Cynllun Heddlu, Throsedd A Chyfiawnder Gwent 2025 - 2029
Rhagair gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent Jane Mudd
Rhagair gan y Prif Gwnstabl Mark Hobrough
Plismona yng Ngwent - Trosolwg
Challenges in Gwent - overview
Beth ddywedoch chi wrthyf?
Beth ddywedodd partneriaid wrthyf?
Beth yw’r blaenoriaethau plismona cenedlaethol?
Cyflwyno fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder
Sylfeini’r cynllun
Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gwneud ein cymunedau’n fwy diogel
Amddiffyn pobl agored i niwed
Rhoi Blaenoriaeth i Ddioddefwyr
Lleihau Aildroseddu
Monitro a chamau gweithredu eraill
Rolau a chyfrifoldebau plismona
Dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif
Siarter Plant a Phobl Ifanc
Partneriaethau i helpu i gyflawni’r Cynllun
Ariannu’r Cynllun hwn
Comisiynu gwasanaethau
Ymgysylltu â’r gymuned
Gwirfoddoli
Cysylltu â’ch Comisiynydd
Rhagair gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent Jane Mudd
Rwyf yn eithriadol o falch o fod wedi cael fy ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Comisiynydd).
Mae’n fraint enfawr cael siarad am blismona ar eich rhan.
Rwyf yn eich gwasanaethu chi, breswylwyr Gwent, a byddaf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif, ar eich rhan chi, am blismona yng Ngwent.
Rwyf wedi ymroi i sicrhau bod pobl Gwent yn derbyn y gwasanaeth plismona gorau posibl. Ers i mi gael fy ethol ym mis Mai 2024, rwyf wedi bod yn ceisio barn trigolion, partneriaid a busnesau er mwyn i mi allu sicrhau bod fy Nghynllun yn adlewyrchu eich blaenoriaethau chi.
Rwyf yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i ymateb i’n harolygon, yn arbennig y rhai yn ein grwpiau ffocws a’r rhai a siaradodd â ni wyneb yn wyneb.
Trwy’r gwaith yma, rwyf wedi nodi pum blaenoriaeth y byddaf yn ymrwymo iddynt ac yn canolbwyntio arnynt yn ystod y pedair blynedd nesaf. Byddaf yn gweithio gyda’r Prif Gwnstabl i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn dioddefwyr trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal troseddu ac ail droseddu trwy adnabod symptomau trosedd, deall yr achosion, ac ymyrryd yn gynnar i atal ymddygiad troseddol.
Byddaf yn eich cynrychioli chi, yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif, ac yn cydweithredu gyda phartneriaid ledled y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yma yng Ngwent i gyflawni blaenoriaethau’r Cynllun hwn.
Preswylwyr, partneriaid a busnesau sydd wedi llywio fy nghynllun, a byddant yn parhau i wneud hynny.
Rwyf yn deall bod ein pobl, ein llefydd a’n cymunedau’n amrywiol; o’n hardaloedd gwledig i’n cymoedd, ein trefi marchnad i’n dinas, bydd y Prif Gwnstabl a mi’n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod eich blaenoriaethau plismona’n cael eu cyflawni.
Rhagair gan y Prif Gwnstabl Mark Hobrough
Fel Prif Gwnstabl, mae’n fraint i mi gefnogi Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd, sy’n amlinellu’r blaenoriaethau strategol a bennwyd ar gyfer 2025-2029.
Mae’r Cynllun yma’n dangos ein hymrwymiad cadarn i ddarparu ansawdd bywyd rhagorol i gymunedau Gwent, lleihau trosedd yn unol â Strydoedd Saffach, rhoi sylw i ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i atal, canolbwyntio ar bobl agored i niwed, rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr yn y broses cyfiawnder troseddol, a lleihau aildroseddu.
Ein nod cyffredinol yw gwella ymddiriedaeth a hyder trwy gysylltiad ac ymrwymiad go iawn yn ein cymunedau. Rydym wedi ymroi i fod yn amlwg yn ein cymunedau ac i fod yn rhan o’r gwaith o ddatrys problemau yn
lleol, gan ddilyn arddull traddodiadol y tîm plismona cymdogaeth. Mae’r dull gweithredu yma’n sicrhau ein bod nid yn unig yn bresennol ond hefyd yn ymgysylltu’n rhagweithiol i roi sylw i’r problemau mwyaf pwysig i’n preswylwyr.
Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad cynhwysol a gofalgar, sy’n deall na all plismona ar ei ben ei hun ddatrys pob problem. Mae’r dull arloesol yma, gyda bwriad cyfiawnder troseddol cyflawn, yn gyffrous iawn i mi gan ei fod yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio a phartneriaeth wrth gyflawni ein goliau.
Nid dogfen yn unig mo’r Cynllun hwn; mae’n dangos llwybr ein siwrnai gyfunol tuag at gymdeithas fwy diogel a theg. Mae’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled ein swyddogion, staff, a phartneriaid sydd wedi ymroi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.
Rwyf yn hyderus, gyda chymorth parhaus ein cymunedau a phartneriaid, y byddwn yn cyflawni’r goliau a amlinellir yn y Cynllun yma ac yn adeiladu gwasanaeth heddlu effeithiol, y mae pobl yn ymddiried ynddo ac yn ei barchu.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch ymrwymiad parhaus
Plismona yng Ngwent - Trosolwg
Ardal Heddlu Gwent
- Poblogaeth: 595,000 – 19% o Gymru
- 51% benywaidd 49% gwrywaidd
- 21% dan 18 21% dros 65
- 8.3% o gefndir treftadaeth ethnig
- Ardal o 964 milltir sgwâr
- Mae’n cynnwys trydedd ddinas fwyaf Cymru, ardaloedd gwledig eang, trefi a phentrefi, a rhannau mawr o gymoedd y de yn y gogledd
- Arfordir Aber Afon Hafren yn y de a rhannau o Fannau Brycheiniog yn y gogledd
- Lloegr i’r dwyrain a Chaerdydd i’r gorllewin
- Mae’r M4 yn rhedeg trwy’r de, gyda bron i 122,000 o gerbydau wedi eu cofnodi’n ei defnyddio bob dydd
- Mae’r A465 - ffordd ‘Blaenau’r Cymoedd - yn rhedeg trwy ogledd Gwent, yn cysylltu Swydd Henffordd yn Lloegr gydag Abertawe
- Mae rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yng Nghymru yng Ngwent
Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Poblogaeth: 67,000
Y boblogaeth leiaf yng Ngwent, y mwyafrif o gwmpas trefi Abertyleri, Brynmawr, Glynebwy a Thredegar yng nghymoedd y de. Yn Nhredegar y ganwyd Aneurin ‘Nye’ Bevan a roddodd y GIG i ni pan oedd yn aelod seneddol. Mae gan Flaenau Gwent dreftadaeth ddiwydiannol a glofaol sylweddol. Chwarel Trefil yw’r heneb gofrestredig fwyaf yng Nghymru.
Cofnododd yr heddlu 7,759 trosedd ym Mlaenau Gwent yn 2023/24, cyfradd o 115 i bob 1,000 o bobl.
Mae 85% o boblogaeth Blaenau Gwent yn 50% uchaf ardaloedd ‘mwyaf difreintiedig’ ardaloedd cynnyrch ehangach is Cymru, gyda’r lefel uchaf o dlodi plant difrifol yng Nghymru yn 2011.
Bwrdeistref Sirol Caerffili
Poblogaeth: 176,000
Mae’n cynnwys y boblogaeth fwyaf yng Ngwent, ar draws nifer o drefi a phentrefi, ac mae ganddi dreftadaeth wledig a glofaol sylweddol. Caerffili yw’r dref fwyaf. Castell Caerffili yw’r mwyaf yng Nghymru a’r ail fwyaf ym Mhrydain ar ôl Windsor. Saif ar ben deheuol Cwm Rhymni, ar y ffin gyda Merthyr Tudful (Heddlu De Cymru) i’r gorllewin.
Cofnododd yr heddlu 15,242 trosedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn 2023/24, cyfradd o 86 i bob 1,000 o bobl.
63% of Caerphilly’s population are in Wales’ top 50% most deprived LSOAs. It has two LSOAs in the top-10 most deprived in Wales.
Sir Fynwy
Poblogaeth: 95,000
Yr arwynebedd tir mwyaf yng Ngwent, cymunedau gwledig gan mwyaf ac economi gwledig a thwristaidd Mae’r Mynydd Du yn y gogledd yn rhan o Fannau Brycheiniog, ac mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy yn y dwyrain. Mae 25 miliwn o gerbydau’n croesi pontydd Hafren bob blwyddyn
Cofnododd yr heddlu 5,927 trosedd yn Sir Fynwy yn 2023/24, cyfradd o 63 i bob 1,000 o bobl.
Sir Fynwy yw ardal awdurdod lleol lleiaf difreintiedig Cymru, gydag ond 19.6% o’i phoblogaeth yn 50% uchaf ardaloedd ‘mwyaf difreintiedig’ ardaloedd cynnyrch ehangach is Cymru.
Dinas Casnewydd
Poblogaeth: 164,000
Casnewydd yw trydedd ddinas fwyaf Cymru a’r awdurdod unedol sy’n tyfu ar y raddfa gyflymaf yng Nghymru. Mae ei phorthladd yn trafod rhyw £1 biliwn o fasnach a 1.8 miliwn tunnell o gargo bob blwyddyn Cafodd Cwpan Ryder 2010 ac Uwchgynhadledd NATO 2014 eu cynnal yng ngwesty Celtic Manor. Mae gan ganol y ddinas economi gyda’r nos ac economi’r nos ffyniannus.
Cofnododd yr heddlu 19,110 trosedd yng Nghasnewydd yn 2023/24, cyfradd o 117 i bob 1,000 o bobl.
Mae 24% o boblogaeth Casnewydd yn 10% uchaf ardaloedd ‘mwyaf difreintiedig’ ardaloedd cynnyrch ehangach is Cymru.
Bwrdeistref Sirol Torfaen
Poblogaeth: 93,000
Mae mwyafrif y boblogaeth o gwmpas Cwmbrân, lleoliad Pencadlys Heddlu Gwent. Mae’r ail ganolfan siopa dan do fwyaf yng Nghymru yng Nghwmbrân. Mae Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO oherwydd ei ddiwydiant glo a haearn yn y gorffennol, ac mae parc cyhoeddus 150 erw ym Mhont-y-pwl.
Cofnododd yr heddlu 9,170 trosedd yng Nghasnewydd yn 2023/24, cyfradd o 98 i bob 1,000 o bobl.
Mae 50% o boblogaeth Torfaen yn 50% uchaf ardaloedd ‘mwyaf difreintiedig’ ardaloedd cynnyrch ehangach is Cymru.
