Swyddi Gwag
SEDDI GWAG AR Y CYDBWYLLGOR ARCHWILIO
Ydych chi eisiau helpu i hybu a chraffu ar lywodraethu corfforaethol yn y maes plismona? Allech chi fod yn llais cadarn ac annibynnol ar reolaeth fewnol?
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a Phrif Gwnstabl Gwent eisiau penodi dau o bobl i eistedd fel aelodau annibynnol o’r Cydbwyllgor Archwilio sydd â phrofiad a dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth a chanllawiau sector cyhoeddus.
Mae’r Cydbwyllgor Archwilio’n adolygu ac yn craffu ar faterion Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent, gan edrych ar faterion fel rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol yn ogystal â goruchwylio trefniadau archwilio ac adolygu datganiadau ariannol.
Mae gofyn i un o’r ddau aelod newydd fod a phrofiad mewn rheoli risg naill ai yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat.
Bydd y penodiad am bum mlynedd i ddechrau. Gall aelodau fod yn gymwys i eistedd am bum mlynedd arall yn amodol ar berfformiad boddhaol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn aelod o’r Cydbwyllgor Archwilio, cyflwynwch lythyr eglurhaol a Curriculum Vitae i Commissioner@gwent.police.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ewch i www.gwent.pcc.police.uk neu cysylltwch â Darren Garwood-Pask ar 01633 642200.
I gael rhagor o wybodaeth am Heddlu Gwent, ewch i www.gwent.police.uk neu cysylltwch â Matthew Coe ar 01633 642398.
Sylwer: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriadau cefndir (fetio) cyn y gellir cadarnhau penodiad.
Dyddiad cau: 9am dydd mercher 21 Ionawr 2026
Bydd angen i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer fod ar gael am gyfweliad ddydd Gwener 13 Chwefror 2026.
Rhagor o wybodaeth:
Egwyddorion Gweithredu a Chylch Gwaith y Cydbwyllgor Archwilio
Adroddiad Blynyddol y Cydbwyllgor Archwilio
Agendau a Chyfrifon y Cydbwyllgor Archwilio
Datganiad Cyfrifon
Cynllun Heddlu a Throsedd Gwent
Adroddiad Blynyddol Cynllun Heddlu a Throsedd Gwent
Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd
Gwirfoddolwyr yw ymwelwyr annibynnol â dalfeydd sy’n cynnal ymweliadau dirybudd â dalfeydd er mwyn gwirio sut mae carcharorion yn cael eu trin, o dan ba amodau, ac i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu.
Yn rhan o’r swydd byddwch yn arsylwi ac yn hysbysu am:
• hawliau’r carcharor
• iechyd a lles y carcharor
• amodau cyfleusterau’r ddalfa.
Er mwyn gwneud cais:
• rhaid i chi fod dros 18 oed
• rhaid i chi beidio â bod yn swyddog heddlu, aelod o staff Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, heddlu gwirfoddol, ynad lleyg neu aelod o’r Panel Heddlu a Throsedd
• rhaid i chi fod yn byw neu’n gweithio yn ardal Gwent
• rhaid i chi fod wedi bod yn preswylio yn y DU am dair blynedd cyn gwneud cais.
Mae rhagor o fanylion am rôl ymwelwyr annibynnol â dalfeydd ar gael ar wefan y Gymdeithas Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd: https://icva.org.uk/purpose
Gellir e-bostio ceisiadau at commissioner@gwent.police.uk neu eu hanfon trwy’r post at:
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Pencadlys yr Heddlu
Llantarnam Park Way
Cwmbran
Torfaen
NP44 3FW
Disgrifiad swydd
Manyleb person
Ffurflen gais