Adroddiad Da Arall i Heddlu Gwent

12fed Rhagfyr 2017

Unwaith eto mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol ymdrechion Heddlu Gwent ar ôl iddo gadw ei sgôr ‘da’ gan arolygwyr am y ffordd mae’n cadw pobl yn ddiogel ac yn lleihau troseddu.

Roedd yr arolwg diweddaraf gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn edrych yn benodol ar ba mor deg yw Heddlu Gwent wrth gadw pobl yn ddiogel a lleihau troseddu ac yn asesu ansawdd yr arweinyddiaeth yn y gwasanaeth. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn ystyried bod heddlu yn deg os oes ganddo gydsyniad y cyhoedd, ac os yw’r rhai sy’n gweithio yn y llu yn ymddwyn yn gyson mewn ffordd sy’n deg, yn foesegol ac o fewn y gyfraith.

Er mwyn asesu hyn, aeth Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi ati i arolygu pa mor dda mae Heddlu Gwent yn trin y bobl mae’n eu gwasanaethu; sicrhau bod ei weithlu’n ymddwyn yn foesegol ac yn gyfreithiol; a’i fod yn trin ei weithlu gyda thegwch a pharch.

Derbyniodd Heddlu Gwent sgôr cyffredinol ‘da’ (yr ail radd uchaf posibl) ac mae’r adroddiad yn dangos:

  • Sut mae’r gwasanaeth yn gwneud gwaith da wrth roi gwybodaeth gyfredol i bobl ynglŷn â sut mae eu cwynion yn symud ymlaen;
  • Sut mae gan y gwasanaeth wybodaeth a phrosesau effeithiol ar waith i ganfod, ymateb ac ymchwilio i honiadau o wahaniaethu;
  • Sut mae arweinwyr yn darparu amrywiaeth o ffyrdd ar gyfer ceisio adborth a her gan ei weithlu a sut mae’r gwasanaeth yn cymryd camau mewn ymateb i broblemau sy’n codi ac yn hysbysu’r gweithlu yn unol â hynny;
  • Bod gan y gwasanaeth strategaeth iechyd a lles effeithiol sydd wedi ennill ei phlwyf ac sy’n cael ei gefnogi gan amrywiaeth o fesurau ymarferol i hybu lles corfforol a seicolegol, ac i gymryd camau gweithredu ataliol a chynnar i roi sylw i bryderon lles;
  • Bod gan y gwasanaeth broses sydd wedi ennill ei phlwyf ar gyfer canfod ymgeiswyr llawn potensial, yn seiliedig ar gefnogaeth rheolwyr llinell, ffurflenni cais a chyfweliadau, a’i fod yn y camau cynnar o ganfod aelodau o’r gweithlu sy’n llawn potensial.
  • Tynnodd yr arolygwyr sylw hefyd at feysydd y mae angen eu gwella, y dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert y byddai’n rhoi sylw iddynt yn awr gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent.

 

Mae rhai o’r meysydd y mae angen eu gwella’n cynnwys y canlynol:

 

  • Dylai Heddlu Gwent adolygu lluniau offer fideo sy’n cael ei wisgo ar y corff yn rheolaidd ac yn aml fel rhan o’i broses caffael er mwyn gwella’r ffordd mae’n defnyddio’r drefn stopio a chwilio;
  • Dylai’r gwasanaeth roi systemau ar waith i sicrhau bod ei ddefnydd o’r drefn stopio a chwilio yn destun craffu allanol annibynnol a sicrhau bod adolygiadau’n cael eu cynnal yn amlach;
  • Mae angen i Heddlu Gwent gydymffurfio’n llawn â’r safon cofnodi genedlaethol ar gyfer defnyddio grym;
  • Dylai’r gwasanaeth sicrhau bod ganddo lenyddiaeth benodol mewn gorsafoedd heddlu a mannau cyhoeddus eraill ynglŷn â sut i leisio cwyn yn unol â chanllawiau statudol IPCC. Yn benodol, dylai ganolbwyntio ar gymunedau sydd â llai o hyder yn yr heddlu.
  • Y mis diwethaf, canodd y Comisiynydd glodydd y gwasanaeth am gynnal sgôr da ym mhob maes mewn adroddiad, a oedd yn dangos bod Heddlu Gwent yn darparu gwasanaethau effeithlon ar gyfer y cyhoedd.

Wrth gydnabod y meysydd y mae angen eu gwella a amlygwyd gan adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi heddiw, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert ei fod wedi ei galonogi gan berfformiad Heddlu Gwent ar y cyfan: “Roeddwn yn falch o weld Heddlu Gwent yn cadw ei sgôr da yn gyffredinol er gwaetha’r heriau hysbys rydym wedi eu hwynebu dros y saith mlynedd diwethaf mewn perthynas â thorri cyllidebau,” meddai Mr Cuthbert.

Rwyf wedi fy nghalonogi gan berfformiad Heddlu Gwent ac rwyf yn gwybod bod y gwasanaeth mewn lle da i fodloni galw presennol ac yn y dyfodol. Dros y tair blynedd diwethaf mae Heddlu Gwent wedi mynd o fod yn wasanaeth a oedd angen gwella ym mhob maes i fod yn un o’r gwasanaethau sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru a Lloegr.

Byddaf yn parhau i weithio gyda’r Prif Gwnstabl a’n partneriaid i sicrhau bod pobl sy’n byw a gweithio yng Ngwent, neu sy’n ymweld â Gwent yn ddiogel a bod gwasanaethau plismona a throseddu yn cael eu darparu gan ddangos gwerth am arian. Rwyf hefyd eisiau sicrhau bod fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn gyflogwyr y mae pobl eisiau gweithio iddynt.”

Ychwanegodd Mr Cuthbert: “Hoffwn ddiolch i’r arolygiaeth am ei gwaith craffu a hefyd am dynnu sylw at feysydd y mae angen eu gwella y byddwn yn ceisio rhoi sylw iddynt yn awr.”

Dyma ddywedodd Julian Williams, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent am gyhoeddiad adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi: “Mae’n achos balchder bod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn parhau i roi sgôr ‘da’ i Heddlu Gwent mewn perthynas â chyfreithlondeb ac arweinyddiaeth yr Heddlu. Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn gweld ein bod yn haeddu’r pwerau a roddir i ni ac rwyf yn ymroddedig i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth teg a diduedd i bob cymuned. Byddwn yn adolygu adroddiad ac argymhellion Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn fanwl yn awr i sicrhau ein bod yn rhoi sylw i feysydd lle y gellir gwella perfformiad.”

Am wybodaeth bellach ac i weld yr adroddiad cyflawn ewch i www.justiceinspectorates.gov.uk