Plismona yng Ngwent - Trosolwg
Amddifadedd / Cartref
Blynyddoedd Cynnar (0-18):
- 25,505 plentyn mewn teuluoedd incwm isel
- 17,673 disgybl yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim
- 475 plentyn yn cael cymorth ar y gofrestr amddiffyn plant
- 1,050 mewn lleoliadau maethu
Blynyddoedd Gweithio (18-65):
- 45% cartref mewn tlodi tanwydd
- 15% yn byw mewn amddifadedd materol
- Trussell Trust wedi darparu 34,0676 o barseli bwyd, o gymharu â 21,935 chwe blynedd yn ôl
- 46 person yn cysgu allan bob mis
Blynyddoedd Hŷn (65+):
- Disgwyliad oes gwryw = 78.1 mlynedd
- Disgwyliad oes iach 60.1 mlynedd
- Disgwyliad oes benyw = 80.1 mlynedd
- Disgwyliad oes iach 58.9 mlynedd
Addysg / Cyflogaeth
Blynyddoedd Cynnar (0-18):
- 21.4% o blant rhwng ysgol feithrin ac ysgol uwchradd ag anghenion dysgu ychwanegol
- 7,062 gwaharddiad o hyd at bum diwrnod
- 204 gwaharddiad parhaol
Blynyddoedd Gweithio (18-65):
- Cyfradd diweithdra o 4.3%
- 24.7% o bobl 16-64 oed ddim yn cyfrannu’n weithredol at y farchnad lafur
- Un o bob wyth o bobl yng Nghasnewydd a Chaerffili ac un o bob chwech o bobl yn Sir Fynwy yn ennill cyflog fesul awr is na chostau byw (dim data ar gyfer Torfaen a Blaenau Gwent)
Camddefnyddio sylweddau / Iechyd Meddwl
Blynyddoedd Cynnar (0-18):
- 21.3% o blant 11-16 oed wedi profi fêps a 3.1% yn ysmygu
- Un o bob 12 ym mlynyddoedd 7-11 yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos ac un o bob 12 wedi profi canabis
- 16% o fechgyn a 13% o ferched ym mlynyddoedd 7-11 wedi defnyddio cyffuriau
Blynyddoedd Gweithio (18-65):
- 16.8% o oedolion yn yfed mwy na’r hyn sy’n ddiogel mewn wythnos
- 79 hunanladdiad, un rhan o dair ohonynt yng Nghaerffili
- 15.3% yn teimlo’n unig
- 56 marwolaeth oherwydd camddefnyddio cyffuriau
- 1,041 atgyfeiriad at Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent
Blynyddoedd Hŷn (65+):
- 4,375 o bobl wedi eu cofnodi i fod yn byw gyda dementia
Trosedd
Blynyddoedd Cynnar (0-18):
- 3,498 troseddwr 10-18 oed
- 3,565 dioddefwr
- Pedwar o bob 1,000 o blant wedi dioddef ecsbloetio troseddol a / neu ecsbloetio rhywiol
- Tybir bod pedwar o bob 100 yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol
Blynyddoedd Gweithio (18-65):
- 15,858 troseddwr
- 5,404 ad-droseddwr
- 25,033 dioddefwr
- 5,712 dioddefwr eildro
- 11,115 digwyddiad cam-drin domestig
Blynyddoedd Hŷn (65+):
- 856 troseddwr
- 158 ad-droseddwr
- 2,529 dioddefwr
- 369 yn ddioddefwyr eildro
- 310 dioddefwr cam-drin domestig
- 188 cyflawnydd trosedd ddomestig
Beth ddywedoch chi wrthyf?
Fe wnes i ymgysylltu’n helaeth â chymunedau Gwent i glywed eu barn ar beth ddylai’r blaenoriaethau fod yn fy Nghynllun.
Rwy’n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd drwy ddigwyddiadau ymgysylltu, arolygon a grwpiau ffocws amrywiol, gyda bron i 8,000 o bobl yn ymateb i mi yn 2024.
Dywedasoch wrthyf:
A yw Heddlu Gwent yn ymdrin â’r materion sydd bwysicaf i chi?
- Ydy 28%
- Nac ydw 41%
- Ansicr 31%
Ydych chi wedi dioddef trosedd yn ystod y 12 mis diwethaf?
- Ydy 19%
- Nac ydw 81%
Os ydych, a wnaethoch chi ei riportio i Heddlu Gwent?
- Do 75%
- Naddo 25%
Os gwnaethoch, oeddech chi’n fodlon â’r ymateb?
- Oeddwn 34%
- Nac oeddwn 66%
Nodwch lle y dylai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd flaenoriaethu cyllid a buddsoddiad yn nhrefn pwysigrwydd?
- Gweithgaredd atal troseddu
- Lleihau troseddu gan blant
- Diogelu / amddiffyn pobl sy’n agored i niwed
- Lleihau aildroseddu gan oedolion
- Helpu dioddefwyr
- Cydlyniant cymunedol
Pa agweddau ar blismona sydd bwysicaf i chi ac y dylai fod yn brif flaenoriaeth i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd?
- Heddlu gweladwy a hygyrch yn y gymuned
- Teimlo’n ddiogel gyda’r hwyr ac yn ystod y nos
- Sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu trin â pharch ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu hachosion
- Profiad cadarnhaol yn riportio troseddau ac yn rhyngweithio â Heddlu Gwent
- Bod gan Heddlu Gwent y dechnoleg, yr hyfforddiant a’r offer iawn i frwydro yn erbyn troseddu
Rydych chi eisiau i mi ganolbwyntio ar ... | Eich prif resymau pam... |
Troseddau stryd / cymdogaeth:
|
|
Troseddau cudd sy’n effeithio ar y rhai sy’n agored i niwed:
|
|
Troseddau difrifol a chyfundrefnol:
|
|
Gan ystyried popeth, pa mor dda ydych chi’n credu mae Heddlu Gwent yn ei wneud?
- Ardderchog 5%
- Da 32%
- Niwtral 33%
- Gwael 16%
- Gwael iawn 11%
- Ddim yn gwybod 3%
Beth ddywedodd partneriaid wrthyf?
Fe wnes i ymgysylltu â’r partneriaid cyfiawnder troseddol a diogelwch cymunedol allweddol y byddaf yn gweithio’n agos gyda nhw i helpu i ddatblygu’r Cynllun hwn.
Beth yw’r materion plismona a throseddu allweddol sy’n wynebu eich cymunedau a/ neu ddefnyddwyr gwasanaeth?
- Pobl ddim yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd
- Trais a thrais difrifol
- Cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn enwedig trais rhywiol gan ddynion ifanc yn erbyn menywod
- Radicaleiddio pobl sy’n agored i niwed
- Lladrad, yn enwedig troseddau manwerthu
- Camddefnyddio sylweddau a’r economi nos, er enghraifft delwyr cyffuriau ar e-sgwteri
- Llinellau cyffuriau a chamfanteisio’n droseddol ar blant a phobl sy’n agored i niwed
- Twyll, masnachwyr twyllodrus, tybaco anghyfreithlon, fêps a nwyddau ffug
- Trawma hirdymor dioddefwyr a phlant a chymorth i grwpiau sy’n agored i niwed
Beth yw anghenion eich cymunedau a/neu ddefnyddwyr gwasanaeth a allai achosi mwy o droseddu?
- Amddifadedd yn gwaethygu mewn rhannau o Went
- Lefelau camddefnyddio alcohol a sylweddau, mynediad at gyffuriau anghyfreithlon, sylweddau ffug ac amhur
- Poblogaeth sy’n heneiddio a’r ffactorau cysylltiedig sy’n peri iddynt fod yn agored i niwed
- Iechyd meddwl gwael mewn cymunedau, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc
- Diffyg dealltwriaeth o niwroamrywiaeth yn y boblogaeth
- Iechyd a lles cyffredinol yn y gymuned
- Llai o gydlyniant cymunedol
- Mynediad i’r GIG, gwasanaethau arbenigol i fenywod, gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol
- Diffygion ffisegol fel teledu cylch cyfyng, goleuadau stryd, a chamerâu drws gwael
Beth yw’r prif heriau rydych chi’n eu hwynebu sy’n effeithio ar droseddu a diogelwch cymunedol?
- Demograffeg y boblogaeth yn newid
- Cyllid cynaliadwy a chyfyngiadau ar y gyllideb
- Cynnydd o ran rheoli troseddwyr yn y gymuned
- Pwysau ar dai / llety sydd ar gael
- Adolygiad annibynnol o ddedfrydu
- Mynediad at dystiolaeth a gwybodaeth gydgysylltiedig, amlasiantaethol – rhannu data rhwng asiantaethau
- Teledu cylch cyfyng cyhoeddus yn wynebu pwysau ariannol
- Mwy o ofynion polisi a statudol ar bartneriaethau diogelwch cymunedol
- Llai o ffocws ar weithgarwch atal hirdymor
- Blaenoriaethau newydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
Pa flaenoriaethau hoffech chi eu gweld yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder?
- Ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais difrifol a thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- Diogelu pobl sy’n agored i niwed
- Cymorth ar gyfer economi’r nos a chyda’r hwyr
- Gwell cydweithio â phartneriaid, fel cysoni blaenoriaethau a rhannu data a gwybodaeth
- Ymgysylltu â thrigolion
- Lleihau anghydraddoldeb
- Cynllun sy’n canolbwyntio ar y canlynol: Pobl sy’n troseddu, ymyrraeth gynnar ac atal; Cymorth i ddioddefwyr; Iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
Beth yw’r blaenoriaethau plismona cenedlaethol?
Cenhadaeth Strydoedd Saffach Llywodraeth San Steffan yw “haneru troseddau treisgar difrifol a chodi hyder yn yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol i’w lefelau uchaf, o fewn degawd.”
Mae hyn yn golygu y byddwn yn:
- Haneru lefel trais yn erbyn menywod a merched.
- Haneru achosion o droseddau cyllyll.
- Codi hyder ym mhob heddlu i’w lefelau uchaf.
- Gwrthdroi’r cwymp yng nghyfran y troseddau sy’n cael eu datrys.
Nod cenhadaeth y Llywodraeth yw lleihau troseddau treisgar difrifol a chodi hyder mewn plismona ar yr un pryd. Maent yn disgwyl plismona mwy gweladwy, llysoedd cyflymach, a safonau uwch i gyflawni hyn, gan arwain at ddod â mwy o droseddwyr o flaen eu gwell.
Mae Gwarant Plismona Cymdogaeth newydd yn ymrwymo i sicrhau 13,000 o swyddogion yr heddlu, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chwnstabliaid arbennig ychwanegol ar gyfer plismona lleol, gweladwy ledled y DU. Maent hefyd yn ymrwymo i Raglen Dyfodol Ieuenctid newydd gyda hybiau newydd a phartneriaethau atal yn cael eu cyflwyno ledled y DU i ganolbwyntio ar leihau troseddau cyllyll. Yn olaf, bydd uned berfformio newydd yn y Swyddfa Gartref yn cael ei sefydlu i fonitro perfformiad yr heddlu. Bydd y diwygiadau yn golygu y bydd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd rôl uwch o ran atal troseddau.
Mae rhywfaint o hyn wedi’i amlinellu yn y Bil Plismona a Throsedd 2025 newydd, a fydd yn dechrau’r broses o wneud rhai o’r newidiadau cyfreithiol sydd eu hangen. Rwy’n edmygu natur uchelgeisiol y genhadaeth a’i nodau, ac rwyf wedi ystyried y rhain yn fy Nghynllun. Byddaf yn gweithio gyda gweinidogion a swyddogion i sicrhau bod Gwent yn derbyn ei chyfran deg o gyllid i weithredu’r newidiadau hyn.
Y Gofyniad Plismona Strategol
Mae’r Gofyniad Plismona Strategol yn nodi’r bygythiadau cenedlaethol y mae’n rhaid i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ymateb iddynt.
Fe ystyriais y Gofyniad hwn wrth ysgrifennu’r Cynllun hwn. Rwy’n gyfrifol am rywfaint o’r Gofyniad, ond y Prif Gwnstabl sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf ohono. Bydd y Prif Gwnstabl a minnau yn parhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Heddlu Gwent mewn sefyllfa dda i ymdrin â’r bygythiadau hyn. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda heddluoedd eraill, a phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol. Dyma’r bygythiadau cenedlaethol sydd wedi’u nodi yn y Gofyniad. Plismona Strategol ar hyn o bryd:
- Trais yn erbyn menywod a merched (VAWG)
- Terfysgaeth
- Troseddau difrifol a chyfundrefnol
- Digwyddiad seiber cenedlaethol
- Cam-drin plant yn rhywiol
- Anhrefn cyhoeddus
- Argyfyngau sifil
Cyflwyno fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder
Mae cyflawni fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder yn un o agweddau pwysicaf fy swydd.
Rwy’n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif, fel eich llais ar blismona a throseddu. Mae fy nghynllun yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer Heddlu Gwent, gwaith fy swyddfa a sut rydym yn gweithio gyda’n partneriaid. Mae fy swyddfa a minnau wedi ymgynghori’n helaeth er mwyn ystyried barn y cyhoedd, partneriaid a thu hwnt.
Ynghyd â fy maniffesto, mae’ch lleisiau chi wedi helpu i lunio’r Cynllun ac rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyfraniad. Yn gyntaf, rwyf wedi fy ysgogi i wella ymddiriedaeth a hyder yn Heddlu Gwent. Mae ymddiriedaeth a hyder yn hanfodol i gynnal traddodiad Prydain o blismona trwy gydsyniad. Mae ein system blismona wedi’i seilio ar yr egwyddor hon. Mae angen ymddiriedaeth a hyder arnoch chi i riportio troseddau, yn enwedig os ydych chi’n agored i niwed. Ac mae angen ymddiriedaeth a hyder arnoch y bydd yr heddlu’n darparu gwasanaeth da pan fydd eu hangen fwyaf arnoch chi. Dyna pam y byddaf yn parhau i wthio i sicrhau bod hyn yn gwella.
