Arhoswch gartref a chadwch yn ddiogel ar Noson Tân Gwyllt

3ydd Tachwedd 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn ategu galwad y gwasanaeth tân ar drigolion i gadw'n ddiogel a dilyn canllawiau Covid Noson Tân Gwyllt eleni.

Nid yw cyfyngiadau presennol yn caniatáu arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus a rhaid i drigolion beidio â chwrdd â phobl o aelwydydd eraill.

O ganlyniad, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n paratoi ar gyfer noson brysurach nag arfer wrth i fwy o bobl ddathlu yn eu gerddi eu hunain.

Mae'r gwasanaeth yn gofyn yn daer ar drigolion i fod yn ddiogel ac yn gyfrifol wrth drafod tân gwyllt, ac i osgoi tanio coelcerthi yn eu gerddi.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Os ydych yn dewis dathlu Noson Tân Gwyllt gartref eleni byddwch yn ofalus a pharchwch eich cymdogion.

"Gall tanau ledaenu a mynd allan o reolaeth mewn eiliadau, ac mae'r heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu galw allan bob blwyddyn at bobl sydd wedi cael eu hanafu trwy gam-drafod tân gwyllt. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni wneud popeth y gallwn i osgoi gwastraffu adnoddau ein gwasanaethau brys.

"Mae tân gwyllt yn gallu achosi gofid mawr i anifeiliaid anwes megis cathod a chŵn hefyd.

"Bydd Heddlu Gwent yn cefnogi'r gwasanaeth tân i sicrhau bod y noson yn mynd rhagddi'n ddiogel a byddant yn defnyddio camau gorfodi os bydd rhaid.

"Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai pobl fwynhau'r noson yn ddiogel felly arhoswch gartref a chadwch yn ddiogel Noson Tân Gwyllt."