Croeso i Gronfa Partneriaeth Gymunedol y Comisiynydd
Ydych chi'n gweithio i wneud Gwent yn fwy diogel, yn gryfach ac yn fwy cydlynol? Mae'r Gronfa Partneriaeth Gymunedol yma i roi cymorth i sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol sy'n cyflawni prosiectau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Nod y Gronfa yw cefnogi mentrau ar lawr gwlad i gyflawni gweithgareddau dan arweiniad y gymuned, ymgyrchoedd lleol, ac i helpu gyda chostau untro sy'n cyfrannu at adeiladu cymdogaethau mwy diogel a gwydn ledled Gwent. Mae'n cynnig cyfle gwerthfawr i chi sicrhau cymorth ariannol a gwneud mwy o argraff ledled Gwent.
Pam gwneud cais?
- Cyllid Pwrpasol: Mynediad at gymorth ariannol hyd at £1,000 i helpu i gyflawni newid ystyrlon yn unol â'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
- Gwaith Partner: Gweithiwch gyda ni i gyflawni diogelwch a chyfiawnder cymunedol gyda'n gilydd.
- Bod yn fwy gweledol: Dangoswch eich gwaith ac ennill cydnabyddiaeth am eich cyfraniad at gymunedau mwy diogel.
Pwy all wneud cais?
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan amrywiaeth eang o sefydliadau y mae eu gwaith yn cefnogi blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, gan gynnwys:
- Grwpiau gwirfoddol a chymunedol
- Elusennau a mentrau cymdeithasol
- Sefydliadau sy'n canolbwyntio ar y gymuned
I weld y meini prawf llawn ar gyfer ymgeisio, cyfeiriwch at y Canllawiau a Ffurflen Gais.
Sut i wneud cais
Mae ymgeisio yn syml:
- Lawrlwythwch y Canllawiau a Ffurflen Gais
- Cwblhewch eich Cais: Rhowch fanylion clir am eich prosiect a sut mae'n cefnogi Cynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
- Cyflwynwch eich Cais: E-bostiwch eich ffurflen, wedi'i llenwi, at PCCFunding@gwent.police.uk
Pryd ddylwn i wneud cais?
- Derbynnir ceisiadau trwy gydol y flwyddyn: Nid oes dyddiad cau penodedig. Fodd bynnag, pan fydd holl arian y gronfa wedi cael ei ddyrannu, bydd ceisiadau yn cael eu hoedi tan y flwyddyn ariannol nesaf.
- Rhoi gwybod am ddyfarniad: Mae ceisiadau'n cael eu hadolygu a byddwn yn rhoi gwybod am benderfyniadau o fewn rhyw bedair wythnos.
Angen cymorth?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi gyda'ch cais, cysylltwch â ni: PCCFunding@gwent.police.uk.
Rydym ni yma i helpu.
Ceisiadau Llwyddiannus:
2022/23
2021/22
2020/21
2019-20
2018/19 - cofnod penderfyniadau PCCG-2019-026