Trwy ein hymgysylltiad â’r cyhoedd, fe ddywedoch chi fod atal troseddu a phlismona lleol gweladwy yn hanfodol i roi sicrwydd i’r gymuned. Rwy’n cytuno’n llwyr, a dyna pam mae’r agweddau hyn yn rhan bwysig o’m Cynllun. Rwyf hefyd yn cydnabod bod llawer o swyddogion a staff yr heddlu yn eich cadw’n ddiogel y tu ôl i ddrysau caeedig. Byddaf yn gweithio gyda’r Prif Gwnstabl i gydbwyso’r angen am blismona gweladwy a sicrhau eich bod yn cael eich cadw’n ddiogel mewn ffyrdd eraill. Mae natur troseddu’n newid ac yn esblygu drwy’r amser, gan adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi. Mae rhai troseddau wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel troseddau manwerthu, trais difrifol, trais yn erbyn menywod a merched a chamdrin domestig. Mae natur newidiol cam-drin a chamfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed hefyd yn bryder cynyddol.
Bydd troseddwyr yn arloesi’n barhaus i gyflawni eu nodau, ac mae datblygiad technolegau newydd yn creu bygythiadau newydd a gwahanol y mae’n rhaid i blismona eu hwynebu. Mae hyn yn amlwg wrth edrych ar niwed ar-lein, twyll, a’r deallusrwydd artiffisial a’r ffugiadau dwfn sy’n dod i’r amlwg. Dyna pam y byddaf yn gweithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid i fuddsoddi mewn ffyrdd arloesol o ymdrin â’r bygythiadau hyn sy’n newid.
rin â’r bygythiadau hyn sy’n newid. Rwyf hefyd yn ymrwymedig i weithlu Heddlu Gwent, a sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw i wneud y gwaith gorau y gallan nhw. Mae rheoli lles a llesiant staff yn un o gyfrifoldebau’r Prif Gwnstabl, ond byddaf yn sicrhau bod gan Heddlu Gwent y cynlluniau perthnasol ar waith i wneud hyn.
Rhaid i mi hefyd sicrhau bod gan Heddlu Gwent adnoddau, strategaethau, offer, technoleg, hyfforddiant ac ystad effeithiol i reoli natur troseddu sy’n newid yn barhaus.
Gyda’i gilydd, mae’r gofynion hyn yn hanfodol i’ch helpu i’ch cadw’n ddiogel.
Gan ymadael â thraddodiad, fy ymrwymiad yw cyflwyno Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Fy ffocws ar system gyfiawnder gref yw sicrhau ein bod yn darparu cyfiawnder cyflym ac effeithiol i ddioddefwyr. A sicrhau bod troseddwyr yn cael y gosb i gyd-fynd â’u troseddau. Mae hefyd yn bwysig bod troseddwyr yn cael eu cefnogi i adsefydlu ac ailintegreiddio i’r gymuned fel na fyddant yn aildroseddu yn y dyfodol.
Mae angen system gyfiawnder arnom sy’n rhoi dioddefwyr wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud ac sydd wir yn mynd i’r afael ag aildroseddu. Felly, byddaf yn defnyddio fy mhwerau i weithio gyda’n partneriaid cyfiawnder i gryfhau a gwella’r system.
Mae fy mlaenoriaethau yn y cynllun hwn yn nodi ac yn gosod rhai nodau uchelgeisiol penodol. Fodd bynnag, mae agweddau eraill ar blismona a lleihau troseddu hefyd yn berthnasol ac yn bwysig. Bydd angen i mi, fy swyddfa a Heddlu Gwent roi gofal a sylw dyladwy i’r rhain. Rwyf eisiau eich sicrhau nad y blaenoriaethau yn y cynllun hwn fydd yr unig faterion y byddaf yn eu monitro. Byddaf hefyd yn adolygu ac yn asesu fy mlaenoriaethau bob blwyddyn i sicrhau mai nhw yw’r rhai cywir o hyd. Byddaf yn eu haddasu lle bo angen. Mae troseddu yn newid yn barhaus, ac mae angen i ni sicrhau bod gennym y cynlluniau iawn ar waith i ymdrin â’r newidiadau hyn. Mae’r tudalennau canlynol yn esbonio’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer Gwent, sut y byddant yn cael eu cyflawni, a sut y byddant yn cael eu mesur. Y ffactorau hyn yw’r rhai y byddaf yn eu defnyddio i ddwyn Heddlu Gwent i gyfrif a sut allwch chi, y cyhoedd, fy nwyn i i gyfrif.
Sylfeini’r cynllun
Gweithio mewn partneriaeth
Ni ellir cyflawni dim drwy weithio ar wahân. Dyna pam mae gweithio ar y cyd mewn ffordd gydweithredol mor hanfodol i gyflawni’r nodau yn y Cynllun hwn. Byddaf yn meithrin partneriaethau cynhyrchiol a mwy clyfar gyda phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder, y gwn eu bod yn rhannu’r un nodau â mi.
Moeseg a safonau
Dylai fod gan y proffesiwn plismona y safonau ymddygiad uchaf. Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl hyn a byddaf yn sicrhau bod hyn yn ffocws i Heddlu Gwent a fy swyddfa. Mae angen proffesiynoldeb er mwyn darparu gwasanaeth o safon, yn ogystal â meithrin ymddiriedaeth a hyder. Byddaf yn pwysleisio’n barhaus yr angen am safonau moesegol cryf i Heddlu Gwent a fy swyddfa.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae gan Gwent gymunedau amryfal ac amrywiol – rwy’n dathlu’r amrywiaeth honno. Mae gan bobl wahanol farn am Heddlu Gwent, yn aml oherwydd eu profiadau yn y gorffennol. Gall hyn hefyd fod oherwydd gwahaniaethau o ran oedran, rhywedd, ethnigrwydd, crefydd, neu o fod yn byw yn ein cymunedau amrywiol yn y wlad, yn y dref ac yn y cymoedd. Mae’n hanfodol fy mod yn gwrando ar yr amrywiaeth hon o leisiau ac yn gweithredu arnynt wrth gyflawni fy Nghynllun.
Wedi’i ysgogi gan ddata, wedi’i arwain gan dystiolaeth
Yn fy marn i, mae gwybodaeth, cuddwybodaeth a dealltwriaeth o ansawdd da yn ysgogi penderfyniadau o ansawdd da. Mae hyn yn berthnasol i fy swyddfa, Heddlu Gwent a’n gwaith gyda phartneriaid. Rwyf eisiau i ni weithio’n well gyda’n gilydd i rannu a deall ein data a gwella’r hyn a wnawn. Trwy wneud hyn, byddwn yn sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y gymuned.
Cynaliadwyedd
Mae’n bwysig i mi fod darparu gwasanaethau plismona yng Ngwent yn gynaliadwy ac yn sicrhau gwerth am arian. Mae hyn yn cynnwys y cyllid sydd ei angen ar Heddlu Gwent a fy nghyllid ar gyfer atal troseddau a gwasanaethau dioddefwyr. Rwyf hefyd eisiau sicrhau ein bod yn gallu recriwtio a chadw staff o safon y mae eu lles a’u llesiant yn flaenoriaeth, fel y gallant gyflawni ar gyfer y gymuned. Yn olaf, rwyf hefyd am leihau’r effaith y mae plismona yn ei chael ar yr amgylchedd ehangach y mae ein cymunedau’n byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddo.
Tryloywder ac atebolrwydd
Mae gan yr heddlu bwerau sylweddol, gan gynnwys y gallu i gymryd rhyddid rhywun i ffwrdd oddi wrtho. Felly, mae tryloywder ac atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder mewn plismona. Rwy’n cynyddu tryloywder wrth wneud penderfyniadau er mwyn helpu i feithrin yr ymddiriedaeth a’r hyder hwnnw. Mae hyn yn berthnasol i’r Prif Gwnstabl, ei swyddogion a’i staff, a minnau a fy swyddfa.
Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gwneud atal trosedd yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent a phartneriaid. Lleihau gallu rhywun i gyflawni trosedd a chreu mwy o ddioddefwyr, a’r tebygolrwydd y bydd yn gwneud hynny.
Rwy’n credu’n gryf bod atal trosedd yn well nag ymdrin â’r canlyniadau. Felly, rwyf am gynyddu’r ffocws ar weithgarwch atal trosedd i gyflawni’r nod hwn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod plismona lleol mwy gweladwy ar ein strydoedd i roi sicrwydd i gymunedau a gweithio gyda phartneriaid i geisio ymdrin â’r rhesymau pam y gallai rhywun droi at droseddu. Bydd ceisio dargyfeirio pobl oddi wrth drosedd ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn y lle cyntaf yn lleihau’r niwed y mae hyn yn ei achosi a nifer y dioddefwyr y mae hyn yn ei greu. Felly, byddaf yn gweithio mewn partneriaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i ganolbwyntio’n fwy ar hyn. Os byddwn yn cyfuno ein hymdrechion, ein hegni a’n hadnoddau, gallwn effeithio ar ysgogwyr troseddau fel camddefnyddio sylweddau ac anghenion iechyd meddwl.
Sut byddaf yn gwneud hyn?
- Sicrhau bod Heddlu Gwent yn blaenoriaethu presenoldeb gweladwy swyddogion a staff yr heddlu yn ein cymunedau.
- Sicrhau bod Heddlu Gwent yn cynyddu cyrhaeddiad eu gweithgarwch atal troseddu cyffredinol ac wedi’i dargedu, a’u dull cyfathrebu ac ymgysylltu.
- Sicrhau bod fy swyddfa yn parhau i ddatblygu dulliau amrywiol i ehangu gweithgarwch ymgysylltu â gwahanol gymunedau i’w helpu i ddeall sut i gadw’n ddiogel.
- Cyflwyno ymdrechion newydd i ddeall gwir raddfa troseddu sy’n digwydd ledled Gwent, fel y gallwn ddeall sut i’w atal.
- Gweithio gyda’n partneriaid diogelwch cymunedol i gysoni ein blaenoriaethau, canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal, a thargedu adnoddau at y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf.
- Ariannu a chefnogi prosiectau, rhaglenni ac ymyriadau lleol sy’n helpu i ddargyfeirio pobl oddi wrth droseddu a chadw ein strydoedd yn ddiogel. Yn benodol, canolbwyntio buddsoddiad ar ymdrin â lefelau camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anghenion eraill yr ydych wedi dweud wrthyf eu bod yn ysgogi troseddu.
- Canolbwyntio buddsoddiad ar gefnogi plant a phobl ifanc i beidio â chymryd rhan mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lle cyntaf a’u helpu i nodi pan mae troseddwyr yn ceisio manteisio arnynt i gyflawni troseddau ar eu rhan.
- Gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflwyno eu mentrau, fel mwy o swyddogion o’r Warant Plismona Cymdogaeth.
Fy mlaenoriaethau ar gyfer Gwent
Mwy o blismona gweladwy a hygyrch
Gweithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid i:
- Ymdrin ag achosion sylfaenol troseddu, yn enwedig camddefnyddio sylweddau
- Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
- Rhoi mwy o gyngor ac arweiniad ar atal trosedd
Gwneud ein cymunedau’n fwy diogel
Sicrhau bod Heddlu Gwent yn ymateb pan fydd eu hangen arnoch fwyaf ac yn gweithio mewn partneriaeth i ymdrin â’r troseddau a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol gweladwy ar y stryd sy’n difetha’n cymunedau ac yn gwneud i bobl deimlo’n anniogel.
Rwyf eisiau i chi deimlo’n ddiogel yn eich cymuned, p’un a ydych chi’n mynd allan i weithio neu hamddena, ac yn enwedig yn ystod y nos.
