Y Comisiynydd yn holi'r Prif Gwnstabl ar ran trigolion Torfaen

23ain Ionawr 2026

Cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ei Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus diweddaraf gyda Phrif Gwnstabl Mark Hobrough i drafod y materion sy'n effeithio ar gymunedau yn Nhorfaen.

Mae Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus y Comisiynydd yn rhoi llwyfan i Gomisiynydd Mudd dynnu sylw at brif bryderon cymunedau ledled Gwent a'u dwyn nhw'n uniongyrchol i sylw'r Prif Gwnstabl.

Recordiwyd y fforwm diweddaraf yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân a gellir ei wylio ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae fy Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus yn gyfle i mi holi'r Prif Gwnstabl ar ran trigolion a thynnu sylw at eu pryderon.

"Trwy gael sgyrsiau agored, gonest a thryloyw, rydym yn sicrhau bod lleisiau trigolion yn cael eu clywed, a bod trigolion yn helpu i lywio plismona yma yng Ngwent."