Y Comisiynydd yn cwrdd â gwirfoddolwyr lles anifeiliaid
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cwrdd â'r gwirfoddolwyr ymroddgar sy'n sicrhau bod cŵn heddlu Gwent yn cael gofal da.
Ymwelwyr lles anifeiliaid sy'n gyfrifol am gadw golwg reolaidd ar gŵn heddlu Gwent tra maen nhw'n gweithio a thra maen nhw gartref gyda'u trinwyr. Maen nhw'n gwneud yn siŵr bod yr anifeiliaid yn hapus, yn iach, a bod eu holl anghenion yn cael eu bodloni.
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd sy'n goruchwylio'r cynllun ac mae wedi derbyn ardystiad gan Dogs Trust am ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan wirfoddolwyr.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae cŵn heddlu Gwent yn chwarae rhan arbennig o bwysig yn ein cadw ni i gyd yn ddiogel. Rydyn ni'n gofyn llawer ganddyn nhw ac mae'n bwysig ein bod ni yn ein tro yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n derbyn gofal da.
"Mae ein hymwelwyr lles anifeiliaid yn darparu haen ychwanegol o graffu a chymorth, gan sicrhau bod ein cŵn heddlu, sydd mor annwyl gan bobl Gwent, yn hapus ac yn iach.”