Ac os oes angen i chi ffonio Heddlu Gwent, rwyf eisiau i chi wybod y byddwch yn cael ymateb cyflym ac effeithiol. Felly, rwyf am i Heddlu Gwent ganolbwyntio ar wneud ein cymunedau’n fwy diogel a’ch cyrraedd chi pan fydd eu hangen arnoch fwyaf. Rwyf eisiau gweithio gyda Heddlu Gwent a’n partneriaid diogelwch cymunedol i ymdrin â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y stryd sy’n difetha ein cymunedau amrywiol ac yn difetha bywydau a bywoliaeth pobl ynddynt. Rwyf eisiau mynd i’r afael â ‘throseddau meddiangar’ fel dwyn, lladrata a byrgleriaeth, a’r lefel gynyddol o drais a throseddau cyllyll rydych chi wedi dweud wrthyf eich bod yn eu gweld, sy’n aml yn cael eu hysgogi gan droseddwyr difrifol a chyfundrefnol. Nid yw hyn yn berthnasol i’n trefi a’n dinasoedd yn unig. Rwyf wedi gweld drosof fi fy hun yr effeithiau dinistriol y gall y troseddau hyn eu cael yn ein cymunedau gwledig hefyd, felly rwyf eisiau sicrhau bod ffocws digonol ar hyn hefyd er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu teimlo’n ddiogel a bod yn ddiogel.
Sut byddaf yn gwneud hyn?
- Sicrhau bod Heddlu Gwent yn ymateb yn effeithiol i adroddiadau o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn ymchwilio iddynt, yn enwedig ateb galwadau brys mewn modd amserol a’ch cyrraedd chi cyn gynted â phosibl.
- Sicrhau bod Heddlu Gwent yn blaenoriaethu ymdrin â throseddau ‘meddiangar’ a throseddau manwerthu sy’n effeithio ar ein cartrefi, ein busnesau a’n cymunedau ac yn ymdrin â thrais difrifol, troseddau cyllyll ac yn amharu ar y troseddau cyfundrefnol difrifol sy’n ysgogi llawer o’r troseddau hyn.
- Dod â phartneriaid ynghyd a’u dwyn i gyfrif am eu cynlluniau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol, a sicrhau eu bod yn rhoi mesurau effeithiol ar waith i atal a lleihau trais difrifol.
- Canolbwyntio ar leihau trais difrifol ymhlith pobl ifanc a chefnogi gwasanaethau troseddwyr ifanc i helpu i drawsnewid bywydau pobl ifanc.
- Gweithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol i ddefnyddio ein pwerau a’n dylanwad ar y cyd i ymdrin â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cyflwyno grŵp cymunedau mwy diogel strategol newydd i ddarparu mwy o arweinyddiaeth systemau gydgysylltiedig ledled Gwent.
- Buddsoddi mewn prosiectau, rhaglenni ac ymyriadau sy’n helpu i ymdrin â throseddau yn y gymdogaeth, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn targedu ardaloedd lle mae lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Fy mlaenoriaethau ar gyfer Gwent
- Lleihau trais difrifol a throseddau cyllyll
- Ymdrin â byrgleriaeth, lladrata a dwyn
- Ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Ymdrin â throseddau manwerthu ac G ymosodiadau ar staff
Amddiffyn pobl agored i niwed
Gweithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid i sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed a dioddefwyr yn cael eu nodi, eu diogelu a’u cefnogi, a lleihau’r niwed a achosir gan droseddau cudd.
Mae rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn wynebu’r bygythiadau mwyaf i’w diogelwch gan bobl a fyddai’n ceisio manteisio arnynt.
P’un a yw’n ymwneud â’r epidemig o drais yn erbyn menywod a merched, camfanteisio ar blant neu’r henoed, neu’r niwed cynyddol sy’n cael ei achosi ar-lein fel twyll a stelcio.
Felly, rwyf eisiau gweithio gyda Heddlu Gwent a’n partneriaid i wneud mwy i ddatgelu a lleihau’r troseddau, y dioddefwyr a’r bregusrwydd cudd yn ein cymunedau. Rwyf eisiau cynyddu’r ffocws ar ymdrin â chamfanteisio troseddol a rhywiol ar bobl sy’n agored i niwed, yn enwedig plant.
Ac rwyf eisiau gweithio gyda gwahanol gymunedau i gynyddu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona er mwyn cau’r bwlch rhwng nifer y troseddau gwirioneddol rydym yn amau eu bod yn cael eu cyflawni a’r nifer sy’n cael eu riportio i’r heddlu.
Yn y pen draw, rwyf eisiau i ni weithio gyda’n gilydd i leihau’r trawma y mae ein pobl fwyaf agored i niwed yn ei wynebu.
Sut byddaf yn gwneud hyn?
- Sicrhau bod Heddlu Gwent yn canolbwyntio ar y troseddau hynny sy’n effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed ac sy’n achosi’r niwed mwyaf.
- Ariannu a chefnogi prosiectau, rhaglenni ac ymyriadau lleol sy’n cefnogi pobl agored i niwed sy’n dod i sylw’r heddlu
- Gweithio gyda Heddlu Gwent, ein cymunedau a’n partneriaid i wneud mwy i ddeall gwir raddfa camfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed yng Ngwent, yn enwedig camfanteisio troseddol a rhywiol ar blant
- Dod â phartneriaid diogelwch cymunedol ynghyd i ganolbwyntio o’r newydd ar wella’r ymateb i drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn benodol, buddsoddi mewn datblygu ein hymateb ar y cyd i stelcian ac aflonyddu
- Gweithio gyda phartneriaid diogelu i sicrhau bod gennym y bobl, y systemau a’r prosesau ar waith i ddiogelu ac amddiffyn y plant a’r oedolion hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf o niwed
- Datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd, gyda’r nod o gynyddu hyder cymunedau ymylol i riportio troseddau a gwella ymateb yr heddlu i droseddau casineb
- Gwneud mwy i addysgu a hysbysu plant, y gymuned ehangach a busnesau am y bygythiadau a wynebir ar-lein a sut allan nhw ddiogelu eu hunain
Fy mlaenoriaethau ar gyfer Gwent
- Ymdrin â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)
- Ymdrin â throseddau casineb
- Diogelu plant a phobl ifanc
- Amddiffyn pobl rhag twyll a niwed ar-lein
Rhoi Blaenoriaeth i Ddioddefwyr
Sicrhau bod Heddlu Gwent a’r system cyfiawnder troseddol yn ymdrechu i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dioddefwyr – gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt a darparu cymorth effeithiol i’w helpu i gadw’n ddiogel, ymdopi ac adfer.
Gall bod yn ddioddefwr trosedd fod yn brofiad trawmatig a all newid bywyd. Gall effeithio ar rywun yn gorfforol ac yn emosiynol a gall gael canlyniadau parhaol i’r unigolyn, ei deulu a’r gymuned ehangach. Gan fod pobl yn ymateb yn wahanol i fod yn ddioddefwr, mae angen i ni fod yno i’w helpu i symud ymlaen â’u bywydau. Felly, rwyf eisiau i Heddlu Gwent fod â diwylliant ac arferion sy’n ymrwymedig i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, gan roi eu hanghenion nhw yn gyntaf. Rwyf eisiau i ddioddefwyr adrodd eu bod wedi cael gwasanaeth rhagorol gan swyddogion a staff Heddlu Gwent, wedi’i gefnogi gan gyllid gan fy swyddfa.
Ni ellir cyflawni dim o hyn heb system gyfiawnder effeithiol, a dyna pam y byddaf yn cydweithio â phartneriaid i ymdrechu i gael system gyfiawnder sy’n gweithio i ddioddefwyr, tystion a’r cyhoedd ehangach. Gyda’n gilydd, gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddioddefwyr, eu cefnogi gyda’u hanghenion, a sicrhau cyfiawnder teg ac effeithiol iddyn nhw.
Sut byddaf yn gwneud hyn?
- Dwyn Heddlu Gwent i gyfrif am ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr ac sy’n sicrhau gwell canlyniadau i ddioddefwyr.
- Sicrhau bod lleisiau dioddefwyr yn cael eu clywed yn fwy effeithiol drwy gydol yr hyfforddiant, y polisïau a’r strategaethau a fydd yn gwneud gwelliannau i Heddlu Gwent.
- Defnyddio fy rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y system gyfiawnder y gorau y gall fod i ddioddefwyr a thystion, a sicrhau bod partneriaid cyfiawnder troseddol yn dwyn ei gilydd i gyfrif am gyflawni ein hymrwymiadau cyffredin i wella’r system gyfiawnder.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â hawliau dioddefwyr fel y’u nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau a defnyddio pwerau newydd sydd ar gael i mi i fonitro’r heddlu a threfniadau partneriaeth.
- Ariannu gwasanaethau cymorth effeithiol i ddioddefwyr, i’w helpu i ymdopi ac adfer ac i’w hatal rhag dod yn ddioddefwyr eto.
- Gwrando ar farn dioddefwyr i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd ac arloesol i’w cefnogi, yn seiliedig ar eu hadborth.
Fy mlaenoriaethau ar gyfer Gwent
- Cydweithio â phartneriaid cyfiawnder troseddol i wella’r system cyfiawnder troseddol
- Amddiffyn dioddefwyr rhag niwed pellach
- Gwella mynediad dioddefwyr at wybodaeth a diweddariadau am eu hachos
- Sicrhau bod dioddefwyr yn gallu manteisio ar gymorth a chefnogaeth
Lleihau Aildroseddu
Sicrhau bod Heddlu Gwent yn datrys mwy o droseddau, yn dal mwy o droseddwyr, ac ar y cyd â’n partneriaid cyfiawnder, yn defnyddio datrysiadau effeithiol i leihau troseddu pellach.
Er mwyn sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr a’r gymuned, mae angen i ni ddatrys mwy o droseddau. Rwyf eisiau i Heddlu Gwent wneud popeth posibl wrth geisio dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Ac rwyf eisiau i’n cymunedau fod yn ddiogel ac wedi’u diogelu rhag y troseddwyr mwyaf treisgar a pheryglus, y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn y gymuned gyda ni. Ond mae angen i ni hefyd droi troseddwyr i ffwrdd oddi wrth fywyd o drosedd ac at chwarae rhan bositif mewn cymdeithas – yn enwedig plant a phobl ifanc. Yn rhy aml o lawer, mae dewis troseddwyr i gyflawni trosedd yn deillio o’u hamgylchiadau personol neu gymdeithasol sy’n eu harwain at y dewis hwnnw, p’un ai dylanwad teulu a ffrindiau, diffyg cyflogaeth, anghenion dysgu ychwanegol, iechyd meddwl gwael neu, yn arbennig, camddefnyddio sylweddau. Felly, rwyf eisiau gweithio gyda Heddlu Gwent a’n partneriaid cyfiawnder ehangach i fuddsoddi mewn darganfod y ffyrdd mwyaf effeithiol o atal aildroseddu. Rwyf eisiau torri’r cylch.
Sut byddaf yn gwneud hyn?
- Sicrhau bod Heddlu Gwent yn cynnal ymchwiliadau o safon ac yn datrys mwyfwy o’r troseddau sy’n cael eu riportio iddynt, gan nodi troseddwyr a dod â nhw o flaen eu gwell.
- Sicrhau bod gan Heddlu Gwent strategaethau a chynlluniau effeithiol ar gyfer rheoli troseddwyr treisgar, peryglus a rheibus yn y gymuned.
- Datblygu dull plismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn sy’n nodi plant sydd wedi troseddu fel ‘plant yn gyntaf, troseddwyr yn ail’ fel y gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt i droi eu cefn ar droseddu.
- Buddsoddi mewn gwasanaethau dargyfeirio cyn y llys a all helpu i addysgu, adsefydlu ac ailintegreiddio troseddwyr i leihau troseddu, ar gyfer troseddwyr sy’n blant ac oedolion.
- Defnyddio fy rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol i sicrhau bod y system gyfiawnder yn canolbwyntio ar leihau aildroseddu a sicrhau bod partneriaid yn dwyn ei gilydd i gyfrif am gyflawni ein hymrwymiadau cyffredin i wella canlyniadau cyfiawnder troseddol.
- Gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol a diogelwch cymunedol ehangach i ganolbwyntio ar ymdrin â chamddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, ac anghenion eraill troseddwyr yn y gymuned.
