Y Comisiynydd yn ymuno â phlant a phobl ifanc ar gyfer dathliad diwylliannol
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â phreswylwyr o bob rhan o Went ar gyfer sioe ffasiwn ddiwylliannol dan arweiniad y gymuned yn ICC Cymru.
Trefnwyd y sioe gan yr elusen KidCare4U a daeth â phlant a phobl ifanc o wahanol gymunedau at ei gilydd i ddathlu eu diwylliant, treftadaeth a'u gwisgoedd traddodiadol.
Mae KidCare4U yn cael cefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymunedol y Comisiynydd sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal clwb ieuenctid bob dydd Sadwrn. Yn ogystal â chynnal gweithgareddau sy'n annog pobl ifanc i gadw'n iach, datblygu eu hyder a gwneud ffrindiau, mae'r clwb yn darparu cymorth addysg ychwanegol i'r rhai sydd ei angen hefyd.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn ddigwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig ac roedd yn hyfryd gweld wynebau balch y plant a phobl ifanc wrth iddyn nhw ddangos eu gwisgoedd traddodiadol a'u hetifeddiaeth ddiwylliannol.
"Mae dod at ein gilydd a dathlu ein gwahaniaethau diwylliannol yn ein helpu ni i adeiladu cymunedau mwy cydlynol. Roedd yn ddigwyddiad ardderchog y gall Gwent fod yn eithriadol o falch ohono, a rhaid i mi longyfarch pawb a weithiodd mor galed i'w wneud yn llwyddiant."