Y Comisiynydd yn ymuno â gwirfoddolwyr i arolygu dalfa Gwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi ymuno â gwirfoddolwyr i arolygu dalfa Heddlu Gwent.
Ymunodd y Comisiynydd gydag ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn ystod arolwg o amodau a lles y bobl oedd yn cael eu cadw yn nalfa Heddlu Gwent yn Ystrad Mynach.
Gwirfoddolwyr yw Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd sy'n ymweld â dalfeydd Heddlu Gwent yn ddirybudd er mwyn gwirio sut mae pobl sy’n cael eu cadw ynddynt yn cael eu trin, amodau'r ddalfa ac i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu parchu. Mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Meddai Comisiynydd Mudd: "Roedd ymuno â'r ymwelwyr â dalfeydd yn ysgogi meddwl ac yn gyfle i weld yn uniongyrchol y prosesau sy'n cael eu dilyn i sicrhau bod Heddlu Gwent yn cynnal y safonau uchaf a bod pobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa'n cael eu trin yn briodol.
“Maen nhw'n chwarae rhan bwysig yn helpu fy swyddfa i sicrhau gwaith craffu cadarn a bod Heddlu Gwent yn gweithio'n dryloyw.”
Mae rhagor o wybodaeth, cofnodion ac adroddiadau'r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ar gael ar fy ngwefan: https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/amdanom-ni/chwarae-rhan/ymwelwyr-annibynnol-a-dalfeydd/