Fy mlaenoriaethau ar gyfer Gwent
- Cydweithio â phartneriaid cyfiawnder troseddol i wella’r system cyfiawnder troseddol
- Dal troseddwyr a datrys mwy o droseddau
- Dargyfeirio troseddwyr ifanc oddi wrth fywyd o drosedd
- Adsefydlu ac ailintegreiddio troseddwyr
Monitro a chamau gweithredu eraill
Er mwyn deall cynnydd o ran fy mlaenoriaethau, byddaf yn monitro amryw o fesurau a dangosyddion perfformiad, a gwybodaeth gan wahanol ffynonellau.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd am effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau plismona i bobl Gwent. Byddaf yn defnyddio’r wybodaeth yma i lywio a blaenoriaethu fy ngwaith a gwaith fy swyddfa hefyd. Felly, dyma amlinelliad o’r dulliau y byddaf yn eu defnyddio i fonitro perfformiad cyffredinol.
Mesurau a dangosyddion perfformiad allweddol Heddlu Gwent
Mae gan bob blaenoriaeth yn y Cynllun amryw o fesurau a dangosyddion perfformiad penodol sy’n fy helpu i fonitro cynnydd. Bydd y mesurau allweddol hyn yn cynnwys pethau fel nifer y troseddau a riportiwyd wrth Heddlu Gwent, faint sydd wedi cael eu hymchwilio, troseddwyr a arestiwyd, a nifer y dioddefwyr sy’n fodlon ar yr ymateb. Byddaf yn derbyn adroddiadau rheolaidd gan Heddlu Gwent a ffynonellau eraill (fel y Swyddfa Gartref neu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol) i fy ngalluogi i ddilyn cynnydd mewn perthynas â’r blaenoriaethau. Yn bwysig, byddaf yn gwirio i weld a yw’r data’n adlewyrchu realiti trwy fy ngwaith ymgysylltu â thrigolion ledled Gwent.
Canlyniadau cyllido a buddsoddiadau’r Comisiynydd
Mae gofyn i bob sefydliad sy’n derbyn cyllid gen i baratoi adroddiad ynghylch a ydynt yn cyflawni eu canlyniadau arfaethedig a gwerth am arian o ran blaenoriaethau’r Cynllun. Gall hyn gynnwys pethau fel faint o ddioddefwyr sydd wedi cael cymorth ar ôl trosedd, faint o ddioddefwyr sydd wedi cael help i roi’r gorau i gyffuriau, neu faint o blant sydd wedi cael eu dargyfeirio oddi wrth drosedd. Bydd fy swyddfa yn monitro hyn yn fanwl ar fy rhan ac yn adrodd ar gynnydd trwy gyfrwng fy nhrefniadau llywodraethu mewnol. Byddaf yn gwirio’n rheolaidd i weld a yw’r gweithgareddau rwy’n eu hariannu’n gwneud gwahaniaeth i’r bobl a’r cymunedau a ddylai fod yn elwa mwyaf hefyd.
Blaenoriaethau a chanlyniadau a rennir gan bartneriaethau a chydweithrediadau
Rwyf i a fy swyddfa’n ymwneud ag amrywiaeth o bartneriaethau a chydweithrediadau heddlu ledled Gwent, Cymru a thu hwnt, gyda blaenoriaethau ar y cyd sy’n fy helpu i gyflawni blaenoriaethau’r Cynllun hwn. Rwyf yn cyfrannu arian neu adnoddau eraill gan fy nhîm i helpu i ddatblygu a darparu canlyniadau ar y cyd ac ymgyrchoedd newydd sy’n effeithio ar drosedd. Gan hynny, mewn cydweithrediad â phartneriaid, byddaf yn monitro pa mor effeithiol yw’r gwaith hwn, canlyniadau fy nghyfraniad tuag atynt, ac a ydynt yn cyflawni gwerth am arian i bobl yng Ngwent, yn arbennig os yw’r bartneriaeth y tu hwnt i’n ffiniau. Byddaf yn gweithio gyda phartneriaid bob amser i wneud gwelliannau ble y bo angen.
Gweithredu trawsbynciol a monitro
Yn ogystal â monitro cynnydd o ran y blaenoriaethau rwyf wedi ymroi hefyd i drefniadau monitro ychwanegol a chamau gweithredu trawsbynciol. Mae’r rhain yn berthnasol i bob un o’r blaenoriaethau ac yn helpu i adeiladu ar Sylfeini’r Cynllun.
Ymddiriedaeth a hyder
Byddaf yn monitro ymddiriedaeth a hyder yn Heddlu Gwent trwy’r amser. Fel y soniais ar y dechrau, mae ymddiriedaeth a hyder yn adlewyrchu’r berthynas sylfaenol rhwng Heddlu Gwent a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Heb ymddiriedaeth a hyder y gymuned, ni allwn gyflawni’r amcanion yn y Cynllun hwn. Felly, byddaf yn ymdrechu i gynyddu ymddiriedaeth a hyder.
Cynaliadwyedd
Mae angen i ni fyw o fewn ein modd a sicrhau bod Heddlu Gwent yn darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol. Ond nid ar draul y bobl a’r amgylchedd o’n cwmpas. Nid wyf eisiau i’r hyn rydym yn ei wneud heddiw gael effaith negyddol ar lesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Felly, byddaf yn monitro:
- Cynaliadwyedd ariannol – darparu gwerth am arian a gweithredu o fewn ein modd
- Cynaliadwyedd amgylcheddol a lleihau ein hôl troed carbon cyfunol
- Cynaliadwyedd y gweithlu – eu hiechyd, eu diogelwch a’u lles
Trwy fonitro’r rhain, byddaf yn sicrhau bod gan y Prif Gwnstabl a minnau adnoddau, strategaethau, offer, technoleg a hyfforddiant effeithiol ar waith i gyflawni blaenoriaethau’r Cynllun hwn. Rwyf hefyd yn gyfrifol am holl asedau’r heddlu o ran tir ac eiddo a’r cerbydau, yr offer, y dodrefn a’r eitemau eraill ynddynt. Rhaid i mi sicrhau eu bod yn cyfrannu’n effeithiol at ddarparu gwasanaeth plismona o safon ar gyfer ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen strategaeth ystadau effeithiol arnaf i sicrhau bod yr adeiladau a’r cyfleusterau yn addas i’r diben. Mae’n rhaid i’r ystad hefyd gefnogi cyflawni gweithredol ar gyfer y Prif Gwnstabl a galluogi’r gweithlu i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol.
Felly, byddaf yn cyflwyno Strategaeth Ystad newydd ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun hwn. Bydd y strategaeth yn darparu asesiad o’r ystad bresennol yn erbyn y gofynion gweithredol, corfforaethol a chyhoeddus cystadleuol amryfal. Bydd yn amlinellu fy ngweledigaeth ar gyfer yr ystad ac yn gosod yr amcanion a’r cyfeiriad ar gyfer ei dyfodol, y byddaf yn eu monitro.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ni fyddaf byth yn crwydro oddi wrth fy ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac i wella bywydau rhai o’n cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio a’u hesgeuluso fwyaf. Dyma pam ei fod yn Sylfaen ar gyfer fy Nghynllun ac mae gennyf flaenoriaethau penodol i wella materion fel troseddau casineb. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i mi roi sylw i’r materion canlynol ym mhopeth rwyf yn ei wneud:
- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei wahardd.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.
I wneud hyn, byddaf yn cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun hwn. Byddaf yn ymrwymo i fuddsoddi’r adnoddau a defnyddio’r pwerau sydd ar gael i mi i wneud gwelliannau i ywydau ein cymunedau amrywiol, a byddaf yn gweithio’n galetach i gynyddu lleisiau’r cymunedau yn yr hyn rwyf yn ei wneud. Byddaf yn monitro effeithiolrwydd y cynllun hwn drwy fy mhrosesau llywodraethu mewnol a byddaf yn cyhoeddi adroddiad blynyddol bob blwyddyn a fydd yn dangos canlyniadau ac effeithiolrwydd y cynllun a’r newidiadau rwy’n bwriadu eu gwneud.
Er nad yw’n rhan ffurfiol o’r Ddeddf Cydraddoldeb, byddaf hefyd yn chwarae fy rhan i hyrwyddo ymhellach ymrwymiad Heddlu Gwent a fy swyddfa i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Dyna pam y byddaf hefyd yn cyflwyno Strategaeth Iaith Gymraeg newydd ac yn monitro gweithredu dogfen gyfatebol Heddlu Gwent.
Tryloywder, atebolrwydd, moeseg a safonau
Un o fy rolau allweddol yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu gwasanaeth o safon a rhoi sylw i’r Cynllun hwn. Mae angen i chi wybod bod Heddlu Gwent yn defnyddio adnoddau’n effeithlon ac yn effeithiol. Mae angen i chi wybod hefyd fod swyddogion a staff yn defnyddio eu pwerau yn gymesur, yn foesegol ac i’r safonau rydym yn eu disgwyl. Mae hyn yn hanfodol er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder.
Dyna pam rwy’n ymrwymedig i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd trwy raglen craffu a sicrwydd newydd. Mae’r rhaglen yn cynnwys diwygiadau i’r ffordd rwy’n monitro perfformiad Heddlu Gwent a chyflawni yn erbyn y Cynllun hwn. Mae hefyd yn cynnwys trefniadau archwilio ac arolygu annibynnol, allanol, ac wrth gwrs, craffu arnaf i a fy swyddfa. Felly, mae’n bwysig fy mod yn egluro rolau a chyfrifoldebau a sut olwg fydd ar fy rhaglen graffu yn ystod fy nghyfnod yn y swydd.
Rolau a chyfrifoldebau plismona
Y Cyhoedd
- Maent yn pleidleisio i’r Llywodraeth ac yn talu trethi
- Mae rhan o’u trethi’n mynd i’r Swyddfa Gartref i dalu am blismona yng Nghymru a Lloegr, ymysg pethau eraill
- Maent yn ethol comisiynwyr yr heddlu a throsedd ac yn eu dwyn i gyfrif am y gwasanaeth plismona maent yn eu derbyn
- Mae’r Comisiynydd yn codi’r praesept plismona i helpu i dalu am wasanaethau plismona lleol
Y Llywodraeth
- Pennu blaenoriaethau plismona cenedlaethol sy’n cael eu hadnabod fel y Gofyniad Plismona Strategol (e.e. gwrthderfysgaeth, cymorth ar y cyd)
- Pasio cyfreithiau sy’n llywodraethu plismona
- Dyrannu cyllid i gomisiynwyr yng Nghymru a Lloegr
Yr Heddlu
- Arweinir gan y Prif Gwnstabl
- Amddiffyn y cyhoedd
- Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gorfodi’r gyfraith
- Ymchwilio i drosedd
- Helpu dioddefwyr trosedd
- Gweithredu yn unol â gwerthoedd ac ymddygiad yr heddlu
Prif Gwnstabl
- Atebol i’r Comisiynydd am berfformiad yr Heddlu
- Cynghori’r Comisiynydd ar strategaeth a chyllideb i fodloni bygythiadau, risgiau a niwed cyfredol
- Arwain swyddogion a staff Heddlu Gwent
- Cyfrifol am ddarparu plismona gweithredol a chynnal “Heddwch y Brenin”
- Annibyniaeth weithredol a disgresiwn llwyr o ran pwy neu beth y dylid ei ymchwilio
- Esbonio gwaith gweithredol swyddogion a staff wrth y cyhoedd
- Cyfrifol am gynnal gwerthoedd ac ymddygiad yr heddlu
- Cadw’n wleidyddol annibynnol
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
- Cyswllt rhwng yr heddlu a chymunedau
- Mae’n cael ei ethol gan y cyhoedd ac yn atebol iddynt am berfformiad yr Heddlu
- Troi galwadau cyfreithiol y cyhoedd yn weithredoedd
- Pennu’r strategaeth ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol (Cynllun yr Heddlu a Throsedd)
- Cynnal heddlu effeithlon ac effeithiol
- Pennu’r gyllideb a’r praesept
- Perchen ar holl asedau’r heddlu (e.e. adeiladau, cerbydau)
- Cyflogi ac (os oes angen) diswyddo prif gwnstabl
- Dwyn y prif gwnstabl i gyfrif am berfformiad y gwasanaeth heddlu
- Comisiynu amrywiaeth o wasanaethau i gyflawni cynlluniau heddlu a throsedd
Panel yr Heddlu a Throsedd
- Cefnogi a chraffu ar waith y Comisiynydd
- Adolygu penodiadau arfaethedig uwch swyddogion
- Adolygu praesept arfaethedig y Comisiynydd
Dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif
Y Bwrdd Sicrwydd ac Atebolrwydd fydd y prif fforwm lle rwyf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.
