Archwilio Cyfrifon 2019/2020

13eg Gorffennaf 2020

Rhoddir rhybudd drwy hyn yn unol ag Adrannau 29 a 30 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ac fel y manylir ymhellach yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014):

  1. O 4 Awst 2020 hyd at 31 Awst 2020 yn gynwysedig, rhwng 10.00 a.m. a 5.00 p.m. (dydd Llun i ddydd Iau yn unig) a rhwng 10.00 a.m. a 4.00 p.m. (dydd Gwener yn unig), gall unrhyw un sydd â diddordeb, drwy wneud cais i’r Adran Gyllid, Pencadlys yr Heddlu, Croesyceiliog, Cwmbrân, arolygu a gwneud copïau o gyfrifon Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a chyfrifon Prif Gwnstabl Gwent am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 ynghyd â phob llyfr, gweithred, contract, bil, taleb a derbynneb sy’n berthnasol iddynt. Er mwyn ein cynorthwyo i wneud trefniadau priodol oherwydd COVID-19, byddai o gymorth pe gallai unrhyw un sydd â diddordeb ein hysbysu ymlaen llaw eu bod yn bwriadu archwilio’r cyfrifon a dogfennau.
  2. Am 9.00 a.m. ar 1 Medi 2020 neu wedi hynny, bydd yr Archwilydd Penodedig, Anthony Barrett, o 24 Cathedral Road, Caerdydd CF11 9LJ ym Ty Vantage Point, Parc Busnes Vantage Point, Ty Coch Way, Cwmbrân, NP44 7HF, (ac wedi hynny hyd nes y bydd yr Archwilydd yn ardystio bod yr Archwiliad wedi’i gwblhau), ar gais unrhyw etholwr llywodraeth leol o’r ardal y mae cyfrifon o’r fath yn berthnasol iddo, neu ei gynrychiolydd/ei chynrychiolydd, yn rhoi cyfle iddynt ei holi am y cyfrifon a gall unrhyw etholwr o’r fath neu ei gynrychiolydd/ei chynrychiolydd ddod gerbron yr Archwilydd a chynnig gwrthwynebiadau:
    1. i. ynglŷn ag unrhyw fater y gallai’r Archwilydd weithredu arno yn unol ag Adrannau 17 neu 18 o’r Ddeddf (sef eitem cyfrif anghyfreithlon, methu ag ystyried swm, neu golled neu ddiffyg a achoswyd gan gamymddwyn bwriadol)
    2. ii. ynglŷn ag unrhyw fater y gallai’r Archwilydd adrodd arno er lles y cyhoedd o dan Adran 22 o’r Ddeddf.
  3. Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad o’r fath oni bai bod yr Archwilydd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig yn flaenorol o’r gwrthwynebiad a sail y gwrthwynebiad; a bod copi o rybudd o’r fath yn cael ei anfon at y sawl a enwir isod.
  4. Oherwydd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â Covid 19, mae’n bosibl y gall y dyddiadau yn yr hysbysiad hwn newid. Bydd unrhyw newid yn y dyddiadau’n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan www.gwent.pcc.police.uk

 

Darren Garwood-Pask

Prif Swyddog Cyllid

Swyddfa Comisiynydd

Heddlu a Throsedd Gwent

 

Nigel Stephens

Prif Swyddog Cynorthwyol Adnoddau

Heddlu Gwent

 

Pencadlys yr Heddlu
Croesyceiliog
CWMBRÂN
NP44 2XJ