi'r cyfle iddo fyfyrio ar rai o'i gyflawniadau allweddol hyd yn hyn, rhai o'r heriau o'i flaen a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

"Mae fy rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn galluogi trigolion i leisio eu barn ynglŷn â sut y caiff gwasanaethau'r heddlu eu darparu a chymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'u gwasanaethau lleol. Drwy ddigwyddiadau, fforymau a chymorthfeydd cyhoeddus mae fy staff a minnau wedi ymweld â'n holl bartneriaid allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sy'n cynnwys cynghorau tref a chymuned, awdurdodau lleol, swyddogion etholedig ac arweinwyr busnesau lleol yn yr ardal. Dim ond drwy wrando ar broblemau a phryderon pobl, a thrwy roi anghenion yr unigolion wrth wraidd yr hyn a wnawn, y gallwn geisio rhoi'r ansawdd bywyd gorau posibl i'n dinasyddion.

Sicrhau Gwent Mwy Diogel
Ar ôl gwrando ar gymunedau Gwent, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill, roedd yn bleser gennyf lansio fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer 2017 - 2021 Sicrhau Heddlu Gwent Mwy Diogel ym mis Mawrth. Mae'r cynllun hwn yn darparu cyfeiriad strategol o ran sut y dylai gwasanaethau plismona a throseddu gael eu cyflwyno yng Ngwent dros y pedair blynedd nesaf ac mae'n seiliedig ar y pum blaenoriaeth heddlu a throseddu y mae pobl wedi dweud wrthyf sy'n bwysig iddynt. Mae'r blaenoriaethau fel a ganlyn: Atal Troseddu; Cefnogi Dioddefwyr; Cydlyniant Cymunedol; Mynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol; a Darparu Gwasanaeth Effeithiol.

 

Adeiladu Partneriaethau

Mae'n bleser gennyf weld bod y pwyslais rwyf wedi ei roi ar adeiladu partneriaethau wedi dwyn ffrwyth dros y flwyddyn ddiwethaf. Ni all yr Heddlu fod yn gyfrifol am blismona ar ei ben ei hun a'r ffordd orau o sicrhau y caiff y rhan fwyaf o broblemau eu datrys orau yw drwy sicrhau bod y gymuned gyfan yn cydweithio. Ymgorfforir y dull gweithredu hwn yn gadarn yn y ffordd y mae fy swyddfa a'r Gwasanaeth yr Heddlu yn gweithio yma yng Ngwent.

Ymysg yr enghreifftiau o ble rydym wedi rhoi partneriaethau cadarnhaol ar waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae:

  • Ein gwaith cydgysylltiedig yng nghanol Casnewydd gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i fynd i'r afael â'r materion brys a godwyd gan y gymuned. Mae hyn yn cynnwys cudd-wybodaeth gymunedol hanfodol a ddarparwyd i Heddlu Gwent i gynnal dau gam Ymgyrch Jewels - yr ymgyrch cyffuriau fwyaf yn hanes y Gwasanaeth;
  • Y seminar Caethwasiaeth Fodern a gynhaliwyd gennyf yn gynharach eleni a ddaeth â chyflogwyr a chyflenwyr at ei gilydd i drafod sut y gallwn ni weithio hyd yn oed yn agosach gyda'r heddlu a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau na cham-fanteisir ar bobl a'u defnyddio fel caethweision modern. Mae hwn yn faes rydym nawr yn ei hyrwyddo gyda'n partneriaid lleol ac yn genedlaethol;
  • Ein gwaith gyda'n partneriaid ar y grŵp Gwent Mwy Diogel i gyflawni canlyniadau gwell i atal a lleihau troseddu; gan weithredu'n fwy effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol; cefnogi dioddefwyr a diogelu pobl rhag niwed difrifol;
  • Fy ymrwymiad parhaus i gyflwyno'r Gronfa Bartneriaeth, sy'n dyfarnu arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr ac o werthu eiddo coll nas hawliwyd, i brosiectau cymunedol yng Ngwent;
  • Ein gwaith arloesol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i leoli arbenigwyr iechyd meddwl ymrwymedig i weithio ar y cyd â Heddlu Gwent yn ei ystafell reoli. Mae hyn yn sicrhau bod unigolion sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn derbyn y lefel cywir o gefnogaeth ac ymyrraeth ar y pwynt cyswllt cyntaf; a
  • Lansiad yr Orsaf Gwasanaethau Brys newydd yn Abertyleri sy'n gweld y tri gwasanaeth golau glas i gyd o dan yr un to am y tro cyntaf yn Ne Cymru.

Byddaf yn parhau i gynnal a meithrin cysylltiadau cryf rhwng y sector gwirfoddol a'r sector cymunedol a'm swyddfa, a datblygu cyfleoedd a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion newydd ein cymunedau.