Bydd y Bwrdd yma’n canolbwyntio ar graffu ar y gwaith o gyflawni’r Cynllun a pherfformiad ehangach Heddlu Gwent. Bydd gwaith y Bwrdd yn cael ei gofnodi a’i gyhoeddi ar-lein er mwyn i chi allu ei weld.
Bob blwyddyn, byddaf hefyd yn cynnal sesiynau craffu cyhoeddus gyda’r Prif Gwnstabl ym mhob un o’r pum ardal awdurdod lleol. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar y problemau lleol sy’n effeithio ar y gwahanol gymunedau ledled Gwent. Byddaf hefyd yn cynnal cyfarfodydd 1-1 wythnosol gyda’r Prif Gwnstabl. Bydd fy nhîm yn fy nghefnogi trwy gynnal amrywiaeth o weithgareddau craffu ar fy rhan hefyd i roi tawelwch meddwl i mi ynghylch perfformiad Heddlu Gwent. Byddaf yn cael adroddiad am bob canfyddiad, cam gweithredu a gweithgarwch dilynol, a bydd unrhyw adroddiadau swyddogol yn cael eu cyhoeddi ar fy ngwefan.
Bydd fy Mhrif Weithredwr yn cynnal cyfarfod craffu bob tri mis gydag Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent. Bydd hwn yn adolygu perfformiad o ran cwynion, ymddygiad, fetio a materion eraill yn ymwneud â safonau.
- Bydd fy swyddfa’n hwyluso, cydgysylltu a/neu’n cadeirio amryw o baneli craffu. Bydd y rhain yn esblygu yn ystod oes y Cynllun. Er enghraifft, mae’r Panel Craffu ar Gyfreithlondeb yn canolbwyntio ar anghyfartaledd o ran defnydd Heddlu Gwent o stopio a chwilio a defnyddio grym. Fy swyddfa sy’n cydgysylltu a hwyluso’r panel yma. Mae’r Panel Craffu ar Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys yn adolygu penderfyniadau i gyhoeddi datrysiad y tu allan i’r llys yn hytrach na chyhuddo troseddwr a’i anfon gerbron llys. Fy swyddfa sy’n cadeirio’r cyfarfod yma.
- Bydd fy nhîm yn cynnal adolygiadau ‘ymchwiliad dwfn’ mwy manwl i gasglu tystiolaeth. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar feysydd pryder yn dilyn fy nghraffu ehangach, a/neu’n cael eu cymell gan broblemau newydd sy’n dod i’r amlwg yn lleol neu’n genedlaethol. Efallai y byddaf yn ariannu arbenigwyr i wneud y gwaith yma hefyd, os oes angen arbenigedd pellach arnaf.
- Os bydd yn fater o bryder sylweddol, mae gen i’r gallu hefyd i ofyn i Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (yr Arolygiaeth) gynnal arolygiad dirybudd ar Heddlu Gwent. Ni fyddwn yn gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach, ond mae’r opsiwn ar gael i mi.
O ran arolygiadau, nawr ac yn y man mae’r Arolygiaeth yn cynnal arolygiadau ar Effeithlonrwydd, Effeithiolrwydd a Chyfreithlondeb (Arolygiadau PEEL) o Heddlu Gwent. Mae pob arolygiad PEEL yn cynhyrchu adroddiad ar gyflwr presennol Heddlu Gwent, gan gynnwys yr hyn sy’n gweithio’n dda a meysydd y mae angen eu gwella. Mae’r arolygiad PEEL nesaf ar Heddlu Gwent i fod i ddigwydd yn 2025. Byddaf yn defnyddio canfyddiadau’r arolygiad yma i lywio fy rhaglen graffu. Mae’r Arolygiaeth yn cynnal arolygiadau thematig rheolaidd ar blismona a phartneriaethau ehangach hefyd. Eto, mae’r rhain yn cynhyrchu argymhellion ynghylch sut y dylai heddluoedd weithredu. O dan Ddeddf yr Heddlu 1996 mae cyfrifoldeb arnaf i adolygu’r arolygiadau hyn a sut maent yn berthnasol i Heddlu Gwent.
Wedyn rwyf yn nodi fy safbwyntiau i mewn datganiad i’r Arolygiaeth a’r Ysgrifennydd Cartref. Byddaf yn cyhoeddi’r rhain ar fy ngwefan. Yn rhan o fy ymrwymiad i fod yn fwy tryloyw, byddaf yn creu adroddiad yn rheolaidd ar unrhyw with craffu rwyf wedi ei wneud. Byddaf yn sicrhau bod cymaint â phosibl o’r gwaith yma ar gael ar-lein, er mwyn i chi weld beth rwyf i a’r tîm yn ei wneud. Yn olaf, byddaf yn chwilio am fwy o gyfleoedd i chi gyfrannu at fy ngwaith craffu, er enghraifft trwy ddefnyddio cwestiynau rydych chi’n eu hanfon ataf.
Siarter Plant a Phobl Ifanc
Mae fy Nghynllun wedi’i ddylunio i fod yn berthnasol i oedolion a phlant a phobl ifanc fel ei gilydd.
Fodd bynnag, mae lleisiau plant yn aml yn cael eu clywed llai ac yn cael eu hanwybyddu. Felly, rwy’n add
datblygu Siarter Plant a Phobl Ifanc gynhwysfawr ar gyfer Plismona yng Ngwent ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun hwn.
Bydd y Siarter yn cael ei chynhyrchu ar y cyd a’i datblygu gyda phlant o bob rhan o Went.
Bydd yn penderfynu sut rwyf i a fy swyddfa yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac yn archwilio eu profiadau a’u disgwyliadau o Heddlu Gwent. Bydd yn cynnwys, ond ni fydd yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Sut dylai ymarfer plismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn edrych yng Ngwent
- Sut dylai Heddlu Gwent drin plant a phobl ifanc wrth ymwneud â nhw
- Datblygu dull ‘plentyn yn gyntaf a throseddwr yn ail’
- Mynd i’r afael â mythau o amgylch plant, troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Ymgysylltu a rhyngweithio â mi, fy swyddfa a Heddlu Gwent
- Fy helpu i ddylunio ac ariannu gwasanaethau hanfodol i blant a phobl ifanc
- Archwilio gydag asiantaethau eraill pa ddewisiadau sydd ar gael o ran gwasanaethau ieuenctid
Partneriaethau i helpu i gyflawni’r Cynllun
Nid yw mynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uchelgais i’r maes plismona yn unig. Mae ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, a’r trydydd sector yn rhannu’r un uchelgais. Dyna pam mae meithrin a chynnal partneriaethau effeithiol yn hanfodol er mwyn gwella’r systemau ehangach sy’n gallu cael effaith. Yn rhinwedd fy swydd rwyf i mewn sefyllfa unigryw i allu dwyn y partneriaid yma at ei gilydd i wella canlyniadau i bobl Gwent. Byddaf yn gweithio gyda’r prif bartneriaethau canlynol i helpu i gyflawni’r goliau yn y Cynllun hwn.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent
Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent o’r pum bwrdd gwasanaethau cyhoeddus lleol blaenorol. Mae’n dwyn arweinwyr ar lefel gweithredol o asiantaethau craidd y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Ngwent at ei gilydd. Ei brif swyddogaeth yw datblygu Cynllun Lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r cynllun cyfredol yn cynnwys pedwar ‘Maes Ffocws’ allweddol:
- Mae pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd
- Mae pawb yn byw yn rhywle lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel
- Mae gan bawb yr un cyfleoedd economaidd
- Mae pawb yn byw mewn cymuned sy’n barod ar gyfer newid hinsawdd lle mae eu hamgylchedd yn cael ei werthfawrogi a’i warchod.
Fel gwasanaeth neilltuedig i Lywodraeth San Steffan, nid oes gofyniad cyfreithiol arnaf i fod yn aelod ond rwyf yn derbyn gwahoddiad swyddogol. Nid yw hyn yn rhwystro cydweithio gyda phartneriaid ar faterion allweddol yn ymwneud â diogelwch cymunedol a’r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Mewn partneriaeth â’r Prif Gwnstabl, rydym ni’n arwain yr ail flaenoriaeth gyda’n gilydd yn awr: ‘mae pawb yn byw yn rhywle lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel’. Bydd cyflawni hyn yn cynnwys sefydlu bwrdd partneriaeth newydd ledled Gwent y byddaf i’n ei gadeirio. Bydd y bwrdd yma’n rhoi arweinyddiaeth system gyfan ar gyfer adeiladu cymunedau mwy diogel yng Ngwent. Byddaf yn ceisio datrys y problemau hynny na all y partneriaethau a restrir isod eu datrys ar eu pennau eu hunain.
Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru
Mae pum partneriaeth diogelwch cymunedol yng Ngwent. Mae pob un yn gweithio o fewn ffiniau awdurdod lleol. Mae partneriaethau diogelwch cymunedol yn dwyn asiantaethau at ei gilydd i weithio i leihau trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleol. Mae fy swyddfa’n mynychu pob cyfarfod ac rwyf yn cyfrannu’n ariannol atynt. Yn yr un modd rwyf yn ariannu gwasanaethau ‘diogelwch cymunedol’ sy’n canolbwyntio ar atal trosedd a blaenoriaethau cyffredin eraill. Rwyf hefyd yn gyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Mae’r Bwrdd yn rhoi arweinyddiaeth, goruchwyliaeth a chyfarwyddyd ar faterion diogelwch cymunedol ledled Cymru. Mae’r Bwrdd yn cael cymorth gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, Rhwydwaith Gwella Data a Dadansoddi Arloesol Cymru, a Bwrdd Atal Cymru Heb Drais.
Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
Rwyf yn gyfrifol am gadeirio Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent. Mae hwn yn dwyn asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol at ei gilydd i ddarparu system cyfiawnder troseddol teg, effeithlon ac effeithiol ledled Gwent. Un sy’n atal, lleihau ac ymateb i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac sy’n canolbwyntio ar anghenion dioddefwyr a thystion. Mae’r Bwrdd wedi cydweddu ei flaenoriaethau gyda phartneriaeth Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, yr wyf yn aelod ohono. Y nod yw datrys problemau cyfiawnder troseddol perthnasol sy’n cael eu profi ar draws Cymru.
Bwrdd Diogelu Gwent
Mae’r Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent Gyfan a Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru yn cyfuno i lunio Bwrdd Diogelu Gwent. Mae’r Bwrdd yn sicrhau bod diogelu wrth wraidd pob gwasanaeth a ddarperir ledled Gwent. Fel y Bwrdd VAWDASV, mae fy swyddfa’n fy nghynrychioli ar y Bwrdd Diogelu. Mae adegau pan fyddwn yn arwain ar faterion, yn arbennig pan fyddant yn gysylltiedig â’r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Y Ddyletswydd Trais Difrifol ac Uned Atal Trais Cymru
Cyflwynwyd y Ddyletswydd Trais Difrifol yn 2023 ac mae’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar amryw o bartneriaid diogelwch cymunedol i atal a lleihau trosedd difrifol. O dan y Ddyletswydd, mae gofyn i mi ddwyn y partneriaid hyn at ei gilydd i gefnogi a monitro eu dull gweithredu. Mae rôl bwrpasol yn fy swyddfa yn rhoi cymorth i mi gyda’r gwaith yma trwy grŵp cyflawni partneriaeth, sydd hefyd yn cefnogi pob partneriaeth diogelwch cymunedol ac yn goruchwylio cyllid a ddarperir gan Lywodraeth San Steffan ar gyfer y gwaith yma. Mae Bwrdd Atal Cymru Heb Drais newydd, sy’n cael ei reoli gan Uned Atal Trais Cymru, hefyd yn dechrau chwarae rhan. Mae’r Uned Atal Trais yn cynnal gweithgareddau sydd o fudd i ni yng Ngwent.
