Y Comisiynydd yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Plant

20fed Mai 2025

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd gyda phlant a phobl ifanc i nodi Diwrnod Cenedlaethol y Plant mewn seremoni arbennig yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd.

Perfformiodd plant o ysgolion ledled Casnewydd ganeuon a cherddi, gan ddangos eu sgiliau perfformio wrth ymdrin â phynciau anodd fel hiliaeth mewn cymunedau trwy farddoniaeth a rapiau roedden nhw wedi eu hysgrifennu. Gwnaethant siarad am ba mor bwysig yw hi fod plant yn cael llais yn eu cymunedau hefyd a'u bod yn cael eu clywed gan yr oedolion sy'n gwneud y penderfyniadau.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw croesawodd Comisiynydd Mudd a'r Prif Gwnstabl Mark Hobrough grŵp o Heddlu Bach o Ysgol Gynradd Nant Celyn i Bencadlys Heddlu Gwent. Cafodd y plant eu tywys o gwmpas yr adeilad, aethant i Ystafell Gyswllt a Rheoli'r Heddlu a chawsant ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl.

Cawsant sgwrs gyda rhai o dîm trinwyr cŵn Heddlu Gwent hefyd ac arddangosiad arbennig gan Ruby - un o'r cŵn heddlu.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae Diwrnod Cenedlaethol y Plant yn cydnabod pwysigrwydd plentyndod iach ac amddiffyn hawliau a rhyddid plant a phobl ifanc.

"Mae teimlo'n ddiogel yn eich cartref, eich ysgol a'ch cymuned yn rhan allweddol o hyn. Un o fy ymrwymiadau fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd yw gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a bod yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthym ni'n llywio'r ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau.

“Yn rhan o fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder rwyf yn gweithio ar Siartr Plant a fydd yn amlinellu'r ffordd y bydd fy swyddfa yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y dyfodol. Bydd yn cael ei greu gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc, a thrwy weithio gyda'n gilydd rwyf yn hyderus y gallwn ni wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."