Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyrannu cyllid grant o Gronfa Gymunedol yr Heddlu y Comisiynydd i saith prosiect, sy’n dod i gyfanswm o £151,934.67. Yn ogystal, dyrannwyd cyllid am ddwy flynedd mewn egwyddor i bedwar prosiect a gawsant eu hariannu yn 2019/20, yn amodol ar adroddiadau boddhaol a chydymffurfiaeth barhaus gyda thelerau ac amodau’r grant. Mae hyn yn golygu mai cyfanswm y cyllid a ddyrannwyd ar gyfer 2020/21 yw £298,838.39.

Reference Number: PCCG-2019-074

Date Added: Dydd Mercher, 1 Ebrill 2020

Details:

Rhestrir y prosiectau llwyddiannus sydd yn cael cyllid blwyddyn isod: Dyfarniadau Grant 2020/21 (Ebrill 2020 – Mawrth 2021): Bridge to Cross Charitable Trust - £15,000 tuag at brosiect 7 Corners – Outreach Hotspot Project, a fydd yn cyflawni gwaith cefnogi a gweithgareddau allgymorth i bobl ifanc sydd mewn sefyllfa argyfyngus. Changing Gearz - £15,000 i gyflawni’r prosiect Inspirational DJ Project, a fydd yn cynnig gweithdai wythnosol ar sut i droelli (DJ), cynhyrchu cerddoriaeth ac ati, datblygu sgiliau mentora a hyfforddi ymhlith pobl ifanc a rhoi cyfle i ennill cymwysterau a allai arwain at ddewisiadau cyflogaeth eraill. Hwb Torfaen - £15,000 tuag at gyflawni Prosiect Hwb Blaenafon. Rhoi darpariaeth i bobl ifanc yn yr Hwb, sy’n cynnwys clybiau ieuenctid fin nos, gwaith prosiect a darpariaethau addysgol. Clwb Bocsio Amatur St Michael’s - £14,365.30 i gyflawni’r prosiect bocsio a ffitrwydd ‘Rhowch gynnig arni – Bocsio a Ffitrwydd’. Bydd hwn yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn eu dysgu drwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth, cael gafael ar wybodaeth addysgol a darparu amgylchedd priodol i waredu ymddygiad ymosodol a rhwystredigaethau cathartig. Ysgol Gynradd Parc Tredegar - £7,588.75 i gyflawni ‘Prosiect Cyfathrebu Agored’ yng Nghanolfan i Deuluoedd Fforest y tu allan i oriau ysgol. Bydd hyn yn darparu cyfleusterau galw heibio i blant oedran 7 i 11 er mwyn nodi problemau unigol neu broblemau grŵp a darparu atebion cadarnhaol a dichonadwy. Tŷ Cymunedol - £48,351 tuag at gyflawni prosiect ‘School’s Out’ ieuenctid Maendy, sy’n cynnig sesiynau gwaith ieuenctid yn ystod gwyliau’r ysgol gan gynnwys teithiau addysgol a gweithgareddau yn y ganolfan ar gyfer pobl ifanc. Cymorth i Fenywod Cyfannol- £36,629.62 tuag at fan chwarae ag offer sefydlog sy’n ddiogel, therapiwtig a hygyrch ac ymyrraeth therapiwtig i bob plentyn a phob un o’r bobl ifanc sy’n preswylio yn y lloches. Dyfarnwyd cyllid blwyddyn dau mewn egwyddor i’r prosiectau canlynol a gafodd eu cyllido yn 2019/20 yn amodol ar adrodd boddhaol: Grwpiau Ieuenctid ‘Interact’ Bryn Farm a Coed Cae - £40,151 Urban Circle - £50,000 Canolfan Cwmbrân ar gyfer Pobl Ifanc - £40,314.72 The Gap Wales - £16,438

Attachments: