Ar grwydr
                
                    
                    18fed Gorffennaf 2023
                
            
            Mae wedi bod yn bythefnos prysur ac mae’r tîm wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau ledled Gwent. 
Maen nhw wedi cefnogi Gŵyl Ieuenctid 7 Corner yn Y Fenni, Parti yn y Parc Pont-y-pŵl, diwrnod hwyl i’r teulu Ysgol Gynradd Pilgwenlli, sesiwn wybodaeth i drigolion yn Ringland a digwyddiad Pride Ysgol Lewis, Pengam. 
Yn ogystal â manteisio ar y cyfle i siarad â thrigolion am y materion sydd o bwys iddyn nhw, mae digwyddiadau fel y rhain yn gyfle i dynnu sylw at wasanaethau cymorth allweddol a rhannu cyngor atal trosedd. 
Os hoffech chi i’r tîm fod yn bresennol mewn digwyddiad rydych chi’n ei gynnal yn y gymuned e-bostiwch fy swyddfa.
 
                