 

Mynd i'r afael â Bregusrwydd

Rwy'n gwbl ymwybodol o natur newidiol troseddau ac un o'm blaenoriaethau yw darparu cefnogaeth wych i bob dioddefwr troseddau gyda ffocws penodol ar atal niwed difrifol pellach. Dyma'r rheswm pam fy mod wedi cyflogi Swyddog yr Heddlu yn benodol i ganolbwyntio ar fregusrwydd gyda phwyslais penodol ar droseddau effaith uchel fel cam-fanteisio'n rhywiol ar blant, cam-drin ac esgeuluso plant , trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r ymchwil hon wedi fy ngalluogi i greu fframwaith bregusrwydd gyda'r nod o nodi camau wedi'u targedu a hysbysu'r heddlu a'n partneriaid o ran sut i fynd i'r afael â phrif achosion bregusrwydd a dylanwadu arnynt.

 

Cynnal Presenoldeb

Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu rwy'n gyfrifol am ystâd yr heddlu yng Ngwent sy'n cynnwys holl orsafoedd, tir ac asedau'r heddlu. Er y gostyngiad mewn cyllid i Wasanaeth yr Heddlu dros y chwe blynedd diwethaf, rwyf yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth heddlu gweledol a hygyrch sy'n ymateb yn ddigonol i anghenion lleol ac yn rhoi sicrwydd i'r gymuned. Ar ôl gwrando ar bryderon trigolion yn ystod fy ymgyrch etholiadol, y llynedd, cyhoeddais fy mhenderfyniad i agor gorsaf heddlu barhaol newydd yng nghanol Caerffili. Mae gwaith adnewyddu'r safle cownter blaen newydd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac rydym yn barod am yr agoriad swyddogol yr haf hwn.

 

Gwasanaeth sy'n Gweithio

Mae perfformiad yr Heddlu ers dechrau yn fy swydd wedi creu argraff gadarnhaol arnaf. Felly, er mawr ofid i mi y derbyniaf hysbysiad swyddogol y Prif Gwnstabl, Jeff Farrar, o'i fwriad i ymddeol ym mis Mehefin. Mae wedi arwain y trawsnewidiad ym mherfformiad y Gwasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n ein gadael mewn sefyllfa dda i ateb y galwadau ar y gwasanaeth nawr ac yn y dyfodol. Dan ei arweinyddiaeth, mae'r Gwasanaeth wedi mynd o fod angen gwelliant ym mhob maes i fod yn un o'r Gwasanaethau sy'n perfformio orau yng Nghymru a Lloegr. Rydym wrthi'n edrych am olynydd i Mr Farrar.

O ystyried darparu lefel well o wasanaeth i'r cyhoedd, roedd yn bleser gennyf lansio'r Uned Ymateb i'r Cyhoedd newydd ym mis Hydref y llynedd. Amcan yr Uned yw sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw anfodlonrwydd â Heddlu Gwent mor gyflym ac effeithiol â phosibl cyn iddo ddatblygu i fod yn gŵyn fwy difrifol. Mae'r uned hefyd yn annog aelodau o'r cyhoedd i ddweud wrthynt am y lefelau da o wasanaeth a gawsant gan yr Heddlu.

 

Addas ar gyfer y Dyfodol

Nid oes amheuaeth mai'r gyllideb ar gyfer plismona yw un o'r heriau mwyaf y mae Gwent a'r holl wasanaethau eraill yng Nghymru a Lloegr yn parhau i'w hwynebu. Mae sut rydym wedi gwella a datblygu fel gwasanaeth yng Ngwent, er y gostyngiadau parhaus yn y gyllideb o flwyddyn i flwyddyn, yn rhyfeddol.

Fodd bynnag, o ganlyniad i'n rhaglen arbedion effeithlonrwydd, cynllunio doeth a rhywfaint o gynnydd yn y Praesept (yr elfen plismona o'r dreth cyngor), gwnaethom allu recriwtio 160 o Swyddogion yr Heddlu y llynedd a bydd 120 o swyddogion yr heddlu newydd yn ymuno â Heddlu Gwent yn ystod 2017/18 i gryfhau'r rheng flaen. Ac er nad yw plismona wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl allweddol o ran diogelwch a lles y gymuned drwy ddarparu cyllid ar gyfer 101 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Ngwent.

Efallai y bydd y byd plismona yn ymddangos yn wahanol iawn ymhen pedair neu bum mlynedd ac mae angen i ni fod yn ddigon hyblyg i ymaddasu at y newidiadau hynny. Bydd yn rhaid i ni aros i weld beth fydd y goblygiadau i blismona a llesiant ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.

Rwyf bellach yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a byddaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl Gwent yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddaf yn parhau i weithio'n galed i wella plismona a hyrwyddo partneriaethau hanfodol i gadw ein cymunedau'n ddiogel."