Croeso i Gronfa Ymgysylltu Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd

Ydych chi'n darparu prosiectau sy'n helpu i gynyddu hyder ac ymddiriedaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau lleiafrifiedig ac wedi'u hymyleiddio yng Ngwent? Ydi eich prosiectau’n canolbwyntio ar hil, anabledd, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol?

Mae'r Gronfa Ymgysylltu Cymunedol yma i roi cymorth i sefydliadau trydydd sector a buddiant cymunedol sy'n gweithio i gyflawni amcan cyntaf y Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n sail i'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Mae'r Gronfa'n cynnig grantiau o hyd at £5,000 i wella cydlyniant cymunedol ledled Gwent.

 

Pam gwneud cais?

  • Cyllid hyblyg: Ymgeisiwch am grantiau hyd at £5,000 i gefnogi gwaith i gyflawni eich prosiect sy'n cynrychioli cymunedau wedi'u hymyleiddio a / neu leiafrifiedig.
  • Gwaith partner: Gweithiwch gyda ni i gynyddu cydlyniant cymunedol, dyfnhau partneriaethau cymunedol cydweithredol, a chryfhau perthnasoedd gyda chymunedau.
  • Cydnabyddiaeth gyhoeddus: Codwch ymwybyddiaeth o'ch gwaith trwy gyfleoedd hyrwyddo a gwaith partner gweledol.

 

Pwy all wneud cais?

  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau dielw y mae eu gwaith yn cyfrannu at amcan cyntaf y Cynllun Cydraddoldeb Strategol:

Gwella hyder ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cymunedau lleiafrifiedig ac sydd wedi’u hymyleiddio, gan ganolbwyntio’n benodol ar hil, anabledd, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.

Mae hyn yn cynnwys elusennau, sefydliadau gwirfoddol a chwmnïau buddiant cymunedol sydd am ddarparu prosiectau y mae'n rhaid iddynt gyflawni'r canlynol:

 

  • Cynrychioli neu wasanaethu cymunedau lleiafrifiedig a/neu sydd wedi’u hymyleiddio fel y nodir yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol;
  • Cefnogi gweithgareddau sy'n digwydd yng Ngwent neu sy'n rhoi budd sylweddol i gymunedau a thrigolion Gwent; a
  • Helpu i wella cydlyniant cymunedol trwy rannu profiadau a rhyngweithio.

 

I weld y meini prawf cymhwyso, cyfeiriwch at y ddogfen Canllawiau a Meini Prawf.

 

Sut i wneud cais

Mae gwneud cais yn syml:

  1. Lawrlwythwch y Canllawiau a Ffurflen Gais
  2. Cwblhewch eich cais: Rhowch fanylion clir am eich prosiect a sut mae'n cefnogi amcan cyntaf y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
  3. Cyflwynwch eich cais: E-bostiwch eich ffurflen wedi'i llenwi at PCCFunding@gwent.police.uk

 

Pryd ddylwn i wneud cais?

  • Ceisiadau trwy’r flwyddyn: Nid oes dyddiad cau penodedig. Fodd bynnag, pan fydd holl arian y Gronfa wedi cael ei ddyrannu, bydd ceisiadau'n cael eu hoedi tan y flwyddyn ariannol nesaf.
  • Amserlen dyfarnu: Mae ceisiadau'n cael eu hadolygu a rhoddir gwybod am benderfyniad o fewn rhyw bedair wythnos.

 

Angen Cymorth?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi gyda'ch cais, cysylltwch â ni yn engagement@gwent.police.uk Rydym ni yma i helpu.