Bwrdd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Mae fy swyddfa’n fy nghynrychioli fel aelod gwahoddedig o Fwrdd Partneriaeth VAWDASV Gwent. Yn debyg i rai o’r partneriaethau uchod, rwyf hefyd yn ariannu amryw o ymyraethau ac yn cyfrannu adnoddau i gefnogi amcanion y Bwrdd. Rydym hefyd yn arwain ar nifer o faterion. Wrth reswm, mae VAWDASV yn faes sy’n cael cryn sylw gen i ac yn achos pryder i mi, fel sy’n cael ei adlewyrchu yn y Cynllun hwn. Rwyf wedi ymroi o hyd i sicrhau bod y bartneriaeth yma mor effeithiol â phosibl.
Bwrdd Cynllunio Ardal Gwent
Mae Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gwent yn darparu Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru yng Ngwent. Mae’r Bwrdd Cynllunio Ardal yn rheoli Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, ochr yn ochr â’i ymrwymiad polisi ehangach i leihau camddefnyddio alcohol a sylweddau. Rwyf yn cyfrannu swm sylweddol o arian at y gwasanaeth yma i helpu troseddwyr i roi’r gorau i gyffuriau ac alcohol, lle mae hynny wedi bod yn rhan o’u hymddygiad troseddol.
Gweithio gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus
Yn olaf, nid yw gweithio mewn partneriaeth yn golygu gweithio gyda phartneriaid statudol yn unig. Rwyf wedi ymroi i weithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r trydydd sector a’r sector preifat hefyd. Rydym yn rhannu’r nod o leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gallwn gydweithio i gyflawni’r nod yma. Yn ymarferol, gallai hyn olygu ymgysylltu â busnesau, manwerthwyr, elusennau, sefydliadau gwirfoddol, neu roi cyngor a chymorth atal trosedd iddynt. Rwyf hefyd yn cyfrannu arian sylweddol i’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau atal trosedd a gwasanaethau i ddioddefwyr. Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) a Chynghrair Gwirfoddol Torfaen yn cyflawni gwaith hollbwysig yng Ngwent i gefnogi sefydliadau gwirfoddol. Byddaf yn parhau i weithio gyda nhw i gyflawni’r amcanion yn y Cynllun hwn.
Plismona yng Nghymru
Llywodraeth San Steffan sy’n atebol am blismona, nid Llywodraeth Cymru (sy’n bartner allweddol). Mae hyn yn creu cymhlethdod yng Nghymru, gan fod dwy lywodraeth yn gwneud penderfyniadau a allai gael effaith ar wasanaethau plismona. Mae’r Bwrdd Plismona yng Nghymru yn helpu i fynd i’r afael â hyn, trwy ddod â’r pedwar comisiynydd a phrif gwnstabl at ei gilydd i drafod materion allweddol. Byddwn yn aml yn cytuno ar ddull cyson o ymdrin â’r heriau unigryw rydym yn eu hwynebu.
Trwy gorff Plismona yng Nghymru, mae’r pedwar comisiynydd a phrif gwnstabl wedi ymroi i gydweithio ar gnewyllyn o ymdrechion ar y cyd a fydd yn creu newid parhaol i bobl Cymru. Ar gyfer cyfnod presennol y swydd, rydym wedi ymroi i:
- Weithio tuag at Gymru wrthhiliol, trwy gyflawni amcanion Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru, gan geisio adnabod a dileu’r systemau, strwythurau a phrosesau sy’n cynhyrchu canlyniadau sy’n sylweddol wahanol i unigolion a grwpiau o leiafrifoedd ethnig.
- Rhoi llais i gymunedau trwy annog cyfraniad gweithredol gan ddinasyddion at waith craffu a goruchwylio, gan geisio ffyrdd i gynyddu lleisiau’r bobl fwyaf eithriedig, a chynrychioli barn cymunedau Cymru ar faterion yn ymwneud â’r Deyrnas Unedig.
- Cael gwerth am arian i’n cymunedau trwy gydweithio ar drefniadau gwasanaeth ble y bo’n bosibl. Sicrhau bod gwerth cymdeithasol yn cael ei hybu a’i ystyried ym mhob trefniant.
- Cydweithio i gyflawni Cymru Heb Drais trwy ddatblygu strategaethau atal ac ymyrraeth gynnar i ddileu trais ymysg plant a phobl ifanc, a mynd i’r afael â phob ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched trwy ddull iechyd y cyhoedd, system gyfan.
- Gweithio tuag at gyflawni Cymru Ystyriol o Drawma trwy gyfrannu at agwedd strwythurol tuag at ddeall, atal a chefnogi effeithiau trawma a gofid.
Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru
Mae Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru yn gydweithrediad arall sy’n dwyn cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan at ei gilydd gyda’r pedwar comisiynydd a phrif gwnstabl. Mae’r cyfarfodydd yma’n hanfodol i sicrhau cyfathrebu rheolaidd, cysondeb ac i helpu i weithio trwy’r cymhlethdod ychwanegol sy’n wynebu gwasanaethau heddlu yng Nghymru.
Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd (APCC)
Mae pob comisiynydd yn aelod o Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, sy’n cynnig y gwasanaethau canlynol:
- Gwybodaeth am faterion polisi a deddfwriaeth plismona cenedlaethol
- Ymgynghori â chomisiynwyr i’w galluogi nhw i ddatblygu sefyllfaoedd polisi ac i ddylanwadu ar newid.
- Rhoi amryw o gyfleoedd i aelodau ddod at ei gilydd i ddadlau a thrafod polisi plismona cenedlaethol a pholisi cyfiawnder troseddol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid uwch.
- Hwyluso arweinyddiaeth comisiynwyr ar strwythurau llywodraethu cenedlaethol (er enghraifft: y Coleg Plismona, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a chyrff proffesiynol eraill yr heddlu).
- Cynorthwyo comisiynwyr i rannu arfer ac adnabod ffyrdd i gyflawni arbedion trwy gydweithredu.
- Rhoi cymorth i gomisiynwyr sydd am dderbyn a chyflawni cyfrifoldebau llywodraethu tân ac achub.
Cydweithrediadau Plismona
Rhoddodd Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ddyletswyddau newydd ar gomisiynwyr a phrif swyddogion i gydweithio pan fydd hynny er budd neu er mwyn effeithiolrwydd eu hardal heddlu eu hunain neu ardaloedd heddlu eraill. Mae Heddlu Gwent yn ymwneud ag amryw o gydweithrediadau, y byddaf yn eu monitro ar ran pobl Gwent. Er nad yw pob un wedi’i restru, dyma’r prif gydweithrediadau:
- Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCU) De Cymru, sy’n cael ei adnabod fel Tarian, yw’r ymateb rhanbarthol i drosedd difrifol a chyfundrefnol trawsffiniol. Lansiwyd Tarian gan Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, ac mae wedi bod yn gweithredu ers dros 10 mlynedd. Mae’n cyfrannu’n sylweddol at ein gallu i ymdrin â throseddau o’r fath. Mae’n cynnwys swyddogion o bob un o heddluoedd y de yn ogystal ag asiantaethau eraill, fel Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
- Mae Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru (CTPW) yn darparu un gangen arbennig ar gyfer Cymru gyfan i ymateb i fygythiad terfysgaeth ryngwladol ac eithafiaeth ddomestig. Mae CTPW yn helpu i wneud Cymru’n fwy diogel trwy feithrin hyder ac ymddiriedaeth mewn cymunedau. Mae’n gwneud hyn trwy weithio gyda’r cyhoedd a phartneriaid i ganfod, targedu a tharfu ar derfysgwyr ac eithafwyr.
- Sefydlwyd yr Uned Arfau Tanio ar y Cyd i ddarparu cronfa fwy, a mwy gwydn, o arbenigedd arfau tanio ar draws heddluoedd Gwent, De Cymru, a Dyfed-Powys. Yn ogystal â chynnig arbedion posibl o ran defnyddio adeiladau, mae’r bartneriaeth yn sicrhau arbedion o ran caffael a hyfforddiant. Trwy sicrhau bod swyddogion yn cael eu hyfforddi a’u defnyddio yn yr un ffordd bydd yr heddlu’n darparu gwell gwasanaeth.
- Mae’r Uned Ymchwil Gwyddonol ar y Cyd yn cael ei rannu gan Heddlu Gwent, De Cymru a Dyfed Powys. Ei nod yw cynyddu gallu, gwydnwch a’r amrywiaeth o wasanaethau a gynigir i swyddogion heddlu a thimau troseddau mawr. Bydd yr uned yn arbed miliynau o bunnau mewn arian cyhoeddus hefyd ac yn darparu gwell gwasanaeth i ddioddefwyr trosedd.
- Mae Bwrdd Goruchwylio Cydweithredu newydd wedi cael ei sefydlu i alluogi comisiynwyr i graffu ar waith y cydweithrediadau. Mae hyn yn golygu y gallaf sicrhau eu bod yn cyflawni canlyniadau i bobl Gwent, a’n bod yn cael gwerth am arian o’r buddsoddiadau rydym yn eu gwneud.
Gall gweithio gyda sefydliadau eraill ddod â buddiannau megis mwy o gydnerthedd ac arbedion ariannol. Yng ngoleuni’r heriau ariannol presennol, mae cydweithredu yn ganolog i’r gwaith o gyflawni’r arbedion gofynnol ac i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ddarparu’r gwasanaeth plismona mwyaf effeithlon i bobl Gwent.
Ariannu’r Cynllun hwn
Ar gyfer 2025/26 y gofyniad cyllideb gros i ddarparu’r holl wasanaethau plismona yng Ngwent yw £213.2 miliwn. Caiff ei ariannu fel a ganlyn:
- £86.5 miliwn gan drethdalwyr Gwent trwy braesept y dreth gyngor,
- £97.3 miliwn o grantiau’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru
- £29.4 miliwn o incwm arall
a grantiau penodol
O’r swm yma, byddaf yn dyrannu £204.9 miliwn (96%) i’r Prif Gwnstabl i ddarparu gwasanaethau plismona gweithredol a chyflawni blaenoriaethau’r Cynllun hwn. Bydd y gweddill yn ariannu fy swyddfa a’r gwasanaethau atal trosedd a gwasanaethau i ddioddefwyr rwyf yn buddsoddi ynddynt.
Mae 74% o gyfanswm y gyllideb yn talu am y 1,506 o swyddogion heddlu, 153 o swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu, a 826 o staff cefnogi sy’n gweithio i Heddlu Gwent ac yn fy swyddfa. Mae’r 26% sy’n weddill yn ariannu’r cyflenwadau a gwasanaethau dan gontract a rhaglenni cynnal a chadw cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys pethau fel cynnal yr ystâd, fflyd, technoleg, cyfarpar, cyflenwadau a gwasanaethau y mae eu hangen ar blismona i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol. Mae hefyd yn cynnwys buddsoddiad o £250,000 y flwyddyn er mwyn i ni chwarae ein rhan ar y cyd i ddatgarboneiddio’r gwasanaeth a chyrraedd targedau Sero Net.
Rwyf wedi neilltuo cyllideb o £8.3 miliwn i gyflawni fy nyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys £1.6 miliwn i gynnal fy swyddfa a chyflawni fy swyddogaethau statudol. Defnyddir £6.7 miliwn arall i gomisiynu gwasanaethau ac ariannu ymyraethau sy’n cefnogi’r Cynllun hwn. O fewn y swm yma rwyf wedi neilltuo £1 miliwn y flwyddyn i fuddsoddi mewn mentrau newydd sy’n cefnogi gwaith i gyflawni’r Cynllun. Mae hyn yn golygu y gallaf wneud hyd yn oed mwy i ddarparu gwasanaethau i’r bobl a’r cymunedau sydd eu hangen fwyaf. Bydd hyn yn cynnwys buddsoddi i wella cydlyniant cymdeithasol ein cymunedau yn rhan o fy Nghynllun Cydraddoldeb Strategol newydd.
Rwyf yn falch hefyd bod y gyllideb eleni’n cynnwys grant o £1 miliwn oddi wrth Lywodraeth San Steffan i alluogi Heddlu Gwent a phartneriaid awdurdod lleol i ddarparu patrolau mwy amlwg mewn ardaloedd ble mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem. Gwnaethom ddefnyddio’r un cyllid y llynedd i dreialu’r dull gweithredu yma a byddwn yn ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn sydd
ar ddod. Bydd Gwarant Plismona Cymdogaeth newydd Llywodraeth San Steffan hefyd yn dod â £2.1 miliwn o gyllid ychwanegol i wella galluedd yn y timau plismona cymdogaeth. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Gwnstabl i ddefnyddio’r cyllid yma i roi hwb i’r plismona gweledol sy’n rhoi tawelwch meddwl hollbwysig i’n cymunedau.
