Y Comisiynydd yn dadorchuddio arddangosfa rymus i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn
Mae arddangosfa o waith celf wedi cael ei dadorchuddio ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn. Crëwyd yr arddangosfa i ysgogi pobl i siarad am drais yn erbyn menywod a merched.
Ymgyrch byd-eang yw Diwrnod Rhuban Gwyn i ddileu trais ar sail rhywedd, ac mae’n cael ei nodi ar 25 Tachwedd.
Mae'r arddangosfa'n dangos gwaith gan aelodau o'r prosiect celf cymunedol Threads, ac mae'n ymdrin â thrais yn erbyn menywod yn defnyddio themâu sy'n cynnwys cofio, ffeministiaeth, a gwydnwch.
Cafodd llawer o'r darnau celf eu harddangos yn yr arddangosfa ‘Resilience’ yn Aberhonddu'n gynharach eleni, ac mae nifer o ddarnau'n cael eu dangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Nod yr arddangosfa yma yw gwneud i chi feddwl am agwedd cymdeithas tuag at fenywod a merched.
"Dyw'r ffigyrau ddim yn dweud celwydd. Mae menywod a merched yn llawer mwy tebygol o gael eu poeni, eu cam-drin, a hyd yn oed eu lladd gan ddynion yn ein cymunedau. Mae'n rhaid i ni roi'r gorau i wneud esgusodion dros yr ymddygiad a'r agweddau niweidiol hyn.
“Hoffwn ddiolch i'r arlunwyr sy'n gyfrifol am yr arddangosfa yma am ei rhoi ar fenthyg i ni a'n galluogi ni i ddod â hi i bencadlys Heddlu Gwent, lle gallwn annog y trafodaethau hyn a gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.”
Bydd yr arddangosfa ym Mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, a bydd swyddogion a staff o bum sir Gwent yn cael cyfle i fynd i'w gweld.
Meddai Prif Gwnstabl Mark Hobrough: "Trwy ddod â'r arddangosfa yma i bencadlys yr heddlu, nid yn unig mae'n atgoffa ein cymunedau o'n hymrwymiad i ymdrin â thrais yn erbyn menywod a merched, mae hefyd yn annog trafodaethau ymysg cydweithwyr am sut mae agweddau ac ymddygiad yn gallu cynnal anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a thrais ar sail rhywedd. Mae gwisgo rhuban gwyn yn addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi na chadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i godi llais, ac mae'n bwysig ein bod yn annog pobl eraill i wneud hynny hefyd.
“Efallai bod cymryd safiad yn erbyn ffrindiau neu gydweithwyr yn gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, ond rhowch eich hun yn esgidiau'r rhai sy'n gorfod dioddef y sylwadau rhywiaethol, amhriodol, a chas at fenywod. Iddyn nhw, mae'r sylwadau yma'n waeth nac anghyfforddus.
“Gallwch godi llais mewn sawl ffordd, o ddangos gwrthwynebiad yn y fan a'r lle a chymryd ochr rhywun, i riportio pryderon ar ran rhywun arall.
“Rydym wedi cymryd camau cadarnhaol i wella ein diwylliant ein hunain a'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i ddioddefwyr, ond rydym yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud. Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i ymdrin â thrais yn erbyn menywod a merched er mwyn ail adeiladu ymddiriedaeth a hyder."
“Rydyn ni wedi ymroi i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell ac amddiffyn dioddefwyr. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef y drosedd yma, dewch i siarad gyda ni.”
Rhoddwyd yr arddangosfa ar fenthyg i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd gan aelodau o'r prosiect celf cymunedol Threads, a chafodd ei dangos yn Aberhonddu yn ddiweddar.
Mae Carol Kay yn un o'r tri arlunydd sy'n gyfrifol am yr arddangosfa, ynghyd â Kerri Thomas a Mary Wrenn. Dywedodd: “Rydyn ni'n falch o'r cyfle yma i ddefnyddio ein celf i ganolbwyntio ar broblemau casineb at fenywod a thrais yn erbyn menywod. Bob blwyddyn, mae o leiaf 100 o fenywod ym Mhrydain yn cael eu llofruddio gan ddynion, bron bob tro gan rywun maen nhw'n ei adnabod yn dda - partneriaid presennol neu gyn-bartneriaid, perthnasau neu ffrindiau agos.
"Mae ymchwil yn dangos bod arwyddion clir o berygl cyn y llofruddiaethau hyn ac mae ein gwaith ni'n tynnu sylw at y rhain. Rydyn ni eisiau defnyddio ein creadigrwydd i wneud gwahaniaeth ac rydyn ni'n ddiolchgar i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl am ein helpu ni i wneud hynny."