Yn ôl y ffigyrau amcan presennol, erbyn diwedd oes y Cynllun hwn, bydd angen cyllideb o ryw £240 miliwn arnaf er mwyn cynnal y lefel gwasanaeth uchod, sy’n fwy na’r incwm amcangyfrifedig. Ers 2010/11, mae plismona yng Ngwent wedi dioddef gostyngiad cyllideb o 19.2% mewn termau real wrth ystyried chwyddiant a chynnydd mewn cyflogau. Fodd bynnag, rhwng Heddlu Gwent a fy swyddfa, mae gennym ni hanes cadarn o gyflawni arbedion o ran costau cynnal, gwariant cyfalaf a thrwy gydweithredu gyda heddluoedd eraill. Rwyf yn hyderus, gyda’n gilydd, y bydd y Prif Gwnstabl a mi yn parhau i ddarparu cyllideb gynaliadwy sy’n cyflawni gwasanaethau plismona, atal trosedd a gwasanaethau dioddefwyr o ansawdd uchel i gymunedau Gwent.
Comisiynu gwasanaethau
Ochr yn ochr â darparu gwasanaeth plismona effeithlon ac effeithiol, mae gan gomisiynwyr gylch gwaith ehangach i leihau trosedd ac anhrefn, ac rydym wedi cael pwerau ac arian ychwanegol i’n galluogi ni i wneud hyn.
Rwyf yn falch o’r gwasanaethau rwyf yn eu hariannu, a’u heffaith gadarnhaol ar unigolion a chymunedau Gwent a Heddlu Gwent, ac rwyf am i’r gwaith yma barhau a mynd hyd yn oed ymhellach. Fel y nodwyd uchod, ar gyfer 2025/26, cyfanswm fy nghyllideb ar gyfer comisiynu ac ariannu gwasanaethau sy’n cyfrannu at y blaenoriaethau yn y Cynllun hwn yw £6.7 miliwn. Rwyf yn ddiolchgar bod 40% o’r arian yma’n dod o grantiau gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn ail fuddsoddi arian sy’n cael ei atafaelu gan droseddwyr trwy’r Ddeddf Enillion Troseddau yng nghymunedau Gwent. Mae’r gweddill yn dod o fy nghyllideb graidd. Yn hanesyddol mae fy swyddfa a Heddlu Gwent wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau grantiau ychwanegol a byddaf yn parhau i geisio sicrhau cyllid ychwanegol pryd bynnag y bo’n bosibl.
Mae rhai o’r grantiau llywodraeth rwyf yn eu derbyn wedi’u clustnodi ar gyfer anghenion penodol, fel gwasanaethau i ddioddefwyr. Fodd bynnag, mae llawer o hyblygrwydd o hyd yn y ffordd yr wyf yn defnyddio’r arian hwnnw, a gallaf ddyfarnu grantiau i unrhyw sefydliad neu gorff sy’n gallu helpu i gyflawni fy mlaenoriaethau. Gall hyn gynnwys Heddlu Gwent neu fy mhartneriaid eraill yn y sector preifat, y trydydd sector a’r sector statudol. Yr amcanion yn y Cynllun hwn fydd yn llywio fy mhenderfyniadau ynglŷn â pha gyllid sydd ar gael i’r heddlu a phartneriaid yn bennaf, ond byddaf yn ystyried tystiolaeth o anghenion cymunedol a barn Heddlu Gwent a phartneriaid ehangach bob tro.
Rhai o fy amcanion penodol ar gyfer cyllid yn y dyfodol fydd dargyfeirio plant a throseddwyr oddi wrth drosedd, mwy o waith i atal trosedd a gwaith diogelu cymunedol, mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, a chynnig gwasanaethau newydd i ddioddefwyr. Rwyf hefyd eisiau buddsoddi er mwyn gwella canlyniadau i gymunedau nad ydynt yn cael eu clywed trwy fy Nghynllun Cydraddoldeb Strategol. Ond nid yw’r rhestr hon yn gyflawn. Byddaf hefyd yn sicrhau bod cyllid ar gael yn ehangach i gymunedau, partneriaid ac elusennau trwy gynnig grantiau cymunedol. Yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun hwn byddaf yn penderfynu pa grantiau fydd ar gael i gefnogi prosiectau ar lawr gwlad ac ymyraethau eraill yn y gymuned sy’n cyfrannu at gyflawni fy mlaenoriaethau. Gyda’r holl wasanaethau rwyf yn eu hariannu, rwyf wedi ymroi i sicrhau eu bod yn cyflawni canlyniadau o ansawdd ac yn cynnig gwerth am arian. Dyna pam y byddaf bob amser yn sicrhau bod prosesau llywodraethu, monitro a chraffu cadarn mewn lle i reoli’r gwaith yma, gan gynnwys Bwrdd Comisiynu, wedi’i gadeirio gan fy Mhrif Swyddog Cyllid. Fodd bynnag, byddaf yn buddsoddi mewn dulliau gwella perfformiad a monitro trwy gydol fy nghyfnod yn y swydd. Bob blwyddyn, byddaf yn adolygu fy nhrefniadau trwy gyfrwng Dogfen Bwriadau Comisiynu hefyd. Mae’r ddogfen yn rhoi manylion popeth rwyf yn ei gomisiynu, a lle rwyf yn bwriadu newid yr hyn rwyf yn ei ariannu a pham. Er mwyn bod yn dryloyw, bydd manylion fy mwriadau comisiynu, y gwasanaethau rwyf yn eu hariannu a’r grantiau sydd ar gael gen i (a phryd) i’w gweld ar fy ngwefan.
Ymgysylltu â’r gymuned
Rwyf i a fy swyddfa’n ymgysylltu’n helaeth gyda chymunedau ledled Gwent.
Mae ymgysylltu da a chyfathrebu effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn gallu lleisio barn yn effeithiol ar y ffordd mae eu cymunedau’n cael eu plismona.
Mae angen eich cymorth chi arnaf hefyd, gan fod eich sylwadau chi’n fy helpu i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar berfformiad gwasanaethau plismona lleol.
Bydd ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu’n cydfynd ag amcanion hybu diogelwch y cyhoedd, meithrin ymddiriedaeth, a chynnwys aelodau’r gymuned yn ein gwaith, yn enwedig preswylwyr nad ydynt yn cael eu clywed yn aml.
Yn benodol, byddaf yn gwneud y canlynol:
- Codi ymwybyddiaeth o rôl a chyfrifoldebau’r Comisiynydd a Swyddfa’r Comisiynydd ymysg cymunedau Gwent.
- Meithrin a chynnal ymddiriedaeth yn Swyddfa’r Comisiynydd trwy gyfathrebu’n dryloyw ac yn amserol am ymgyrchoedd, polisïau, a pherfformiad plismona, a rôl y Comisiynydd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif yn barhaus.
- Sicrhau ymgysylltu ystyrlon gyda’r cyhoedd, rhanddeiliaid allweddol, a phartneriaid ehangach i gasglu adborth, rhoi sylw i bryderon, a chydweithio ar strategaethau gwasanaeth cyhoeddus.
- Cyfathrebu ymrwymiad Swyddfa’r Comisiynydd i atebolrwydd a gwaith craffu, gan bwysleisio ymdrechion i oruchwylio gweithgareddau’r heddlu, rhoi sylw i gamymddwyn, a hybu safonau moesegol.
Gwirfoddoli
Ar hyn o bryd mae gen i ddau gynllun gwirfoddoli sy’n cynnwys gwirfoddolwyr o gymunedau Gwent. Mae fy ngwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn helpu i gyflawni’r Cynllun hwn. Maent yn rhoi cymorth i mi o ran craffu ar rywfaint o waith Heddlu Gwent a sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau yn ôl y disgwyl. Mae’r sicrwydd annibynnol yma yn rhoi ffordd arall i mi wella tryloywder ac atebolrwydd a helpu i wella ymddiriedaeth a hyder. Mae’n bwysig i mi bod fy ngwirfoddolwyr yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac rwyf yn eithriadol o ddiolchgar am eu cyfraniad a’u hymrwymiad. Mae pob gwirfoddolwr yn cael cymorth gan gydgysylltydd pwrpasol yn fy swyddfa i sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant, y
treuliau a’r gefnogaeth iawn ar gyfer eu gwaith. Byddaf yn ceisio datblygu’r cynlluniau hyn yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd. Er enghraifft, rwyf eisiau archwilio cyfleoedd i gael mwy o gynrychiolwyr o’r gymuned ar rai o fy mhaneli craffu, i wella’r sicrwydd annibynnol rwyf yn ei dderbyn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, ewch i fy ngwefan, sy’n cynnwys mwy o fanylion am y cynlluniau a sut i ymgeisio.
Y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd
Pwrpas y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yw galluogi aelodau o’r gymuned leol i arsylwi, gwneud sylwadau ac adrodd ar yr amodau y mae pobl yn cael eu cadw oddi tanynt mewn gorsafoedd heddlu. Mae ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn cynnal ymweliadau dirybudd â dalfeydd, ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, i sicrhau bod hawliau pobl sy’n cael eu cadw yn cael eu parchu. Maent yn gwirio eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn briodol ac yn craffu ar eu cofnodion dalfa. Rwyf i a Heddlu Gwent yn cael adroddiadau ar ôl yr ymweliadau hyn, i’n galluogi ni i fonitro trefniadau’r ddalfa. Yn ddiweddar cynhaliodd yr Arolygiaeth arolygiad ar ddalfeydd Heddlu Gwent, felly mae gwaith ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y meysydd y mae angen eu gwella a nodir gan yr Arolygiaeth yn cael eu rhoi ar waith.
Y Cynllun Lles Anifeiliaid
Cyflwynwyd y cynllun yma i wella hyder y cyhoedd o ran cadw, trin a hyfforddi cŵn heddlu. Mae ymwelwyr lles anifeiliaid yn ymweld â’r adran cŵn, ac yn arsylwi ar yr amodau mae cŵn Heddlu Gwent yn cael eu cadw oddi tanynt - eu cytiau, a sut maen nhw’n cael eu hyfforddi a’u cludo. Maent yn adrodd wrthym ni ac yn tawelu fy meddwl bod cŵn heddlu’n derbyn gofal, hyfforddiant, ac yn cael eu defnyddio yn drugarog, yn foesegol ac yn dryloyw. Os nad yw hynny’n digwydd, byddaf yn gweithredu yn sgil y wybodaeth hon.
Cysylltu â’ch Comisiynydd
Fel y nodais yn fy Rhagair, mae cyflawni’r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder yma yn un o ofynion pwysicaf fy swydd ac yn gyfrifoldeb rwyf yn ei gymryd o ddifrif.
Mae’r Cynllun yn pennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer Heddlu Gwent a fy swyddfa ac mae’n canolbwyntio ar gyflawni gwell canlyniadau i’r cymunedau niferus ac amrywiol ledled Gwent.
Rwyf wedi gwrando ar ystod eang o safbwyntiau er mwyn pennu fy mlaenoriaethau, a byddaf yn dwyn y Prif Gwnstabl a fy swyddfa i gyfrif am gyflawni mewn perthynas â nhw.
Ond mae’n fwy na hynny. Mae’r Cynllun hwn yn amlinellu fy ymrwymiad i weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Mae’n dangos fy uchelgais i ddarparu mwy o wasanaethau, a gwasanaethau gwell, i’r gymuned. Ac yn fwyaf pwysig, mae’n dangos sut byddaf yn ymgysylltu â chi, y cyhoedd.
Rwy’n bwriadu i hon fod yn ddogfen fyw, y byddaf yn ei diweddaru a’i hadolygu’n flynyddol. Os ydych chi eisiau cysylltu â mi ynglŷn ag unrhyw faterion o fewn y Cynllun, neu ynglŷn â Heddlu Gwent a’r gwasanaethau rwyf yn eu hariannu’n fwy cyffredinol, cysylltwch yn defnyddio’r manylion isod.
Cysylltu â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Gwent, Pencadlys yr Heddlu, Llantarnam,
Cwmbran, Torfaen, NP44 3FW
01633 642200
commissioner@gwent.police.uk
Sianeli cyfryngau cymdeithasol @gwentpcc